Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
WEDI COLLI POB YMPPIRIEP
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WEDI COLLI POB YMPPIRIEP "MARCH i gyfreithiwr ydwyf fi, John, fy anwylyd," meddai hi, wedi i John gynnyg ei hun, acwyrach na welech ddim allan o le ynwyf pe bawn yn gofyn i chwi lawnocli papyr bychan i sicrhau ein hymrwymiad, neweh chi, John ?" Yr oedd John yn teimlo yn rhy ddedwydd i feddwl am ddim ar y pryd ond ei sefyllfa baradwysaidd, a llawnododd y papyr gyda pharodrwydd, ei fynwes yn llawn o gariad. Yna dododd Mary Jane ei chlust wrth fotwm canol ei wasgod isaf, ac yr oeddynt yn ber- ffaith, berffaith ddedwydd. Dywedwch wrthyf, Mary Jane," meddai, "paham yr oeddych eisieu i mi seinio y papyr yna, ai o ddiffyg ymddiried ynof, a oeddych yn amheu fy nghariad tuag atoch ?" 0, oeddwn," meddai, gan dynu ocbenaid ddofn, yn siwr yr oeddwn i, oherwydd, anwyl John, yr wyf wedi cael fy nhwyllo gynnifer o weithiau o'r blaen."
PA FODD I GADW BU NDER DRAW
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PA FODD I GADW BU NDER DRAW FFERMWR (wrth y meddyg) Os byddwch chwi yn dyfod y ffordd acw, doctor, unrhyw amser, byddai yn dda genyf i chwi alw i mewn i weled fy ngwraig. Maehi'n dyweyd nad ydyw yn teimlo yn iach. MEDDYG Beth ydyw rhai o arwyddion ei hafiechyd ? FFERMWR: Wel, wn i ddim; ond y boreu heddyw, wedi iddi odro'r buchod, a rhoddi bwyd i'r moch, a gwneyd boreufwyd i'r dynion, a glanhau y dysglau, a gwneyd tan o dan y boiler mawr yn y ty golchi, a gwneyd rhyw fan orchwylion ereill o gwmpas y gegin, a bwydo'r ieir, a myned i'r ardd i godi tatws erbyn ciniaw, yr oedd hi'n cwyno ei bod wedi dechreu blino. Fuaswn i yn rhyfeddu dim nad allai fod ei chylla hi allan o drefn, ne rwbeth, ac y gwnai dogn o feddyginiaeth les iddi.
Y GWIR ACHOS PAHAM
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GWIR ACHOS PAHAM Y FAM (yn bryderus) Paham na yrit ti y bachgen direidus yna o gwmpas ei fusnes, yn lie ei fod o yn dy hymbygio di fel yna ? BACHGEN BYCHAN DA: Oherwydd fyddai hyny ddim yn iawn. Y FAM Paham hyny ? BACHGEN: Oherwydd y mae gan yr holl blant hawl i chwareu ar y lawnt yma. Y FAM 0, yr ydw i 'n gwel'd. BACHGEN Oes, ac mi fyddai yn dro cas a hunanol i mi yru neb o'r lie, ac y mae y bachgen yna yn byw yn mhell oddiyma, a does geno io neb ond fi i gadw chwareu teg iddo fo. Y FAM Dyna hi, machgen anwyl i; ddaru mi ddim meddwl am hyny. BACHGEN: Ac heblaw hyny, mi all hwna xoi curfa i mi os tynaf fi o yn fy mhen.
- Y PiWEPDAR PR ARTHUR JONES,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PiWEPDAR PR ARTHUR JONES, BANGOR DABTH gwraig fawr lyfndew i mewn i'r capel lie yr oedd Dr Arthur Jones yn pregethu, a phlentyn anesmwyth, blin a nwyfus ar ei braich. Yr oedd yn amIwg fod y bychan wedi cael digonedd o'i ffordd ei hun, ac yr oedd ei lais yn bygwth boddi .9 llais y pregethwr. Wrth wel'd y gwrandaw- wyr yn troi ac yn edrych yn ol, meddyliai y wraig mai edmygu llais ei baban yr oeddynt. I ychwanegu at y dirfawr helynt, ac i ddi- fyru y plentyn a'i gadw yn foddlawn, tynodd y wraig swp o agoriadau o'i phoced, a dyna lie yr oedd yn eu tincian er mwyn cael dis- tawrwydd, megis-nes tynu sylw yr holl gynnulleidfa. O'r diwedd, dirwynodd edaf hiramynedd y pregethwr i'r pen, a dywed- odd ar ganol ei bregeth Wraig, a ydyw y gynnulleidfa barchus yma wedi dod yn nghyd i wrandaw arnoch chwi yn curo hoelion wyth i arch Noa drwy'r boreu yma ? ac i lochi'r baban swnfawr yna wneyd ei nadau ? ewch ag ef allan ar unwaith, ac ar- hpswcli allan, a pheidiwch a meddwl y pewch chi waeyd ty Dduw yn ogof lladron."
DYNION DOETH ABDERA
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYNION DOETH ABDERA YR oedd ar un o drigolion y dref uchod eisieu myned i daith diwrnod, ac i'r .dyben hwnw llogodd asyn yn nghyd a'i berchenog. Yr oedd yn ddiwrnod poeth anarferol, a'r haul yn tywallt ei belydrau i lawr ar yr anialwch tywodlyd lie nad oedd na chraig, na choeden, na chysgod o un math. Yr unig gysgod a ellid gael oedd cysgod yr asyn; a chymerodd llogwr yr asyn fantais ar hwnw, gan orwedd ynddo i orphwyso. Yr oedd perchenog yr asyn drachefn yn dadleu nad oedd ganddo hawl, os oedd wedi llogi yr asyn, nad oedd wedi llogi ei gysgod hefyd. Er mwyn setlo'r pwnc rhoed y daith i fyny. Aed i gyfraith gostus, yr hon a barhaodd am fisoedd; ac o'r diwedd, cymerodd yr holl ardal ran yn y cweryl, nes yr oeddynt wedi ymranu yn bleidiau cyfartal o gysgodion ac "asynod," pan fu gwrthddrych brefol yr holl ymrafael farw.
v-J-.. FFITIO'R GWADN FEL…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
v-J- FFITIO'R GWADN FEL BO'R TROED YR oedd William Sholgrop, Ysw., wedi eistedd i lawr yn mharlwr y Bedol, yn mhentref gwledig Pwllygro; ac er nad ydyw parlwr y Bedol ond parlwr gwesty hoMol Gymreig, a'r olygfa oddiallan ond mynyddig a brigwelltog, hollol felly, ac Er fod y lie yn anmhwrpasol I dderbyn penclefig mor dra urddasol," er hyny yr oedd hunanymwadiad a mawr- frydigrwydd William Sholgrop, Ysw, i lynu a'r amgylchiadau pan ddaeth hen ffarmwr gwledig i mewn a'i chwip yn ei law, gan edrych yn synedig arno, a gofyn iddo, "Yn eno'r cymhorth, syr, ydach chi'n gwybod eich bod yn smocio dwy cigar ar unwaith ?" O, ydw 'rydach chi'n gwel'd," meddai William Sholgrop, Ysw,_ mewn goror mor dlawd a hon, 'does dim cigars chwe cheiniog, fel ag a fyddaf fi arfer a'u smocio, i'w cae!. Gan hyny, yr wyf yn gorfod smocio dwy o cigars tair ceinio gyda'u gilydd er mwyn gwneyd i £;yuy'r gwahaniaeth yu y pris."
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
^AFFIQ-WREIDDIOL JJVERTON (NOBILE TT' S). YN CAEL EI WNEYD YN 21, VILLAGE- STREET, EVERTON, LIVERPOOL. Lie yr oedd y Darganfyddwr Gwreiddiol o Everton Taffi yn trigiannu, a'r hWIÚ1 agorodd y masnachdy yn 1790, yn lie yr oedd yn gwneyd ei Thaffi, a'r hwn a bwrcesid gan bob dospartli o bobl, o'i Mawrhydi i lawr, ac a sefydlodd iddo ei Iran enw adnabyddus dros yr holl fyd. TAFFI EVERTON Is., 2s., a 5s. y BOOS Gellir eu cael gan unrhyw Confectioner, neu anfoner ef (wedi talu y cludiad) o'r Wnoutlrarfa, 21, Village- Street, Everton, Liverpool, ar dderbyniad Is. 6c.; 2s. 4!c; neu 5s. He. 2 2 Just Look Here! HA PATENT (f ^PILdLtSv-■ \V\ I 1/ PRICE lS_ I 11 Sold liy ilie- Proprietor. } B I 1 1\ ST. HELENS IS I E14CLANX)- hBHHP 6,000,000 Boxes Yearly, Which means Every time the Clock ticks 11 BEECHAM'S PILLS Have reached their destination. For Half a Century BEECHAM'S PIIjIjS Have been Globe -trotting,' and have worked their way into the innermost parts. It's Welltoknow a G00D THING when It'o Roftop toyhave a GOOD THING when lu b DuuutJi you can. BEECHAM'S PILLS should always be handy, and handed down to posterity as WORTH A GUINEA A BOX. I l'fo 10 inn chnpf • ^len we should do our Llib lb IUU bllUI b, best to proloi}g it> Sufferers will find BEECHAM'S PILLS a. 'trump card' to 'put down.' THEY I SWEEP THE DECK' of Bilious and Nervons Disorders, Sick Headache, Liver Complaint, Impaired Digestion, Weak Stomach, Constipation, Uncomfortable Fulness, Loss of Appetitej A.nd they regulate the Secretions,