Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Er fod Twr Eiffel, yn Paris, wedi cael ei wneyd heb i neb golli ei fywyd, y mae tua 6 30 o bersonau wedi lladd eu hunain drwy neidio o'i ben. Ysgorpionau yw y creaduriaid mwyaf cecrus a gwenwynllyd i'w gilydd sydd yn bod. Pc rhoddid dau hefo'u gilyd I dron nos, byddai i un ladd y llall cyn y borsu.
PENNOD XV.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
rydw i yn i nabod lihw yn iawn, ac mi welis rai ohonyn nhw yn llowcio cymint a neb welis i rioed mewn cin lleied o amser, ond os bydd rhywun fydd yn i nabod nhw yn digwydd bod i fiawn, stumog wael iawn fydd gynyn nhw at ddim ond cropar o ddiod ditotal. A dyna i chi'r bobl fydd yn fy mhasio fi a fy ffasiwn ar y Sul fel taswn i yn rhy aflan i fod yn yr un plwy a nhw. Mi fentra ddeud y mod i yn fwy gonest fy myw na'r siort yna hefo'u holl Gyrnals a'u esboniada i gyd." Reit dda, Huw, rwyt ti yn dyweyd eitha gwir am ambell un, ond mae arnaf ofn dy fod di yn rhoi crefydd i lawr o achos rhyw ychydig o rai diffaeth felly." Sonis i ddim gair am grefydd. Yn y meddwl i dydi crefydd-hyny ydi, crefydd iawn, wyddoch, fel sy gin Roland Robaits, y teiliwr-ddim 'run peth o lawer a dewin- iaeth—ne bedach chi'n alw fo-rhw hen dacla cyn waethed a mi fy hun yn hollti blewyn yn nghylch adnod, ac yn treulio prydnawn cyfa ar y Sul i ddadla yn nghylch p'run ddylsa y gair ac fod yn y fan yma ac ond yn y fan arall. Twt, lol, hen hambygs. Ma'n nhw yn meddwl ond iddyn nhw fedru sbonio adnod fel Mr Hopcyn ne adrodd y deg gorchymyn heb fisio yr un gair, fod gynyn nhw hawl i gael i cyfri yn grefyddwrs, waeth faint o'r deg gorchymyn dora nhw ond iddyn nhw fedru gwneyd hyny heb i neb gael gwybod. Os crefydd ydi peth fel yna, gwell gin i mhentro hi yn mlaen heb grefydd." Gan fod enw Roland Roberts, y teiliwr, wedi cael ei grybwyll," ebai un o'r dynion, faint ohonoch chi sy wedi clywed am y digwyddiad rhyfedd hwnw gymerodd le tra 'roedd yr hen law digri yn gweddio yn y cyfarfod gweddi hwnw gynnaliwyd dro yn ol i weddio am wlaw ? Wel, yr ydach chi i gid yn gwybod un mor od ydi'r hen deiliwr duwiol—mae o yn fwy rliyfadd 'i ffordd na hyd yn nod Griffith Jones, Tregarth. Yr oedd hi wedi bod yn dywydd anarferol o sych am amser maith un tymhor, ac yr oedd y wybren yn glir a serenog, heb yr argoel leiaf o wlaw, fel yr oeddynt yn myn'd i'r capel i gynnal y cyfarfod gweddi y noson hono. Toe cododd yr hen Roland i weddio, ac fel y gwyddoch chi, un go faith ydi'r hen frawd ar 'i linia. Pan oedd o ar ganol y weddi, ac wedi myn'd i'r hwyl, fel arfer, dyma bwff sydyn o wynt a thrwst curwlaw mawr yn clecian ar y ffenestri, er syndod i bawb, mae'n rhaid dweyd-gan mor fechan yw ffydd dynion ar y goreu. Ysgydwid ffenestri'r capel gan y gwynt, a rhuthrai y gwlaw i fewn yn llifeiriant drwy y rhai oedd yn agored ohonynt. Stopiodd yr hen deiliwr ar ganol ei weddi, cododd ei gJust i fyny, gan wrandaw ar y gawod ddychrynllyd am fynyd mewn distawrwydd syn, ac yna, fel pe yn cael mwy nag a ofynai am dano, dywedodd, Twt, twt, Arglwydd mawr, mae hynyna allan o bob rheswm.' Mae gin i un well na hona am yr hen deiliwr," ebai Huw. Mi gawn ni ei chlywed hi rywbryd eto, Huw," meddai un o'r dynion. Gwyddent oil mai llurgunio -hanesyn wnai Huw wrth geisio ei adrodd, a gwneyd ffwl ohono ei hun. Glywsoch chi, lads, fod Jones, y stiward bach yma, wedi cael ei benodi yn ben stiward ehwarel Harri Dolgynfi?" gofynai Harp o ddyn mawr a eisteddai mor agos i'r stove nes yr oedd arogl ffustian llosgedig wedi treiddio drwy'r caban er's meityn. Naddo Tybed ei fod o?" "Ydi, mae'n reit wir-yn ben stiward, cofiwch chi, ac heb yr un stiward arall o dano fo." Ond be wyr hwna am chwarel ? Mae Jones yn gwybod cymaint am ddaeareg ag a wyr Huwcyn yma am ddewiniaeth,' chwedl yntau." Mae chwarel Harri yna yn cael i difetha fel y mae hi. Mi geiff i difetha fwy pan eiff hwn yno." Wel gadewch iddyn nhw, lads; mi ddaw y meistriaid i weld toe pwy ydi i gwir gy- feillion nhw." Mi glywis fod chwarel Wynn, y twrna, ar werth ac fod yn debygol y buasai rhyw gwmni mawr o Gaer wedi phrynu hi yr wsnos diwedda oni bae fod golwg fler arni. Ond toes yn hono ddim heblaw baw, a ffwl fyddai'r sawl pryna hi." Mi ddeudodd rhywun wrtha i fod Harri Dolgynfi yn brolio mai y fo pia Dolgynfi a'r eiddo i gyd, ac i fod o am hel Pyrs i ffwr." Mae Pyrs wedi mynd oddyna er's wsnos, ac yn lodgio yn yr Elidir Hotel," ebai un oedd yn byw yn ymyl yr hotel. Mi gwelis o f'hunan amryw weithia gyda'r nos." Naddo, ddim yr wsnos dweutha, achos rydw i yn gwbod i fod o yn aros yn Dolgynfi hyd yma, beth bynag," meddai Ned Robing, yr hwn oedd wedi dod i fewn yn ei ol erbyn hyn, ond ma'n ymddangos i mi fod rhwun yr un fath yn union a fo wedi dwad i'r cymdogaetha yma rwan, achos mi welis y naill neithiwr a'r llall cyn pen chwarter awr ar 'i ol o. Rhaid ma'r dyn diarth yma sy'n aros yn yr hotel." Ma rhwbeth od iawn yn digwdd yn y cym'dogaetha yma yrwan yn nglyn a theulu'r Dolgynfi yna byth er's pan fuo farw yr hen Morgan Llwyd," meddai un o'r dynion; "mae yma laweroedd wedi gwel'd Pyrs mewn gwahanol fana yr un adeg yn union. Dyna fo wedi cael 'i wel'd yn yr Hawk and Buckle, Caernarfon, ryw noson bythefnos yn ol, tra yr oedd rhywun arall wedi 'i wel'd o efo'i gariad yr un mynyda yn myn'd o Dol- gynfi-saith milldir o Gaernarfon. Wed'yn dyna fo yn nghadlas Bryncoch, yn helpu i ddiffodd ytân yn y das wair, a hyny yr un amser yn union ag yr oedd Morris, certiwr Dolgynfi, yn 'i wel'd o yn myn'd yn y tren o'r stesion, ddwy filldir a hanner o Bryncoch. A dyna i chi beth rhyfedd-Morris 'i hunan wrth ddwad yn ol o'r stesion yn gwel'd Pyrs yn neidio o gadlas Bryncoch, ac yn 'i basio fo heb ddweyd dim wrtho. Wed'yn dyma Ned Robins yn 'i basio fo ar y ffordd ddwy- waith yn olynol neithiwr, ac ynta yn gwadu wrth Ned mai fo welodd o y tro cynta. A dyma chi yn deud i fod o yn aros rwan yn yr Erlidir Hotel ac yn byw yn Dolgynfi befyd run pryd. Marciwch chi, mae rhwbath cCts yn myn'd i ddigwydd i Pyrs cyn bo hir. Dydi arwyddion annymunol fel yna ddim yn dwad heb fod iddynt ryw sylwedd heb fod yn mhell." 11 Wel, dydi priodi ddim yn beth an- nymunol iawn i'r rhai fydd yn leicio cymryd i rheoli gin y merchaid," meddai hen lencyn swil a eisteddai yn y gornel yn ddistaw hyd yn hyn, a dyna be sy i ddigwydd i Pyrs cyn pen pythefnos, achos mae o a Maggie Mr Hopcyn i gael eu priodi wsnos i ddydd Mercher nesa." Taw fachgen Lie clywist di ?" gofynai amryw ar unwaith. Pe buasai Huwcyn y Benglog wedi dweyd hyn, ni fuasai neb yn cymeryd sylw ohono, ond pan lefarai yr hen lane byddai yn cael sylw gan y gwyddent oil na byddai ef byth yn dweyd dim os na fyddai ganddo ryw sail dda iawn dros yr hyn ddywedai. Yn y cyfwng yma aeth un o gynffonwyr Mr Robertson Jones, y stiwart bach, allan i chwilio am ei feistr, ac wedi dod o hyd iddo yn y machine pwyso, adroddodd wrtho yr oil glywodd yn y caban am "yspryd Pyrs yn ymddangos i wahanol bobl ar wahanol adegau. Nid oedd hyn, fodd bynag, ond rhagarweiniad i rywbeth arall oedd ganddo i'w ddweyd. Mi clywis nhw yn deyd hefyd y'ch bod chi am gael eich gneyd yn stiwart yn chwarel Dolgynfi, Mr Jones." Pwy oedd yn dweyd hyny ?" gofynai Mr Jones yn sychlyd. Hwn-a-hwn. Os oes gwir yn y stori, tybed y bydd yna ryw siawns i mi gael dwad efo chi ?" "Cawn wel'd sut bydd pethau eto. Mi gofia i am danat, raid i ti ddim petruso." Thanciw syr." "Pwy oedd yn deud fod Pyrs yn myn'd i briodi mor fuan ?" Twm Hughes, yr hen lane." Aie ? Wel, rhaid fod rhwbeth yn y stori hono, beth bynag. 'Sgwn i a ydi Harri Llwyd yn gwbod hyn. Dydw i ddim yn meddwl 'i fod o, ond mi ddylai gael gwbod," a phenderfynodd Mr Jones y caffai wybod y noson hono drwy iddo ef fynecl yno i ddweyd, Yr oedd Mr Jones, nid yn unig yn gariwr clecs o'r fath berffeithiaf, ond gwyddai hefyd pa du i'r clawdd oedd clytaf, ac, wrth gwrs, gwnaeth ei feddwl i fyny nid yn unig i ddyweyd am y briodas ond am y 11 ddrych. iolaeth o Pyrs oedd i'w gwel'd yma ac acw drwy'r ardal yn ol straeon pobol. Cawn weled canlyniadau rhyfedd ymweliad Mr Jones a, Dolgynfi yn ein nesaf. Erbyn hyn yr oedd y prydnawn wedi cerdded yn mhell, a chan nad oedd dim argoel i'r tywydd wella, gwelid y dynion yn y caban yn hwylio i fyn'd adref-y rhan fwyaf yn taflu hen sachau ar euhysgwyddau, ac ambell un mwy aristocrataidd yn dodi ei got oil am dano—ac yna pawb yn cychwyn a'u piseri bach yn eu dwylaw, gan gyflymu i fyny yr incline, ac yn fuan yr oeddynt yn ymddangos fel haid o dylwyth teg drwy'r gwlaw a'r niwl, yn croesi ar draws y tomenydd, yn uchel i fyny'r chwarel, am gartref ac aelwyd gynhes, gan adael yr hen chwarel i'r gwynt a'r ystorm. (I'w barhau.)