Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Rhydd y darlun uchod feddylddrych i'n darllenwyr iouainc pa fodd y gwisgir morwynion ieuainc priodasol. Jacket ddefnyddiol yclyw yr uchod ar gyfer y tymlior. Gwneir hi o serge du a braid glas, yr byn sydd yn ei gwneyd yn hynod o hardd.
Y TY A'R TEULU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y TY A'R TEULU Bodhyfryd, Awst 29, 1893. NWYL CATSAN, Yr oedd yn dda genyf glywed dy fod yn iach, ac yn gwerth- fawrogi yr ychydig awgrym- iadau a roddais yn fy llythyr diweddaf ar sirioldeb yn y teulu a phethau buddiol ereill. Dyna dalent werthfawr arall, ie, un ag y gwelir ei gwerth bob dydd, ydyw gallu bod yn dawel a digyffro, yn "llariaidd ac yn bwyllog, pan fyddo rhai ereill yn berwi dros yr ymylon megis, mewn tymher ddrwg, wyllt, ac afrywiog. Mor ami yr ydym yn cael prawf o niweidiau tymher ddrwg mewn bob cylch o gymdeithas, a'r tafod hwnw sydd yn gwneyd troell naturiaeth yn fflam." Clywsom lawer tro rai yn gofidio eu bod wedi dyweyd gair angharedig yn eu gwylltineb y buasai yn ddrwg gan eu calon ei ddweyd ar droion ereill. Ateb arafaidd," -Catsan-dyna fel y dywed y dyn doetli: Ateb arafaidd a ddetry lid ond gair garw a gyffry ddigofaint." A phe digwyddai i dy fyn'd ar dan, o ran hyny, neu ryw ddamwain arall, y mae pwyll ac amynedd un yn well na rhuthr a chyffro cant o wyr yn ami. Nis gwn i a ydyw gwragedd Babilon Fawr Llundain yna erioed wedi darllen yr hen lyfr? Pe tasa Solomon wedi bod drwodd yno yn ddiweddar yma, fuasai fo ddim yn gallu tynu gwell darlun o "wraig ffol siaradus nag y mae o wedi wneyd yn y dyddiau gynt. Dyna Siani'r Glep," er engraipht a "Susan gwau Sana," fel y byddwn ni yn eu galw nhw, mor debyg ydyw y naill a'r llall i'rhon a welodd y gwr doetl-i pan y dywedodd Canys hi a eistedd ar ddrws ei thy ar fainc, yn y lleoadd uchel yn y ddinas. I alw ar y neb a fyddo yn myned heibio, y rhai sydd yn cerdded eu ffyrdd yn uniawn." Ma'n gas gin bobl fyn'cl drwy'r pentref, Sul, gwyl, na gwaith, oherwydd bydd y gwragedd segur yn siwr o fod ar ben y drws yn llygadrythu, yn holi ac yn barnu ar bawb a elo heibio. Y mae yn resyn gwel'd gwragedd mewn gwlad Grist- ionogol mor anwaraidd ac mor gas ganddynt am ddyledswyddau cyffredin teuluaidd, a phob gorchwyl yn faich. Son am wragedd Awstralia a lleoedd ereill yn y gwledydd pell, y mae nhw yn frenhinesau mewn llawer o ystyron o'u cymharu a gwragedd bythynod seimlyd ac annhrefnus Pwllygro, a hyny o fewn cyrhaedd swn pregethiad yr efengyl ac emynau Ann Griffiths a Williams, Pantycelyn. Mae nhw'n deyd fod glanweithdra yn nesaf peth i dduwioldeb; a byddai yn burion peth i'r hen Sian Dafydd gofio hyny yn lie iijynd o'r naill dy i'r llall i hela straeon. Beth fuasai gwragedd Pwllygro yna yn feddwl o'r talentau teuluyddol a ddangosir yn y desgrifiad hwn o wraig sydd yn werth- fawrocacli na'r carbwncl. Yn codi am bump o'r gloch yn y boreu, a chyn i'r awrlais daro chwech, bydd yr holl dy mewn trefn, a'r plant wedi ymwisgo ac wrth eu gwaith, y morwynion wedi dechreu ar dasg. y dydd- Unrliyw waith a ellir ei wneyd yn y cyfnos, a adewir hyd yr adeg hono. Bob Sadwrn., bydd yu archwilio gwisgoedd y teulu. Pan fyddo't llieiniau wedi gwisgo allan yn y canol, y mae yn eu troi, ac yn gwneyd i'r rhanau cyfanaf fod yn y canol. Troedir hosanau ddwywaitli neu dair drosodd, a gwneir ei holl wisgoedd ei hunan a'r plant gartr'ef. Y mae yr ardd bob amser yn drefnus ac yn llawn o bethau defnyddiol at wasanaeth y ty. Y mae hi yn credu fod newid gwaith cystal a gorphwys, ac yn yr ardd y bydd yn trefnu pethau pan wedi blino gyda gwaith y ty, a'r llysiau o'i meithriniad hi ei hunan ydynt y rhai rhagorfa yn yr ardd. Y mae meddwl am ei gallu ei hunan fel housekeeper yn peri iddi edrych yn harddach ac yn ei liurddasoli. Llawenydd ei chalon ydyw clywed fod y bwytawr yn canmol ei choginiaeth. Canmol ei llieiniau bwrdd ydyw ei chanmol hi ei hunan. Y mae ei plilant gloewon, bywiog, siriol, a diwyd yn canu ei chlod; ac y mae y drefn a'r tawelwch sydd yn teyrnasu drwy ei thy yn peri i'w gwyneb sirioli, ac yn peri llawenydd i bawb. Pan ddelo'r hwyr, y mae'r teulu i gyd yn ei chynnorthwyo i bilio afalau neu rywbeth cyffelyb, ac y mae y plentyn a ddaw gyntaf drwy ei dasg yn derbyn ei chusan yn wobr. Nicl yw hyn end braslinelliad o'r hyn a ellir os bydd ewyllys; neu gopi ar scale fechan o ddarlun Lemuel yn y bennod olaf o'r Diar- hebion. Beth pe byddai i wragedd Pwllygro yna roddi tro drwy yr oriel hono a sylwi yn neill- duol ar y darlun hardd yna, a myned adref i gynllunio mwy o amrywiaeth yn mhrydiau bwyd eu gwyr; a gofalu am rywbeth mwy sylweddol yn giniaw i'r gwr sydd yn ym- guraw," na the byth a hefyd. Ond dyna linnau yn dechrou myn'd i feindio busnes pobol eraill, onibai, mai er ein haddysg a'n hathrawiaeth ni yr ysgrifenwyd y cwbl yn yr hen lyfr. cl Gan i mi addaw dy gyfarwyddo i wneyd y ddiod Americanaidd hono a ganmolit mor fawr fel diod hâf, dyma hi: Pedwar pwys o siwgr lwrnp (loaf sugar,) pedair owns o tartaric acid wedi ei bowdro, un owns o sudd lemon, chwe gwyn wy, pum chwart o ddwfr. Berwer y dwfr a'r siwgr yn nghyd am chwarter awr, curer gwyn yr wyau yn dda yn y dull arferol, a phan oero y dwfr a'r siwgr, cymysger hwy i mewn yn dda, yn nghyda'r tartaric acid a sudd y lemon. Wedi yr oerer, poteler. Wrth ei ddefnyddio, tywallter llonaid gwinwydryn ohono i wydryn hanner peint, a llanwer hyd yn dri chwarter llawn o ddwfr. Ychwaneger ato gymaint o carbonate of soda ag a safo ar chwe' cheiniog, cymysger ef yn cyflym nes y cyfodo ei hufen i'r wyneb, ac yfer cyn y dihoeno. Yr oedd yma araeth yn yr ysgoldy yma neithiwr, ac yn mhlith pethau ereill, dywed- odd yr areithydd, "fod mewn rhai parthau o Holland gynifer a dwy fil o gychod gwenyn o fewn y filldir yswar, ac yn cynnyrchu fel rheol, i breswylwyr yr arwynebedd hwnw o leiaf bymtheg mil o bunnau yn y ilwyddyn." Nid fy musnes i efallai ydyw siarad am wneyd y defnydd goreu o bob peth; ond y mae rhandiroedd meithion o amgylch i ni yma—llawn gwell a mwy cyfaddas i wenyn na'r porfeydd hyny yn Holland, heb yr un wenynen arnynt, ac nad ydynt felly yn cynnyrchu yr un wns o fel na'r un chwil- fyddyn o gwyr. Yr oedd y ddarlitli yn werth ei chofio, a byddai yn fenditlr i fan amaethwyr Cymru pe y talent fwy o sylw i wenyn, a'r modd i'w trin. Yr eiddoch yn serchog, NANSI HUMPHREYS.