Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
CI CYFRWYS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CI CYFRWYS YR oeddwn wedi croesi mynydd, ac wedi cyrhaedd y gwesty gwledig ac unigol. Ar yr aelwyd, o dan fantell y simnai fawr, yr oedd ci yn gorweddian ac yn ymdwymno. Gofynais i feistres y ty beth oedd ganddi i giniaw. Y^iae yma wyau," oedd yr atebiad ac yr oedd y ci yn syllu arnaf fel un yn barod i redeg i neges. Wyau," meddwyf, cynnaliaeth an- nigonol i ddyn wedi teithio dros y mynydd- oedd yna dros ddeng milldir o ffordd. Oes yma ddim byd gwell ?" Y mae yma ddigon o gig moch," meddai y wraig ac yr oedd y ci yn edrych arnaf yn myw fy llygad, yn fwy astud nag o'r blaen. Dydw i ddim yn rhyw hoff iawn o gig moch," meddwyf finnau. Beth arall sydd genych yma?" 11 Wel, y brensiach anwyl," meddai'r feistres, y mae yma gyw iar Cyn gynted ag y daeth y gair 'cyw iar' allan, neidiodd y ei i fyny, a llamodd allan drwy y ffenestr oedd yn hanner agored. Wel, yr argen fawr," ebai fi, y oedd y gair cyw iar fel ergyd o wn i'r ci yna; beth y mae y cwbl yn ei feddwl ?" 0, ie," meddai y feistres, dan wenu, y ci, welwch chi, fydd yn troi y her, beth bynag fydd genym i'w rostio, ac nid ydyw yn hidio ond nesaf peth i ddim am y gorchwyl."
CONCl Y CYHOEDDWR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CONCl Y CYHOEDDWR # a'r Cyhoeddir PAPUR PAWB yn swyddf, os Herald, Caernarfon, yn gynnar bob wythn. ar gyfer dydd Sadwrn. Bob wythnos, ceir Arlwy o Arabedd Blodau Barddas, Cystadleuon i'r Cywrain, Darluniau Difyr, Nofel Nodadwy. Mewn f gair, bydd PAPUR PAWB yn Llawn Lien a I Lluniau o'i ddechreu i'w ddiwedd. Yn Eisieu, Dosparthwyr egniol yn mhob ardal lie nad oes dosparthwyr wedi eu penodi '1 eisoes.—Ymofyner am y telerau a'r Cy- hoeddwr, PAPUR PAWB, Caernarfon. Anfonir PAPUR PAWB yn rhad drwy-'r post am chwarter am Is. 8c. (blaendal). Nid oes yn Nghymru well cyfrwng i Hysbysebu ynddo na PAPUR PAWB. j Pob P.O. Order, Cheque, &c., i'w gwneyd | yn daladwy i DANIEL REES, yn Nghaer- narfon.
CELL Y GOLYQYDD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CELL Y GOLYQYDD NOFELAU, CHWEDLAU BYRION, &c.-Mae'r Golygydd yn barod i dderbyn cynnygion am yr uchod ar delerau rhesymol. GWOBRWYON.—Gweler rhestr mewn colofn arall. DARLUNIAU DIFYR.—Am ddarluniau difyr gwreiddiol, o waith arlunwyr Cymreig, tebyg i'r rhai ar tudalen 1, telir yn ol teilyngdod y rhai fyddont yn gymeradwy. AWGRYMIADAU.—Teimlir yn wir ddiolchgar am bob awgrym at wneyd Papur Paivb yn fwy defnyddiol a dyddorol. DALIER SYLW.—Nid yw'r Golygydd yn addaw dychwelyd ysgrifau na darluniau neb pwy bynag ar unrhyw delerau. Cyfeirier pob gohebion llenyddol ac arlun- iaethol at Y Golygydd, PAPUR PAWB, Caer. narfon.
MORGRUG YN SIARAD A'U GILYDD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MORGRUG YN SIARAD A'U GILYDD YR oedd naturiaethwr yn sylwi yn ddi- weddar yma, ar In o forgrug bychain duon yn prysur ymfod i le newydd, ac yn cludo eiddo y ty gyda hwynt. Bob tro y cwrddai dwy a'u gilydd, sylwai eu bod yn dodi eu penau yn nghyd fel pe i gael ymgom ar y ffordd. Er mwyn chwilio i mewn i'r peth, Uaddodd un ohonynt, ac yna, y rhai oedd yn llygad dystion o'r llofruddiaeth, a redasant ymaith, a phob morgrugyn a gwrddent yn dyfod y ffordd hono, dodent eu penau yn nghyd gyda rheiny yr un modd. Yna y rhai hyny, gan adael eu parseli ar y ffordd a throi yn eu holau a ffoent i gyfeiriad arall, fel pe y dywedasid wrthynt, Er mwyn y brenhin, ac er mwyn eich einioes eich hunan, troweli yn eich holau, mae yna ryw anghenfil mor ofnadwy o fawr draw yna, yn ddigon nerthol i ladd deng mil ohonom ag un ddyrnod." A chwestiwn Zabulon Dafydd ydyw, pa un ai Cymraeg a'i Saesonaeg mae morgrug Cymru yn ei siarad.
ENILL DRWY GYFRWYSDRA
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ENILL DRWY GYFRWYSDRA PAN aeth Syr George Grey i New Zealand yn y flwyddyn 1845, fel Llywodraethwr am y tro cyntaf, gwnaeth hi yn rheol i ymdrin a materion y brodorion gyda phob tegwch, heb anmharchu eu hawliau na diystyru eu defodau. Drwy ymddwyn felly tuagatynt bu yn berffaith lwyddiannus yn ystod ei arhosiad yn eu plith, ac wrth ymadael a'r dalaeth, wedi bod yno am wyth mlynedd, yr oedd y brodorion yn teimlo eu bod yn colli eu cyfaill goreu. Yr oedd yno un penaeth, yr hwn y buasai ei ystyfnigrwydd yn ei dynu i drwbwl gyda llawer un, ond yr oedd Syr George yn benderfynol o gymeryd ffordd wahanol gydag ef. Yr oedd yn ai genrheidiol gwneyd ffyrdd drwy diriog- aeth y penaeth hwnw, ond ni fynai y penadur bychan hwnw y fath beth, a gwrth- ododd ei ganiatad. O'r diwedd, anrhegodd Syr George wraig ieuanc y penaeth a march a cherbyd. Yr oedd hi yn falch dros ben o'r anrheg, ond nid oedd o nemawr ddefnydd iddi mewn gwlad ddiffyrdd. Yna, dechreu- odd flino a syfrdanu ei gwr, hyd nes, er mwyn ei boddio hi, y cydsyniodd, ac y gorchymynodd y penaeth wneyd ffordd drwy yr holl diriogaeth; ac felly cafodd Syr George Grey ei ffordd ei hun, heb achosi dim cynen, na chael ei gyfrif mewn un modd yn llai na chyfaill penaf y bobl.
ARBED CERDDED
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARBED CERDDED Y MAE gan y drefn o gasglu tocynau pan y bydd y tren yn myn'd ei anghyfleusderau. Pan yr oedd y guard yn casglu tocynau mewn cerbydres yn yr America, daeth ar draws dyn heb docyn. Rhaid oedd iddo dalu neu ddangos ei docyn. Os na wnai yr un o'r ddau, byddai raid bwrw y teithiwr allan o'r tren. Ni wnai y dyn y naill na'r llall. Stopiwyd y gerbydres. Pan oedd y guard ar droi y dyn o'r tren, dyma'r olaf yn dangos tocyn i'r guard, yr hwn a ddywedodd, Paham na fuasech chwi yn dangos y tocyn hwn o'r blaen ? Y mae hwn yn myned bum milldir o'r fan lion Wel, guard, pe buaswn yn dangos y 11 tocyn i chwi yn nghynt, buasech yn myned a fi bum milldir o'r fan hyn, lie yr ydwyf yn byw. Diolch i chwi arr stopio y tren
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
POWDR NID OES ANGEN AM WYAU. Ar'M sm mff-lm Ü, CUSTARD m:- KLI III() w Ijul TA a ac by tic, Cvflenwa foethusder dyddiol. fyddo elusion mewn amrywion dirifedx. g-lau mwyaf chwaethus, a'r Custard brasaf. I BIRD'S
lith yn WNIO T [ O E PUBLISHER'S…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
lith yn WNIO T [ O E PUBLISHER'S | fan — ——————————————— sylw i woistrated Welsh "PAPUR PAWB "—an Illu. Novels Short Weekly Paper, devoted to y^;°'g,e Celebrities Stories, Brief Biographies of Sur, Puzzles of the Day, Wit and HumP for Family Poetry, and Light Literature Office Reading—is published at the He Carnarvon. „ t medium PAPUR PAWB IS an excellen j no 0^ler for advertisements, there being J )d in the paper of the same kind publish^!? | Principality. >\ f a- i • 4. ■) quarter Single copies per post for one I J Is. 8d. (prepaid). 1 j fi made P.O.O.'s and Cheques should be J ,Eg payable to the Publisher, DANIEL RTF Carnarvon.