Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Y BARNwn GWILYM WILLIAMS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BARNwn GWILYM WILLIAMS. INT VB liynaf y diweddar David AN illiams, Ysw. (Alaw Goch), Ynyscynon, yn mhlwyf Aber- dar, ac o Miskin Manor, yn mhlwyf Llan- trisant, swydd Forganwg, yw y B- tr ii w r dysg- edig. Ganwyd ef yn 1839. Yr oedd Alaw Goch yn enwog fel bardd a lienor, ac fel nodd-wr llenorion, yr Eisteddfod, a phobpeth Cymreig. Nid yw yn syndod i'r fath wladgarwr gael ei fenflitliio a, mab ag sydd mor wladgarol ac aiddgar dros bobpeth Cymreig ag a fu Alaw Goch ei hunan erioed. Edrychodd y tad fed ei fab talentog yn cael pob manteision er dadblygiad ei athrylith a diwylliad ei feddwl. Derbyniodd ei addysg yn Pontfaen, Aberfcawe, a Rouen, yn Ffrainc. Bwriadai ei dad iddo ei ddilyn fel perchenog glofeydd a'u dadblygu; ond yr oedd y mab wedi rhoddi ei fryd ar fod yn far-gyfreithiwr. Tynodd y tad yn ol ei wrthwynebiad, a ihrodd y mab i astudio y gyfraith. Galwyd ef i'r bar yn 1863, ac aeth yntau ar Gylch- daith Deheudir Cymru. Penodwyd ef yn Ustus Cyflogedig (y cyntaf) yn nosparth Pontypridd yn 1872. Yn 1884, penodwyd ef yn Farnwr Llys y Man-Ddyledion dros ddosparth Canolbarthol Cymru, ac yn 1885 symudwyd ef i fod yn farnwr y llys hwnw yn Nghylchdaith sir Forganwg, ac yno y mae hyd lieddyw. Y mae yn ustns lieddwch yn siroedd Morganwg a Brycheiuiog, yn D.L. ac is-gadeirydd, ac yn gadeirydd Pwyllgor Unedig yr Hedclgeiclwaid hefyd yn y gyntaf O ran ei opiniynau gwleidyddol, Rhyddfrydwr Gladstonaidd yw; ac ymgyfenwa yn Ymneillduwr politic- aidd; ond nid yw yn aelod gydag unrhyw enwad crefyddol. Yn 1864, priododd Emma Eleanor, merch hynaf y diweddar William Williams, Ysw., Aberpergwm, yr ysgolor, y dyngarwr, a'r gwladgarwr enwog, ac y mae ei briod yn nith i Miss Williams (Llinos) ag sydd yn bur adnabyddus yn nglyn a cherdd- oriaeth a llenyddiaeth Gymreig. Y mae iddo dri o feibion ac un foreli. Y mae ei fab hynaf (Mr Rhys Williams) yn dilyn yn ngliamrau ei dad fel bar-gyfreithiwr, ac yn dilyn hen gylclidaith ei dad, lie yr edrychir arno fel un o'r bar-gyfreithwyr mwyaf addawoi. Y mae yntau yn chip of the old block "-y mae yn Rhyddfrydwr da, ac y mae mor ymlynedig w1'th ei wlad, ei hiaith, a'i sefydliadau, a i dad, ac a'i daid cyn hyny. Trwy ei ddysg a'i ddeheurwydd, gwnaeth y Barnwr wasanaeth mawr fel cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Pontypridd (1893). Yn ei ddarlith feistrolgar o flaen Cymmrodorion Abertawe yn 1888, profai fod cyfreithiau Prydain Fawr wedi' eu sylfaenu, i raddau mawr, ar gyfreithiau Hywel Dda, a dangosai gydnabyddiaeth drwyadl a chyfreithiau, llenjddiaetta, a hynafla,ethau Cymreig. Fel prif lieddynad yn Pontypridd, er ei fod yn ddychryn i ddrwgweitliredwyr, eto cyd- nabyddai yr holl bleidiau, yr aflwyddiannus yn gystal a'r llwyddiannus, degweh ei ddy- farniadau. Heblaw fod ei addysg gyfreith- iol wedi ei gyfaddasu i ogryn tystiolaethau er mwyn cael ailan y gwir, y mae ei gydnabyddiaetli a, defion ac iaith ei gyd- wladwyr yn rhoddi mantais neillduol iddo i wneuthur cyfiawilder, ac y mae gan y rhai a gyrchent i'w lysoedd berffaith ymddiried yn ei degwch. Ond cael mwy o'i gyffelyb, byddai gan Gymru achos i fed yn llawen. Fel y canodd Dyfed iddo :— Gwefreiddiol gyfarwyddwr—i'w genedl Yw ein gonest farnwr; Un yn dal i'n hiaith yn dwr, Yn goron o wladgarwr.
HENRY MORTON STANLEY,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HENRY MORTON STANLEY, Richmond Ter- race, Whitehall, Llundain. Gan- wyd ef ger Din- bych, yn 1841. Yn 1856, aeth i New Orleans, yn Neheubarth yr Unol Dal- aethau, ac yno cafodd ei fab- wysiadu gan farsiandwr o'r en w Stanley, enw yr hwn a gymerodd iddo ei li Lin. Ar far- wolaeth einodd- wr, ymunodd a byddin y talaethau deheuol, a, chymerwyd ef yn garcliaror rhyfel gan filwyr y Gogledd. Yna bu yn gweitliredu fel swyddog ar fwrdd y Ticonderoga. Ar derfyn y rhyfel, aeth i wasanaeth y Neiv York Herald fel gohebydd, a bu yn teithio fel gohebydd i'r papyr. hwnw drwy Twrci, Abyssinia, Yspaen, a gwledydd ereill. Yn 1870, hwyliodd ar ei daith fythgofiadwy i chwilio am Livingstone yn Affrica, a daeth o hyd iddo gerllaw llyn Taganyilca, ac wedi treulio rhai misoedd yn ei gwmni, dychwel- odd i Loegr yn 1872. Cychwynodd ar ei ail daith yn 1874, ac yn 1879-82 yr oedd yn Affrica drachefn wedi ei anfon yno gan y Belgiaid. Yn 1887, cychwynodd ar ei bedwaredcl daith, y waith lion i chwilio am Emin Pasha, a daeth yn ol yn 1889. Y mae yn awdwr i'r llyfrau, '< Y modd y daethum o hyd i Livingstone," Drwy y Cyfandir Tywyll," "Yn Affrica Dywyllaf," &c., &c Y mae wedi cael medal Cymdeithas Freiniol y Daearegwyr, yc. perthyn i'r urdd Ffrengig, Legion of Honour, yn aelod o lawer o gym- deithasau dysgedig, ac y mae wedi derbyn dinasfraint Llunda] ii, Acertawe, a tlireli ereill. Priododd yn 1890 gyda Miss Dorothy Tennant, yr arlunyddes enwog. Yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, bu yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Undebol dros ranbarth o Lundain. Dyledus ydym i Mr J-. L. Bray, Aberdar, am arlun o Mr James James, Pontypridd i Mri Forrest a'i Feibion, Pontypridd, am un o Ieuan ap lago, yn gystal ag am un o'r Barnwr Gwilym Williams,
AP CALEDFRYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AP CALEDFRYN. DYMA ddarlun o Ap Caledfryn, bardd ac arlun- ydd. Mab ydyw ef i'r diweddar fardd a plire- gethwr enwog Caledfryn, ae efe oedd Cadeir- ydd Pwyllgor yr Adran Gelfydd- ydol yn Eis- teddfod Ponty- pridd y flwydd- yn hon. Y mae yr enwogrwydd 11 y mae ef wedi ei gyrhaedd yn ei gelfyddyd I yn brawf ycliwanegol o'r hyn a ddichon i j Gymru gynnyrchu yn y cyfeiriad hwn. Y mae yr Eisteddfod Genedlaethol o flwyddyn i flwyddyn yn dyfod i dalu mwy o sylw i'r gelfyddyd ardderchog hon.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
The 'Herald' Steam Printing Works, I HIGH ST., CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. I Programmes, ft Tickets, m Dance Cards. P Legal Forms, E Memorandums, 1 Note Paper. Club Cards, Club Rules, Club Accounts. j Quarry Reports, Quarry Accounts, ( Quarry Rules. Pamphlets, t Catalogues, | Sermons. 1 Funeral Cards, I Large Stock, jf Plain and Fancy, Accuracy, u Neatness, 14 Despatch. II BOOKBINDING I IN ALL STYLES 11 AT THE LOWEST RATES ¡-J Note the Address:— 'HERALD' U STEAM PRINTING WORKS j HIGH STREET, CARNARVON A 1