Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
BREUDDWYD: Y BYD HEB FLODAU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BREUDDWYD: Y BYD HEB FLODAU R dywydd tesog y dydd o'r blaen, aethym i rodiana ar hyd dyffryn bras a chynnyrcbfawr, ac yr oedd gweled y meusydd gwrddleision a'r coedydd blodeuog a'r gwahanol ologfeydd o'm cwmpas yn ddymunol i'r olwg ac yn adfywiol i'm cyfansoddiad. Ar ol cyrhaedd ohonwyf i lecyn meillionog, gor- weddais ar y glaswellt ir o dan gysgod derwen gysgodfawr, yr hon oedd wedi gwrthsefyll effeithiau difaol llawer rhyferthwy, ac wedi goroesi gerwinder llawer gauaf du; ond er cryfed ei chyfansoddiad a gwydned ei natur, yr oedd brigau crinion ei changau yn ar- ddangos ei bod hithau heddyw yn plypu mewn ufudd-dod gwylaidd, gan dalu y warogaeth olaf i ddeddf y Mediaid a Phersiaid natur. Ac yr oedd y blodau oedd o'm hamgylch yn amryvriaeth eu ffurfiau, ardderchogrwydd eu lliwiau, eu harogl persawrus, eu cyfaddasder arbeniga'u dullwedd deniadol uwchben tysorgelloedd y mel yn adloniant i'm corph ac yn llawenydd i'm meddwl. Ac yr oedd edrych ar y dyffryn eangfiawr oedd yn ymagor o'm blaen wedi ymwisgo mewn ysplander gorswynol, a gwrandaw ar yr aderyn du yn telynori ei nodau per ar yr oriel werdd, a'r adar man yn uno yn y gan er gwneyd cor y wig yn gyflawn, a syllu ar y blodau amryliw a'r trychfilod amryfath yn ddigon i beri i mi ddwys cfidio a galarnadu, am nad oeddwn yn deall nodau melodaidd anian nac yn alluog i ddarllen llyfr dilwgr natur. Ond yn ebrwydd, oberwydd trymder yr hin, ac yn ddiarwybod, cauodd cwsg fy llygaid corphorol fel na chanfyddwn ddim o ar- dderchogrwydd y byd llysieuol; er hyn oil csfais fy llygaid meddyliol wedi eu hagosr ar fyd tra annymunol. Yr oeddwn wedi dringo i ben mynydd uchel iawn, ac yn aros Itr gopa craig ysgythrog, ac yn edrych trwy chwyddwydr ar y byd o'm cwmpas, a gwelwn bethau bychain yn fawr, a phetbau mawr yn fwy. Yr oeddwn mor uchel yn yr enfcrych, yn mhell iawn uwchlaw y cymylau, fel y canfyddwn wledydd y drwyrain yn oglur ddigon, a gwelwn y cyfandir sydd i gyfeiriad machlud haul gyda rhwyddineb. Tua canol haf oedd yr amser yr oeddwn yn gweled yr olygfa, a meddiannwyd fi gan deimlad rhyfedd wrth weled y greadigaeth lysieuol-sef y greadigaeth gyfryngol rhwng y greadigaeth fwnwrawl a'r greadigaeth auifeilaidd—heb flodau, ac yr oedd anian yn gruddfan a natur yn edrych cyn brudd mewn canlyniad. Ac er chwilio yn fanwl a syllu yn graffus ar y doldir a'r mynydd-dir, methwn ganfod yr unlle yr un blodeuyn yn gwneuthur ei ymddangosiad i fod yn anelwig ddefnydd o hadlestr y llysieuyn dyfodol. Yr oedd angau yn difa y trychfilod o bob lliw a maint, a newyn yn goddiweddyd yr anifeiliaid o bob rhyw a gradd ac nis gallai pysgod yr afonydd, ehediaid yr awyr, na bwystfilod y diffaethweh, y rhai nad ydynt yn bwyta llysiau fyw ond am enyd oherwydd eu bod yn derbyn adnoddau i gynnal eu bywyd o'r greadigaeth lysieuol, ac yr oedd y greadigaeth lysieuol yn brysur wywo ar ol colli hanfod mor bwysig a blodau. Yr oedd y byd wedi ei ddihatru o'i ogoniant, a'r belen ddaearol yn prysur fyned yn gorph tywyll yn y gyfundrefn heulog, megis ei llawforwyn y lleuad, fel y tybir. Y perllanau ni chyn- nyrchent ffrwythau, a'r meusydd ni roddent eu enwd. Y cychod gwenyn oedd yn myned yn anghyfannedd a'u preswylwyr yn syrthio i'r llwch, ac nid oedd hil i ddod i'w lie. Yr oedd dydd tranc y deyrnas lysieuol wedi ei goddiweddyd, a gobaith dyn ac anifail mewn canlyniad wedi darfod, ac nid oedd ond gruddfan ac ocheneidio i'w glywed yn mhob cyfeiriad. Y defaid gan eisieu a drengent ar y corlanau, a'r gwartheg yn y dyffrynoedd a ddifethwyd o eisieu bwyd. Ac er chwilio yn y coed, lie y nytha yr adar, nid oedd yno yr un blodeuyn i sicrhau ffrwythau am yr amser dyfodol. Canfyddais ar un ddalen wenynen, oherwydd rhyw am- gylchiadau ffafriol, yn aros yn fyw, a gwyliais ei hysgogiadau gyda dyddordeb. Chwiliai yn ddyfal am flodau, a disgynai yn aiddgar ar y naill gainc ar ol y llall, gyda'r bwriad o sugno yr hylif chweg. Ond ofer y troai pob ymgais o'i heiddo allan. Yn fuan syrthiodd i'r llwch ar ol ei aneirif gymdeithion. Oud os oedd y trychfilod yn marw o angen, a'r anifeiliaid yr un modd yn cael eu difetha, yr oedd hyn yn brawf sicr y buasai dyn yn sicr o fyned yn aberth i'r un gelyn oni byddai i ryw Noah neidio i'r adwy a pharatoi arch i gario y teulu dynol yn ddyogel dros y diluw dinystriol oedd wedi goddiweddyd y byd. Ac fel yr oeddwn yn syllu ar y naill beth a'r llall, canfyddais bapyr, yr hwn a gynnwysai adroddiad helaeth o gyfarfod pwysig o holl ddoethion y byd, o bob llwyth, iaith, a theyrnas dan y nef, y rhai oeddynt wedi cyfarfod er ceisio dyfod o hyd i gynllun i osgoi yr hyn oedd ar ddyfod. Dadleuai un fferyllydd y gallai dynion fyw ar y greadig- aeth fwnurol ond ei dadansoddi a chymysgu yr elfenau yn briodol; tra y dadleaai yr athronyddion dros ymfudo i un o'r planedau, lie yr oedd digon o le a digon o ymborth, ac yr oedd y rhai mwyaf anturiaethus yn coleddu yr un syniadau. Hefyd, yr oedd y peiriannwyr yn credu y gallent ddyfeisio peiriannau i groesi o'r ddaear i un o'r planedau, hyd yn nod i Neifion, yr hon a dry ar erchwyn y gyfundrefn heulog. Pender- fynwyd fod yspiwyr i gael eu hanfon i amryw o'r planedau, a bod y fferyllwyr hwythau i ddwyn eu hymborth o'r greadigaeth fwnurol, a bod pwyllgor i gael ei benodi i ystyried pa un ohonynt oedd yn fwyaf tebygol o fod yn ymarferol. Ond yn ebrwydd dihunais, ac yr oeddwn yn barod i lawenychu a gorfoleddu am mai breutldwydio yr oeddwn, ac yr oedd y blodau yn siriol wenu yn fy llygaid, a'r rhosynau heirdd fel pe yn chwerthin am ben fy mreuddwyd ffol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae un peth ryfedd iawn yn hanes yr Arlywydd Cleveland ag sydd wedi dianc beirniadaeth. Nid ydyw byth yn gwisgo menyg ar unrhyw amgylchiad hyd yn nod ar y tywydd oeraf. Ymddengys peth ryfedd iawn yn nghyfrif costau Eglwys St. Pedr, Wisbeach. Rhodd. wyd arian am yru allan o'r adeilad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, 200 o ystlumod, pa rai a afferent aflonyddu y gynnulleidfa.
._' PAWB AT Y PETH Y BO\
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PAWB AT Y PETH Y BO YR oedd Thomas Crugyrhwch wedi cael ei ddwyn i fyny ac wedi bod yn gweithio fel saer coed, ond oherwydd marweiddiwcli masnach a dim gwaith, cymerodd le fel footman yn y ty mawr," fel y galwai ef, yn y pentref. Ar y diwrnod cyntaf o'i ym- rwymiad, ei feistres, yr hon oedd ganddi ymwelyddes yn y drawing-room, a ganodd y gloch am y footman. Dos i ddangos drws y ffrynt i'r fonedd- iges yma," meddai. "Yes, ma'm," meddai Tomos; ac wedi ymgrymu i'r foneddiges, archodd iddi ei ddilyn ef. Wedi dyfod at y drws, agorodd Tomos ef, ac yr oedd y foneddiges ar fyned allan pan gyffyrddodd Tomos á'i hysgwydd, ac a ddy- wedodd Dyma'r drws, mam, pitch fine ardderchog, wedi ei fframio ddwy fodfedd a hanner o drwch hefo mouldings, ac yr oedd y gwaith yn costio dwy bunt a chweugain.' ==.
BOB DRWS NESA A'R OBJECT LESSON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BOB DRWS NESA A'R OBJECT LESSON YR oedd Mr Welshnot yr ysgolfoistv, wedi bod yn rhoddi gwers ar wlan, ac wedi dyweyd wrth y dospartli fod gwlan yn dyfod oddiwrth y ddafad, ac yn cael ei wneyd yn wlaneni, brethynau, dilladau, ac felly yn y blaen, i'n cadw yn gynhes yn y gauaf oer drycinol. Aeth yn mlaen i ofyn cwestiwn i Bob Drws Nesa, yr hwn nad oedd wedi talu ond ychydig sylw i'r wers o'r dechreu i'r diwedd. Yn awr, Robert," meddai yr athraw, < o ba le yr ydym yn cael gwlan Oddiar gefn y ddafad," meddai Bob. A pha beth wedi hyny ?" gofynai yr athraw. Ond ni allai Bob ateb. 3 0 ba beth y gwnaed y rhai hyn tybed ?" meddai'r athraw, gan gyffwrdd knicher- bocker8 Bob a'i fion. i 0 hen drowsus fewy'th John, syr," meddai Bob, yn ddibctrus.
LLYSOEDD CARIAD -.-"
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYSOEDD CARIAD ARFERID cynnal Llysoedd Cariad yn ymyI y Bois de Boulogne, Paris. Yno yr ymgyn. nullai meibion a merebed, ac yno yr ym- drinid a phynciau tyneraf serch. Dywed Jean Nostradamus am yr arferiad y rhoddid y pynciau mwyaf dyrus i'w penderfynu i farnwyr o ferched parchus ac urddasol, pa rai a roddent eu dyfarniadau gyda'r difrif- wch mwyaf. Cosbid pwy bynag a feiddiai anufuddhau i orchymyn y Llysoedd mewn dull tra effeithiol. Ni chaniateid i ddyn a drosecldai y gorchymyn gael ei "garn" gan yr un o'r merched, ac ni chaniateid i ferch a bechai gael ei charu" gan yr un o'r dynion. Cedwid rhestr o'r troseddwyr. Dyma un cwestiwn a ddygid ger bron weithiau P'run fyddai oreulmyned i gyflawni gorchest ar facs y rhyfel ynte enill serch rhyw foneddiges ? Barnai un dyn mai cariad oedd y goreu, tra y credai un arall mai clod. Gan mai merched a tenderfynent y cwestiwn, diau mai o du cariad y dyfarnent hwy.