Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BREUDDWYD: Y BYD HEB FLODAU

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BREUDDWYD: Y BYD HEB FLODAU R dywydd tesog y dydd o'r blaen, aethym i rodiana ar hyd dyffryn bras a chynnyrcbfawr, ac yr oedd gweled y meusydd gwrddleision a'r coedydd blodeuog a'r gwahanol ologfeydd o'm cwmpas yn ddymunol i'r olwg ac yn adfywiol i'm cyfansoddiad. Ar ol cyrhaedd ohonwyf i lecyn meillionog, gor- weddais ar y glaswellt ir o dan gysgod derwen gysgodfawr, yr hon oedd wedi gwrthsefyll effeithiau difaol llawer rhyferthwy, ac wedi goroesi gerwinder llawer gauaf du; ond er cryfed ei chyfansoddiad a gwydned ei natur, yr oedd brigau crinion ei changau yn ar- ddangos ei bod hithau heddyw yn plypu mewn ufudd-dod gwylaidd, gan dalu y warogaeth olaf i ddeddf y Mediaid a Phersiaid natur. Ac yr oedd y blodau oedd o'm hamgylch yn amryvriaeth eu ffurfiau, ardderchogrwydd eu lliwiau, eu harogl persawrus, eu cyfaddasder arbeniga'u dullwedd deniadol uwchben tysorgelloedd y mel yn adloniant i'm corph ac yn llawenydd i'm meddwl. Ac yr oedd edrych ar y dyffryn eangfiawr oedd yn ymagor o'm blaen wedi ymwisgo mewn ysplander gorswynol, a gwrandaw ar yr aderyn du yn telynori ei nodau per ar yr oriel werdd, a'r adar man yn uno yn y gan er gwneyd cor y wig yn gyflawn, a syllu ar y blodau amryliw a'r trychfilod amryfath yn ddigon i beri i mi ddwys cfidio a galarnadu, am nad oeddwn yn deall nodau melodaidd anian nac yn alluog i ddarllen llyfr dilwgr natur. Ond yn ebrwydd, oberwydd trymder yr hin, ac yn ddiarwybod, cauodd cwsg fy llygaid corphorol fel na chanfyddwn ddim o ar- dderchogrwydd y byd llysieuol; er hyn oil csfais fy llygaid meddyliol wedi eu hagosr ar fyd tra annymunol. Yr oeddwn wedi dringo i ben mynydd uchel iawn, ac yn aros Itr gopa craig ysgythrog, ac yn edrych trwy chwyddwydr ar y byd o'm cwmpas, a gwelwn bethau bychain yn fawr, a phetbau mawr yn fwy. Yr oeddwn mor uchel yn yr enfcrych, yn mhell iawn uwchlaw y cymylau, fel y canfyddwn wledydd y drwyrain yn oglur ddigon, a gwelwn y cyfandir sydd i gyfeiriad machlud haul gyda rhwyddineb. Tua canol haf oedd yr amser yr oeddwn yn gweled yr olygfa, a meddiannwyd fi gan deimlad rhyfedd wrth weled y greadigaeth lysieuol-sef y greadigaeth gyfryngol rhwng y greadigaeth fwnwrawl a'r greadigaeth auifeilaidd—heb flodau, ac yr oedd anian yn gruddfan a natur yn edrych cyn brudd mewn canlyniad. Ac er chwilio yn fanwl a syllu yn graffus ar y doldir a'r mynydd-dir, methwn ganfod yr unlle yr un blodeuyn yn gwneuthur ei ymddangosiad i fod yn anelwig ddefnydd o hadlestr y llysieuyn dyfodol. Yr oedd angau yn difa y trychfilod o bob lliw a maint, a newyn yn goddiweddyd yr anifeiliaid o bob rhyw a gradd ac nis gallai pysgod yr afonydd, ehediaid yr awyr, na bwystfilod y diffaethweh, y rhai nad ydynt yn bwyta llysiau fyw ond am enyd oherwydd eu bod yn derbyn adnoddau i gynnal eu bywyd o'r greadigaeth lysieuol, ac yr oedd y greadigaeth lysieuol yn brysur wywo ar ol colli hanfod mor bwysig a blodau. Yr oedd y byd wedi ei ddihatru o'i ogoniant, a'r belen ddaearol yn prysur fyned yn gorph tywyll yn y gyfundrefn heulog, megis ei llawforwyn y lleuad, fel y tybir. Y perllanau ni chyn- nyrchent ffrwythau, a'r meusydd ni roddent eu enwd. Y cychod gwenyn oedd yn myned yn anghyfannedd a'u preswylwyr yn syrthio i'r llwch, ac nid oedd hil i ddod i'w lie. Yr oedd dydd tranc y deyrnas lysieuol wedi ei goddiweddyd, a gobaith dyn ac anifail mewn canlyniad wedi darfod, ac nid oedd ond gruddfan ac ocheneidio i'w glywed yn mhob cyfeiriad. Y defaid gan eisieu a drengent ar y corlanau, a'r gwartheg yn y dyffrynoedd a ddifethwyd o eisieu bwyd. Ac er chwilio yn y coed, lie y nytha yr adar, nid oedd yno yr un blodeuyn i sicrhau ffrwythau am yr amser dyfodol. Canfyddais ar un ddalen wenynen, oherwydd rhyw am- gylchiadau ffafriol, yn aros yn fyw, a gwyliais ei hysgogiadau gyda dyddordeb. Chwiliai yn ddyfal am flodau, a disgynai yn aiddgar ar y naill gainc ar ol y llall, gyda'r bwriad o sugno yr hylif chweg. Ond ofer y troai pob ymgais o'i heiddo allan. Yn fuan syrthiodd i'r llwch ar ol ei aneirif gymdeithion. Oud os oedd y trychfilod yn marw o angen, a'r anifeiliaid yr un modd yn cael eu difetha, yr oedd hyn yn brawf sicr y buasai dyn yn sicr o fyned yn aberth i'r un gelyn oni byddai i ryw Noah neidio i'r adwy a pharatoi arch i gario y teulu dynol yn ddyogel dros y diluw dinystriol oedd wedi goddiweddyd y byd. Ac fel yr oeddwn yn syllu ar y naill beth a'r llall, canfyddais bapyr, yr hwn a gynnwysai adroddiad helaeth o gyfarfod pwysig o holl ddoethion y byd, o bob llwyth, iaith, a theyrnas dan y nef, y rhai oeddynt wedi cyfarfod er ceisio dyfod o hyd i gynllun i osgoi yr hyn oedd ar ddyfod. Dadleuai un fferyllydd y gallai dynion fyw ar y greadig- aeth fwnurol ond ei dadansoddi a chymysgu yr elfenau yn briodol; tra y dadleaai yr athronyddion dros ymfudo i un o'r planedau, lie yr oedd digon o le a digon o ymborth, ac yr oedd y rhai mwyaf anturiaethus yn coleddu yr un syniadau. Hefyd, yr oedd y peiriannwyr yn credu y gallent ddyfeisio peiriannau i groesi o'r ddaear i un o'r planedau, hyd yn nod i Neifion, yr hon a dry ar erchwyn y gyfundrefn heulog. Pender- fynwyd fod yspiwyr i gael eu hanfon i amryw o'r planedau, a bod y fferyllwyr hwythau i ddwyn eu hymborth o'r greadigaeth fwnurol, a bod pwyllgor i gael ei benodi i ystyried pa un ohonynt oedd yn fwyaf tebygol o fod yn ymarferol. Ond yn ebrwydd dihunais, ac yr oeddwn yn barod i lawenychu a gorfoleddu am mai breutldwydio yr oeddwn, ac yr oedd y blodau yn siriol wenu yn fy llygaid, a'r rhosynau heirdd fel pe yn chwerthin am ben fy mreuddwyd ffol.

[No title]

._' PAWB AT Y PETH Y BO\

BOB DRWS NESA A'R OBJECT LESSON

LLYSOEDD CARIAD -.-"