Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BRWYDR Y LLUMAN DIYSGOC

PREGETH EFFEITHIOL

HEN YSGRIFLYFRAU CYMRU

Advertising

GAN BWY YR OEDD Y GWYDR CRYFAF

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAN BWY YR OEDD Y GWYDR CRYFAF GOLYGFA-Pen Caclair Idris. Gwibdeithydd, "gan yr hwn y mae y gwydr goreu yn Mrydain Fawr," yn ei estyn i'w arweinydd. I- Edrycli drwy yr yspienddryeh yma ar y llong aur sydd ar y mor, o'r braidd na ellit rhifo'r teithwyr ar y bwrdd." YR ARWEINYDD (yn methu gweled gobaith am y gwydryn a ddisgwyliai am dano ar hyd y daith): Mi welais i well gwydr na hwnyna. GWIBDEITHYDD (yn synedig) Yn mha le yr oedd hwnw ? ARWEINYDD: Gan wr boneddig oedd yma gyda mi yr wythnos ddiweddaf. Pan oedd o'n edrycli i lawr rhyngom ag Aberdyfi yna, roedd o'n gweled y llythyr-gludydd yn dyfod i lawr o Fachynlleth, ac yn estyn llythyr i eneth oedd yn sefyll wrth y drws, agorodd hithau ef, a darllenodd ef, ac yr oedd o yn clywed pob gair oedd yn y llytliyr ac yn ei adrodd i mi. Y GWIBDEITHIWR (yn gwisgo gwep seriws): Wei, un da oedd hwnw. YR. ARWEINYDD (yn fuddugoliaethus) Ond yr oedd ganddo un gwydr ar lun cwpan i ddal hanner peint yn ei boced. Ac wedi iddo ef a minau edrych drwy hwnw ddwywaith non dair, yr oeddym yn gallu gwei'd mynyddocdd uwch na Ohadair Idris yma yn cydio yn nwylo eu gilydd ac yn dawnsio, a'r defaid bron a syrthio i'r mor oddiar eu penau. Gan fod y teithiwr yn ddirwestwr selog aid ymofynodd a'r arweinydd yn ycliwaneg. Ond ymollyngodd iddo ei hun mewn syndod.