Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ATEBIAD I LYTHYR "CARIADFERCH."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ATEBIAD I LYTHYR "CARIADFERCH." Lythyr bychan, bendigedig, Croesaw, croesaw mawr i ti. 0 'r fath nefoedd wynfydedig Sy'n dy neges gynhes, gu Brwd deimladau didwyll galon, Fy Myfanwy, genyt sydd Rhai'n i annecld. fach Bryntirion Y'nt fel gwenau haul y dydd. Gallaf lwyr ymddiried iti Holl gyfrinach serch fy mron, Unwaith eto cerdd heb oedi At fy hoff Myfanwy Ion Dywed wrthi i mi dderbyn .oOo. Drwyddot bobpeth dd'wedodd hi, Ac i'w geiriau godi tipyn Ar fy isel yspryd i. Mae ei haddewidion gloewon Yn cryfhau fy ffydd o hyd Dilys genyf fod ei chalon Wen, yn eiddo im' i gyd Ni chaiff ofnau gwyllt amheuaeth Orsedd yn fy nghalon lawn Llwythog yw o ymddiriedaeth A gwir gariad fore a liawn. Draw ar fynwes Ceredigion Tyfa'r lili lana'i bryd, Ar adenydd dydd awelon Ei plierarogl ddaw o hyd I felusi fy ngobeithion I adioni'm yspryd gwan, I wneyd Anedd fach Bryntirion Fol Paradwys yn y man. Lythyr hoff, d'wed wrth Myfanwy Mai nid gweniaith ydyw hyn, Yn ei llythyr ce's gynnorthwy I ddarganfod bywyd gwyn Yn fy aros bron yn ymyl- Bywyd cyfan—llawn o hedd— Dau yn un—myfi a'm liamvyl Gariad yn cyd-fywhyd fedd. Wylodd uwch fy llythyr cyntaf, Can odd nweh fy olaf un, Drsvy ei melus gun canfyddaf Scrch a Gobaith yn gytun, Niwl anobaitli wedi cilio. Heulwen Cariad yn ei wres Yn cynnyddu, yn ymloewi, Yn ein dwyn bob dydd yn nes. Gofyn iddi, lythyr anwyl, A yw'r 6-weiiitli Gwyn" yn awr Ddim yn aeddfed ? dyddiol ddisgwyl Wyf am wel'd cynhauaf mawr Mae mis Medi wedi gwawrio, Awn a phrofwn ffrwythau'r tir, I',hwyn-iolr Gwenith Gwyn" a wnelo Dwylaw cariad cyn bo hir. Cofia lieiyd dd'wedyd wrthi Fod fy nghariad fel y dur, Ei dymuniad gwnaf gyflawni- Dof i'w gweled cyn bo hir Ail fwynhau yr hen bleserau Gaf o dan y dderwen fawr, Lie canfyddais wynion ddagrau Ar ei grudd fel gwlith y wawr. Lle'r esgynodd ocheneidiau Dyfnion serch o'i mynwes Ian, A'r lie cafodd yn fy mreichiau, Deimlo gwres barddonol dan. Y lie roddodd yr addewid O'i ffyddlondeb byth i mi, A'r lie seiliais ef ag hyfryd Gusan ar ei gwefus gu. I Lythyr ffyddlon, brysia'r awrhon, At Myfanwy; d'wed yn glir Wrthi 'mod i'n dod a chalon IJawn o serch i'w gwel'd cyn hir Gadael annedd fach Bryntirion," Myn'd i Geredigion wnaf, Yno'n nghwmni perl fy nghalon Llonaid bron o nefoedd gaf. JOHN.

(BUDDUGOL)

0 WYTHNOS I WYTHNOS

TELERAU.

BOB WYTHNOS.