Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

C Y N PRIODI. A R 0 L PRIODI. Wrth weled march cul, teneu, yn prancio yn anystywallt yn y ffair, dywedodd Zabulon Dafydd mai wedi gweled ceirch yr oedd o. Nis gallwn bob amser farnu pobl wrth eu hymddangosiad allanol. Pwy wyr nad yw y llanc hwnw sydd mor hoff o ddangos ei fodrwy yn gyfoethog mewn gwirionedd. Cyfarchwyd Gwyddel graenus a, llawen un prydnawn gyda'r geiriau: "Wel, Tim, y ruae dy dy di wedi ei chwythu i lawr a myned hefo'r gwynt." "Dim llawer o berig," meddai Pat, "y mae.agoriad y drws yn fy mhoced i." Byddai hen offeiriad dirodres Llangelynin gynt yn arfer ag ychwanegu at y weddi dros y rhai sydd mewn peryglon ar for neu dir, y geiriau hyn "Ae os yn ol dy ewyllys di y daw llong- adrylliadau, cofia am blwyfolion gonest glanau Llangelynin." Y FEISTRES Yr ydw i wedi ysgrifenu caritor rhagorol i ti, Marged, er na ches i fawr o foddlonrwydd ynot hyd ag y gwelais i. h. J MARGED (y gogyddes ag oedd ar ymadael): Wel, ma'm, gan i chwi fod mor garedig, mi ddylwn innau wneyd rhywbeth i dalu yn ol, ac felly gallwn ddyweyd wrthych wrth ymadael fed agcriad drws y gegin yn ffitio drws y pantri yn llawn cystal. & Y mae Mike O'Grady wedi penderfynu peidio credu yr un stori o hyn allan nes y profir ei bod yn anwiredd noeth. $$$< "Pa fodd y gwyddost ti mai yspryd yr hen Wil Grymialach oedd o ?" Wel, yr oedd o yr un fath a fo yn union, yn gwisgo ei holl drwblon o'r tuallan i'w hen got fawr er mwyn i bawb eu gweled." Beth sydd yn peri i chwi feddwl fod genyf draed mor fychain ?" meddai hi. "Am i mi sylwi, tra yn yr eglwys, nad oeddych yn cael dim trafferth i'w dodi yn fy het silc," meddai yntau. ■■.$$$' V Y FAM: Mae arnaf eisieu prynu ci i'm geneth fach. Ydyw yr anifail mawr yna sydd genych yn hoff o blant ? HOFFWR OWN Ydyw, madam, yn hoff iawn. Bu agos iddo fwyta dau o'm plant by chain i ddoe. I BLODWEN: O'r holl greaduriaid cas, gwrthun, annymunol, hunanol, consetlyd, isel, gwael, bydol a dirmygedig yn y byd yma, Llewelyn yw y gwaethaf. FLORA: Beth sy'n peri i chwi ddyweyd hyny, Blodwen ? beth mae o wedi wneyd ? BLODWEN: Wel, wedi i mi ei wrthod, ddaru p ddim cymaint a myn'd i wneyd am dano ei hun, na myned i ymguddio mewn ogof yn y mynydd, na thori ei galon, na dim byd. Mae o yn caru un arall, a hono yn gas gan fy nghalon i. Dywedodd y pregethwr wrth y claf fod yn rhaid iddo faddeu i'w holl elynion. "Does gen i ddim gelynion i faddeu iddynt," meddai yntau, end brain, ac yr wyf wedi saethu y rhai hyny bron i gyd." EFE: Gadewch i ni ddwad at y pwynt rwan. A ellwch chwi wnio botymau ? Hi: Gallaf. EFE A choginio ? Hi: Gallaf. EFE Fy siwgwr candi fi Hi: Fy mhot mel i!—gofynwch i nhad. ,j?i', ŒÐl!!V Mae fy ngwraig i yn ddynes resymol iawn." Y mae yn dda genyf glywed hyny." Ydyw, dydi hi byth yn fy ngalw i yn ffwl, fel y bydd rhai gwragedd yn galw eu gwyr." Nag ydyw ?" "Nag ydyw, dydi hi byth yn myn'd yn mhellach nag i ddyweyd, John, yr ydych I yn banner ffwl." BARNWR: Yr ydych wedi dyweyd wrth yr achwynydd nad ydyw hyd yn nod yn deilwng i gael ei grogi. Y mae hwnyna yn ddywediad tramgwyddus dros ben, a dylech alw eich geiriau yn ol ar bob cyfrif, onide bydd raid i mi erchi eich taflu i garchar am ddirmygu gorchymyn y llys. DIFFYNYDD Wel, yr wyf yn cyfaddef fy mod o fy lie,—y mae o yn ddigon da i gael ei grogi.