Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR AT Y CRYDD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR AT Y CRYDD NID oedd gair da i grydd pentref Tal-y- Faeldra am eirwiredd. Deuai drosodd i Borth-y-Meudwy bob wythnos, gan gludo gydag ef yr esgidiau hyny a drwsiasai ef yn ystod yr wythnos. Un tro disgwyliai Catrin Pen-y-gongl bar o esgidiau ganddo,—par wedi eu trwsio. Rhoddai y crydd i fyny yn nhy Shon y Teiliwr pan ddeuai drosodd i Borth-y- Meudwy. Yno y deuai y cwsmeriaid i wneyd busnes a Chrispin Jones. Pan aeth Catrin i dy Shon i ofyn a oedd Crispin wedi dyfod a'i esgidiau hi drosodd, dywedodd Shon wrthi nad oedd efe ddim. Gwylltiodd Catrin mor fawr fel y bu yn agos iddi daro Shon, gan gredu mai Crispin oedd. Dywed- odd fod Crispin wedi addaw yn sicr y byddai yr esgidiau yno y diwrnod hwnw. Daeth Crispin i fewn y foment hono, ac ymar- llwysodd Catrin ei meddyliau i'w glywedig- aeth yntau. Ymesgusododd Crispin, a dywedodd ar ei anrhydedd y byddai yr esgidiau yn barod yr wythnos nesaf. Ym- dawelodd Catrin ar hyn, ac aeth adref. Yr wythnos ddilynol, ni ddaeth Crispin na'r esgidiau. Casglodd Catrin oddiwrth hyn fod Crispin wedi methn eyflawni ei holl addewidion, ac felly mai gwell oedd iddo aros adref er mwyn cael wythnos ychwaneg i gwblhau y gwaith. Ond ni fynai Catrin aros wythnos arall. Mynai hi ysgrifenu llythyr ato. Gyda'r amean hwnw aeth i dy Shon y Teiliwr, a gofynodd a wnai Shon ysgrifenu llythyr at Crispin drosti hi. Talai hi am y papyr, yr amlen, a'r llythyr-nod. Atebodd Shon y gwnai. Tipyn reit dda o wag oedd Shon. Pan oedd pawb a phob- peth yn barod, dyma Catrin yn dechreu ar yr ystori oedd ganddi i ddyweyd yn y llythyr. Dyma fel y dywedodd hi, a dyma fel yr ysgrifenodd Shon y geiriau heb yn wybod iddi Dwed wrtho fo, Shon, y sgerbwd iddo, dwed wrtho, cofia, neu mi dy ladda di a fonta. Cofia ddweyd wrtho fo, y c'lwyddwr mawr. Ie, dyna ydi o, dim arall. Yr hen gena iddo fo. Ie, dwed wrtho nad ydwyf fi ddim am ddiodda ei g'lwydda' to 'chwaneg. Mi wn i am dano fo er's talwm. Gwn yn siwr. Cheiff o ddim fy nhwyllo i fel darfu o dwyllo pobl ereill, y cena iddo. W'l di, Shon, mab Satan ydi Crispin, ac y mae yn rhaid iddo fo yrwan sefyll at ei air. Y trychfil iddo fo, peidied o a meddwl mai ffwl ydwyf fi. Hym! Mi roi dro dair gwaith am un iddo fo, y coplyn diog. Fy nhwyllo i ? Aie, wir. Watchied o ei hun. Mi golchai o. Gwnaf, myn cebyst. Mae arno eisio ei olchi. Chafodd o mo'i lanhau pan ddaeth o allan o afael y gyfraith y tro diweddaf. Cofia, Shon, pan yn ysgrifenu ddyweyd y bydd ei hen drwyn coch o yn dipyn cochach, a'i hen glustiau mul .0 yn fwy cyn y gwel bar o 'sgidiau genyf fi eto. Gallaf fi liwio ei locsus 0 a gwaed ei drwyn ef, os leicith o, yn lie ei fod o yn ei liwio fo a'r peth arall hwnw. Siomi pobl aie. Ow! y trychfil. Shon, cofia di ddyweyd wrtho fel y ceiff 0 hi pan y gwelaf o, os na fydd fy 'sgidiau yma nos Wener. Mab y fall ydi o. Pwy byth a roddai waith iddo ? Dyhiryn gwarthus ydyw, ac nid yw yn gymhwys i or wedd yn y gwter acw. Paid ag ofni dyweyd yn y llythyr, Shon—paid ag ofni, mi safai i wrth dy gefn di, Shon-fod ei fusnes wedi darfod am dano am byth, ac y bydd ei enw fo yn stincio fel hen grydd c'lwyddog yn ffroenau pobl fel fi. Siomi'th o mohona i eto, mi diffeia i 0, y cocosyn an- waraidd. Mi hitia i o nes bydd 0 yn troi ar ei hen eisteddfa fel chwirligwgan. Gwnaf, myn cebyst i. Dwed wrtho, Shon, fod y 'sgidiau i fod yma nos Wener, neu mi fydd rhan o'i ymysgaroedd yn gareiau 'sgidiau cyn nos Sadwrn. Gofynodd Shon a oedd gan Catrin ryw- beth yehwaneg i ddweyd cyn selio y llythyr. Dywedodd hithau: Ie, dywed wrtho fod y c'lwyddau yma wedi selio ei dynged yntau fel crydd i drigolion Borth-y-Meudwy. Gan sicred a mod i yn Catrin Pen-y-gongl, mi gymeraf ei gwyr crydd ef ac mi a seliaf ei dynged 0 byth bythoedd. Gwnaf, Shon, gwnaf." Wel," gofynai Shon, a oes genyt ti rywbeth eto?" Cyn i Catrin ail-ddechreu, cauwyd y llythyr, a phostiwyd ef. Trenydd dyma Crispin Jones drosodd i Borth-y-Meu- dwy, ac i dy Shon. Yr oedd wedi dychryn yn ddireol. Anfonwyd am Catrin. Daeth hithau. Dyma dy 'sgidiau, a dyro mi 2s, a chaf y pleser wed'yn o gael tori cysylltiad cyfeillgarwch & dynes, yr hon, yn fy marn i. yw y blackguard penaf a welais erioed," ebai Crispin. Methai Catrin a deall. Talodd y 2s, a chymerodd yr esgidiau. Gofynodd am eglurhad. Eglurhad, y sopan fudr Gwyddost am y llythyr a anfonaist ataf," dywedai Crispin. Gwn yn iawn," ebai Catrin, "a beth sy' gin ti yn erbyn i ddynes ofyn am 'i 'sgidiau?" Dim o gwbl," oedd atebiad Crispin, ond pan y mae dynes yn fy ngalw ar bob enw drwg ag y gall ddyfeisio y mae genyf wrthwynebiad." Catrin a sicrhaodd Crispin nad oedd hi ddim wedi dyweyd dim yn y llythyr ond gofyn iddo ddychwelyd yr esgidiau erbyn nos Wener yn ddiffael. Crispin a ddywedodd fod y llythyr yn warth i'r wlad. SynQdd Catrin, a gofynodd, 11 Shon, beth ddywedais i yno fo ?" Dywedodd Shon ei fod ef wedi dyweyd pobpeth a ddywedodd hi. Brensiach anwyl! Dyweyd pobpeth a ddywedais i ?" Ie." Darllenwyd y llythyr gan Crispin. Gyda hyn dyma Catrin yn ymosod ar Shon, gan ei alw yn bob enw, a chan ei felldithio a'i gyhuddo o fod wedi dyweyd pethau yn y llythyr na ddychymygodd hi erioed mo- honynt. Ond gorfu iddi gyfaddef ei bod wedi dyweyd yewbl oil, gan ychwanegu nad oedd hi ddim wedi bwriadu i Shon ysgrifenu bob gair a ddywedodd hi.

[No title]

Advertising