Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Y PARCH E. GURNOS JONES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH E. GURNOS JONES. DARLUN ydyw hwn o'r Parch E. Gurnos Jones, gwr adnabyddus trwy Gymru fel bardd, pregethwr, ac areithydd. Daeth i adnabyddiaeth ar y cyntaf pan wasanaethai fel gweinidog gyda'r Aunibynwyr yn Nhalysarn, ger Caernarfon. Y pryd hwnw, saf Awst, 1874, yn yr Eisteddfod Genedl- aethol a gynnelid yn Mangor, enillodd y gadair ar y testyn "Y Beibl." Daeth rhyw naw o awdlau i fewn, a rhoddai y beirniaid, sef Dewi Wyn o Esyllt ac Elis Wyn o Wyrfai, ganmoliaeth uchel i'r oil o'r cyfansoddiadau, ond rhagorai eiddo Gurnos arnynt oil. Addurnwyd ef â'r tlws, sef cadair aur fechan i'w dodi wrth gadwen oriawr, gan y ddiweddar Arglwyddes Sarah Hay Williams, Rhianfa. Cymerodd y cadeirio le yn nghanol cryn rwysg. Ar ol hyn symudodd Gurnos i'r Deheudir, o ba le yr hanodd, ac ar ol gwasanaethu am gryn amser yno gyda'r Annibynwyr, trodd at y Bedyddwyr, oddiwrth ba rai y mae eto wedi dyehwelyd at yr Annibynwyr. Efe oedd bardd eadeiriol Rhyl y llynedd. Os nad ydym yn camgymeryd, efe a enillodd y gadair yn yr eisteddfod fawr a gynnaliwyd yn Nghaerdydd tua phymtheng mlynedd yn ol, ac ar ol hyny y mae wedi cario gwobrwyon pwysig, neu beth bynag, wedi bod yn ail am gideiriau. Dywedir mai iddo ef y buasai Gwilym Cowlyd yn rhoddi y gadair yn Eisteddfod ddiweddar Pontypridd. Y mae Gurnos yn bregethwr tanbaid ac hyawdl, ac fel siaradwr ar y llwyfan gyhoeddus dros iawnderau y bobl a Rhyddfrydiaeth, y mae yn llawn sel a gwresogrwydd.
Y PARCH H. CERNYW WILLIAMS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH H. CERNYW WILLIAMS. GANWYD ef yn 1843, felly gwelir ei fod erbyn hyn wedi cyrhitedd jiwbili bywyd; a naturiol iawn y digwydda y dathliad o hyny yn ei ddyrcliafiad i Gadair Undeb Bedyddwyr Cymru. Dechreuodd bregethu yn 1862. Aeth i Athrofa Llangollen yn 1863. Sefydl- odd yn Staylittle a Dylife yn 1866. Tua diwedd 1868 symudodd i fugeilio eglwysi Llansantffraid (Corwen) a Thre'rddol. Yn lied fuan ar ol marwolaeth y Parch R. Roberts, o Blasynbonwm, daeth Corwen hefyd o dan ei ofal. Yn ddiweddar, er mwyn ysgafnhau y gwaith, ac er hwylusdod i uno Glyndyfrdwy a Llansantffraid yn gylch gweinidogaethol newydd, trefnodd i roddi Llansantffraid i fyny, ar ol tuag un flynedd ar ddeg o gysylltiad o'r fath anwylaf. 0 hyny hyd yn awr y mae yn weinidog ymroddedig a 11 vyddiannus ar eglwysi Corwen, Cynwyd, a Thre'rddol. Saif yn arbenig uchel yn ngolwg pob gradd o drigolion ein hardaloedd, ac y mae ei ddylanwad pur ac iachus wedi bod, ac yn bod, yn werth dirfawr i Fedydd- wyr y cylchoedd hyn. Ni phetruswn ei alw yn bregethwr gwir rhagorol. Cyfansodda yn goeth a gorplienol. Ni foddlona ar ddyweyd y pethau mwyaf arwynebol, ond myn dreiddio i mewn i gyfrinion y gwir- ionedd. Da iawn genym gaej prawfion ei fod yn ymroi fwy-fwy i gysegru ei ddawn i'r amcan gwiwglod o ychwanegu at rif yr emynau goreu yn yr iaith Gymraeg. Diclion mai un o'i brif gymhwysderan fel darlithydd ydyw y dawn naturiol ac arbenig sydd ganddo i ddyweyd pethau doniol-a doniol iawn hefyd, mewn ffordd dawel a diqyffro. Ei esboniad, sef ar Epistolau loan a Judas, ydyw y cyntaf o'r gyfres a ddis- gwylir 0 "Esboniad y Bobl."
Y PARCH HUGH PRICE HUGHES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH HUGH PRICE HUGHES. BRODOR o Gaerfyrddin yw y gweinidog Wesleyaidd enwog hwn. Efe yw arolygydd y Genadaeth yn Ngorllewin Llundain. Y mae yn weithiwr dihafal a diflino, ac y mae y gwaith y mae yn gallu myn'd drwyddo braidd yn anghredadwy. Ar brydnawn Sabbath, bydd yn rhoi cyfarchiad yn St. James Hall ar agweddau cymdeithasol Cristionogaeth, neu ryw bwnc ymarferol cyffelyb. Yh yr hwyr, bydd y neuadd hono yn orlawn, yn y gwasanaeth crefyddol. Ni bydd gan Mr Hughes bregeth ysgrifenedig- dim ond darn o bapyr y bydd wedi ysgrifenu rhyw amiinelliad o'i feddyliau arno, yn nghyda'r dyfyniadau fwriada eu harfer. Y mae ei lygaid a'i ystumiau yn gystal a'i dafod yn siarad, ac y mae ei wrandawyr megis yn hongian wrth ei wefusau. Ond nid yn Llundain yn unig y mae gwaith Mr Hughes yn cael ei wneyd. Bydd ar gyfartaledd yn treulio dau ddiwrnod o bob wythnos yn y taleithiau i gymhell cynnorthwy i'r genadaeth yn Llundain, neu i ddadleu dros ryw achos da lleol. Yn gy- ffredin, yn y tren wrth fyned i'r lleoedd hyn y bydd Mr Hughes yn cyfansoddi ei,areithiau ac yno y bydd yn darllen, fel ag i gadw ei hun i fyny a chynnydd gwybodaeth. Yn y tren hefyd y bydd yn cywiro ei erthyglau i'r Methodist Times, ar yr hwn y mae yn olygydd. Bydd yn dictatio ei erthyglau arweiniol, adolygiadau, a'i nodiadau i'w ys- grifenydd, a bydd hwnw yn eu hadysgriiio. Felly hefyd atebion i'r nifer anferth o lyth- yrau a dderbynia. Yn gyffredin, osbydd yn Llundain ddiwrnod cyhoeddiad ei bapyr, ceir ef yn swyddfa y newyddiadur. Wrth ddictatio ei erthyglau, ni bydd byth yn stopio mewn petrusder yn nghylch drycli- feddwl neu fynegiad, ac anaml iawn y bydd eisiau gwneyd yr un cyfnewid- iad ynddynt wrth eu hargrapliu. Y mae yn gweithio mor galed fel y mae yn an- mhosibl iddo ddal yn hir, ac y mae ei iechyd eisoes yn deebreu dirywio, er fod ganddo gyfansoddiad cryf.