Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

-" SUT I DDAL MOCHYN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SUT I DDAL MOCHYN aN r nghanol nos daeth yr arwydd. Gwthiodd Maria Ann ei phenelin yn glyfar rhwne fv nwv asen, ac vn ddistawdyvredodd, Joshua, y mae yna fochyn yn yr ardd." Yr wyf wedi byw gyda Maria. Ann ddigon hir i ddal ei meddwl mewn eiliad. Gwyddwn ei bod am i mi godi ar unwaith, a myn'd am y mochyn, er na ddywedodd yr un gair am hyny. Felly, mi godais, a dechreuais chwilio am fy nillad. Yr oeddwn yn teimlo nad allwn fod hebddynt hyd yn nod yn ngolwg mochyn. Ni feddyliais erioed ein bod yn meddn cymaint o ddillad hyd nes i mi ddechreu chwilio am fy llodrau yn y tywyllwch. Gafaelais mewn petliau a edging arnynt, a phethau a flounces ac embroidery, a llinynau. Pan yn nghanol y dyryswch siaradai Maria mewn llaismwyn, Yr ydych yn araf ofnadwy. Y mae y mochyn yn sicr o fwyta y tatws i gyd cyn ewch i lawr." Digon tebyg ei bod yn sisial rhag y buaa^i'r mochyn yn cael ei insultio ni allai Maria byth insultio neb, hyd yn nod moehyn, ond myfi. Yr oeddwn yr holl amser hyn yn treio pethau am danaf nad oeddynt yn fy ffitio, ond o'r diwedd cefais fy hun oddifewn i rhyw ddilledyn a dau fotwm arno. Botymais ef am danaf, ac er fod digon o le ynddo, nid oeddwn yn teimlo fy hunan yn gartrefol o gwbl. Pan gyrhaeddais hyd hanner y grisiau, yn ddisymwth daeth i fy meldwI nad oedd yr un mochyn yn yr ardd, am y rheswm digonol nad oedd genym ardd i fochyn i fyn'd iddi, ond yr oedd genym gawg, ac efallai yr elai y mochyn i fewn i hwnw. Wrth feddwl am hyn mi gefais y fatlx ddychryn nes i mi rolio i waelod y grisiau. Gwnes hyny yn lied hawdd, trwy fy mod wedi dyrysu yn y dilledyn oedd am danaf. Pan yn mwynhau fy hun fel hyn, Maria Ann, yr bon sydd wastad yn barod ar bob adeg, a ddaeth i ben ucha'r grisiau, a fy Xigalwodd yn ffwl, ac enwau bychain melus ereill, y rhai mae hi yn hoff iawn o'u defn- yddio aradegau tyner o'r fath. Cyrhaeddais ddrws y ffrynt mor fuan ag y medrwn, a dyna lie yr oedd y mochyn yn edrych i'r ty o iard y ffrynt fel pe tae am ei renti, a arhosodd mewn dychryn. Nid wyf yn rhyfeddu at hyny o gwbl, oherwydd yn fy ngwylltineb i wisgo yr oeddwn wedi dodi pais Maria Ann am danaf. Y mae rheswm yn dyweyd fod dyn a gwn nos gwyn a phais goch yn rhuthro allan drwy y drws oriau tawel y nos yn ddigon i beri braw i unrhyw fochyn. Ar ol dod ato ei hun, gwnaeth y mochyn dri tro yn ei gynffon, ac mi redodd dair- gwaith o amgylch yr iard. Yr oedd y glwyd ar led agored, ond ni feddyliodd o gwbl am fyn'd drwyddi, yr oedd, gallaswn feddwl, yn chwilio am le manteisiol i neidio dros y mur. Drysais yn y bais unwaith eto, a chymerais, naid mor uchel oddiar gareg y drws nes i mi ddisgyn ar fy llygad chwith. Nid ydym yn rhoddi banner y credit a ddylem i wragedd, yr wyf yn sicr fod rhaid cael mwy o dalent i gerdded mewn pais nag i edrych ar ol Bank. Rhedodd y mochyn dair gwaith yn rhagor o amgylch yr iard, a phedwar tro yn ei gynffon. Nid ,wyf yn un poeth iawn fy natur fel rheol, ond yr wyf yn ofni fy mod yn dechreu poethi erbyn hyn. Aethum y tu cefn i'r ty i gael bwyell; y mae yn ddrwg genyf gyfaddef i'r unig bwrpas o ladd y mochyn neu farw yn yr ymdrech. Nid wyf yn meddwl ei fod wedi gwneyd sylw o'r shed hyd nes i mi gyrhaedd y fwyell, a phan oeddwn yn dod yn ol i'r iard, aeth y mochyn yn syth i'r shed gwyddwn yn awr fy mod wedi ei ddal bron beth bynag. Yr oedd Maria erbyn hyn wedi dod at ei hun, yn screchian, Tan, tan," nerth ei cheg, a'i phen allan drwy ffenestr y llofft; wrth gwrs, yr oedd hyny yn gymhorth mawr i mi, yr unig beth i fy ngwthio yn mlaen i fuddugoliaeth oedd cael rhywun i waeddi "Tan." Aethum i mewn i'r shed yn ddistaw, gwel- ais nad oedd gan y mochyn un ffordd i achub ei fywyd os na wnelai dwll yn nrws y gegin. Ond ni wnaeth hyny; hytrach y ffordd arall, gwnaeth yn syth am danaf fi, symudais yn frysiog, nid o achos fod ofn y mochyn arnaf, ond rhag y buaswn yn rhwygo fy mhais. Yr wyf yn wastad yn gofalu na chaiff yr un mochyn gyffwrdd a fy mhais, mor belled ag sydd yn bosibl. Yr oedd twb golchi yn llawn o ddwfr budr y tu ol i mi, a phan y symudais yn ol o ffordd y mochyn, yn ddifeddwl eis- teddais yn y twb. Y mae yn ymddangos yn rhyfedd, ond yr wyf yn cofio yn awr fod y twb yn fy ffitio lawer iawn gwell na'r bais, a finnau heb ffitio'r twb erioed o'r blaen. Yr unig ffordd allan ohono oedd ei droi ar ei wyneb i waered a nofio allan o'r dwfr, yr hyn a wnes ar unwaith. Yr oedd Maria eto yn barod, agorodd ddrws y gegin, a'i gwyneb bron ei guddio gan frills y cap nos, a'i phen ar led agored, dechreuodd waeddi "mwrdwr," nes i'r mochyn gael y fath ddychryn, fel y rhedodd drosof ddeuddeg waith ar hugain, ni allaf ddychymygu sut y gallodd, ond mi wnaeth hyny, oherwydd y mae Maria a finnau wedi rhifo ol ei draed arnaf. Ar ol rhedeg drosof, cerddodd allan drwy y glwyd mor dawel a'i wyneb mor hir a phe buasai ar ei ffordd i'r eglwys. Yr wyf yn credu yn benderfynol mai ei unig reswm dros ddod i'r iard oedd i gael cerdded drosof fi a dim arall. Mae Maria Ann yn haeru na wnaiff wisgo'r bais byth mwyach; 'rwyf finnau yn sicr na wnaf ii, os gwn i.

[No title]

Advertising