Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[ : POBL A ADWAENWN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

POBL A ADWAENWN GWELAIS lofrudd, celwyddwr, dyn mcddw, lleidr, athrodwr, a thwyllwr yn cyfarfod yn yr un person, ond gwelais yn y dyn linellau prydferth iawn. Pan aeth ei ferch fach i'r carchar ato a'i gusanu gan ei alw yn Dada," torodd allan i wylo yn hidl. Yr oedd diniweidrwydd y plentyn yn gwneyd i galon llofrudd deimlo. Gwelais ddyn mewn safle uchel, yn gyfoethog, yn ddylanwadol ac yn alluog, yn gwneyd peth mor greulawn a hyn yn rhedeg ar ol cath ac yn ei chicio hyd farwolaeth. Adwaenwn ddyn o weith- iwr tlawd, yr hwn a gyfarfyddodd a gweithiwr tlotach nag ef ei hun. Aeth ag ef i'w dy, rhoddodd letty iddo, a rhanodd ei dorth ag ef. Adwaenwn ddyn arall ag oedd yn derbyn 45,000p o arian bob blwyddyn, yr hwn a allai wneyd ymchwiliad i gyflyrau tlodion ei gymydogaeth, a'r hwn, drwy hyny, a ganfyddai t, famau gweddwon yn hanner newynu eu hunain er mwyn cael bwyd i'w plant; yr hwn a ganfyddai blant heb esgidiau na dillad priodol i roddi am danynt yn y gauaf-adwaenwn ddyn fel hwn, a,c eto ni roddai geiniog i'r weddw na dilledyn i'r amddifad I Adwaenwn ddyn a wyddai bob peth am ysgrifenu i newyddiaduron, sut i gyfansoddi rhyddiaeth a barddoniaeth, ond nad ysgrif- enodd air erioed cymhwys i ymddangos yn y wasg. Adwaenwn ddyn ieuanc a fedrai wneyd pobpeth yn well na neb arall—canu, gweddio, a phregethu, ond na ofynodd neb iddo ganu, na gweddio, na phregethu. Adwaenwn ddyn a redai ar y meddygon a'u meddyginiaeth, ac a ddywedai y gwyddai efe am ffysig at -anwyd a chnoi, at gryd- cymalau a dic-dol-a-rw," at dwmyn a phob afiechyd cyffredin arall, ond a gwynai yn barhaus ei fod ef ei hun yn wael, neu ei wraig, neu un o'i blant. Gwyddwn am ddyn wyddai (cyn priodi), sut i ddwyn plant i fyny, sut i'w dysgu a sut i'w dysgyblu, ond plant yr hwn (ar ol iddo briodi) oedd y rhai gwaethaf yn y fro. Adwaenwn ddyn a allai roddi cynghor i bob masnachwr, a dyweyd pa fodd i wneyd busnes, pa fodd i gael ymadael a nwyddau, sut i gadw ac i enill ychwaneg o gwsmeriaid, ond a aeth yn fethdalwr ei hun cyn pen tair blynedd ar ol dechreu busnes, gan wneuthur colledion lawer a mwy o elynion. Gwelais weithiwr ag oedd a'i lach yn bar- haus ar y meistr, yn dyweyd fod yr olaf yn ddyn caled, caeth, ac anystyriol o fudd- iannau y gweithwyr, ond pan y daeth ef ei hun yn feistr a drodd allan y teyrn gwaethaf a welwyd erioed. Gwelais ddyn yn myned rhyw ddiwrnod i wneyd ei ffortiwn ar unwaith, yn diweddu ei oes yn y tlotty. Clywais ddyn doniol, hyawdl, a hyf ar gongl yr heol a fethai sefyll am fynyd i siarad mewn cyfarfod cyhoeddus. Adnabyddwn ddyn ag oedd yn meddu mwy o ddylanwad trwy weithio yn ei gapel heb siarad gair yn gyhoeddus yno, na'r dyn a siaradai fwyaf yno. Gwyddwn am ysgolor a fedrai ddeall dyfnion bethau gwyddoniaetha chelfyddyd. 9 waith, ond a ddyrysai ei ben wrth geisio deall biliau meddyg, cyfreitbiwr, a gof, a chyfrifon ambell i gapten Hong, Adwaenwn ambell i ferch ieuanc a hoffai i bawb sylwi arni hi yn ei dillad newyddion, ond a godai cyn dydd i olchi careg y drws, rliag ofn i neb ei gweled y pryd hyny.

FURY A'R LLEIDR

TIPYN I BAWB

Advertising