Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[ : POBL A ADWAENWN

FURY A'R LLEIDR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FURY A'R LLEIDR YR oeddym wedi clywed llawer o son am ladron Porth-yr-Hirbwynt, ond nid oeddym wedi sylweddoli y gwaith a wnaent hwy. Pan yr oeddym yn myned yno hefo llwyth o lechi o Borthmadog, penderfynasom gy- meryd Fury, yr ast, hefo ni. Gast a blewyn caled, stiff oedd Fury, yn nodedig o hoff o lygod Ffrengig a lladron. Gwyddai ar ysgogiad dyn os gonest fyddai ei amcanion. Deallai un yn siarad Cymraeg neu Saesneg. Pe buaswn yn gwaeddi, Fury, llygoden I" neu Fury, rat I" rhedai yr ast yn y fan. Yr un fath wrth waeddi Fury, lleidrl" Pan gyrhaeddasom Porth-yr-Hirbwynt, cadwasom wyliadwriaeth ofalus rhag y lladron. Nis gallem roddi y llong yn hollol yn ymyl y cei, ac o ganlyniad, rhaid oedd myned i'r lan ar hyd ystol. Pan y byddai y llanw allan byddai mwd trwchus yn y gwaelod o dan yr ystol. Yr oedd genym yn perthyn i'r llong gorn mwg copr. Digwydd- odd y cogydd adael y corn mwg hwn yn ei le ar amser pryd, pan yr oedd pawb yn y caban yn cael bwyd, ac heb neb yn gwylio. Clywsom rhywun yn tynu y corn copr ymaith, a meddyliasom yn y fan mai lleidr oedd yn ei ddwyn. Fury, lleidr I" meddai amryw. Yr oedd Fury ar y dec mewn eiliad neu ddau. Rhedasom ninnau ar ei hoi. Gwelem hi wedi dal dyn ar ganol yr ystol, a'r corn copr ganddo. Yn yr ymladdfa i geisio dod yn rhydd o afaelion yr ast syrthiodd y lleidr dros yr ystol i ganol y mwd islaw I Pan gyrhaeddasom ni yr ystol, yr oedd y dyn wedi myned yn llwyr o'r golwg yn y llaid I Tynasom yr ystol i'r Ilong, -cylymasom raff am un pen iddi, a rhoddasom hi dros ochr y llong ac i lawr i'r mwd. Aeth dau ohonom i lawr ar hyd-ddi, y naill o flaen y Hall, a llwyddasom i godi y lleidr o'r pydew. Dygwyd ef i'r llong. Cawsom drafferth fawr i rwystro Fury ei larpio. Wedi i ni lanhau ychydig o amgylch ei enau, golchi ei glustiau, ei ffroenau, ei safn, a'i lygaid, gollyngwyd ef yn rhydd, yn orchuddiedig gan y llaid. Credu yr oeddym y buasai hyny yn wers dda iddo rhag ceisiq dwyn eiddo pobl ereill yn y dyfodol,

TIPYN I BAWB

Advertising