Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

———————————————I Y BARNWR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MAE y darlun a welir isod yn cyfeirio ein meddyl- i-iu at amser Harri IV., brenhin Lloegr, a'r flwydd. yn 1401. Y pryd hwn yr oedd y Cymry mewn gwrthryfel, dan arweiniad yr arwr hyglod Owen Glyndwr, Arglwydd Glyn- dyfrdwy. Un o gadfridog- ion Harri IV. ag oeddynt yn gwrthwynebu Glyndwr ydoedd Harri, Tywysog Cymru (ar ol hyny Harri V). Dywed traddodiad fod y Tywysog hwn, pan na fyddai yn gwasanaethu yn adeg rhyfel, yn arfer byw yn wyllt, afradlon, ac annuwiol,gan gymdeithasu a dynion annosbarthus ac isel-wael eu buchedd. Ad- roddir yr hanesyn a ganlyn am dano:— Yr oedd un o'i weis- ion wedi troseddu cyfraith .y tir, a dygwyd ef, mewn i canlyniad, i'w brofi ger- j bron y Prif Farnwr Syr j William Gascoigne. Caf- wyd fod y cyhuddedig yn euog, a thra yr oedd y Barnwr yn cyhoeddi y ddedfryd arno, rhuthrodd y Tywysog Harri yn mlaen gan hawlio rhyddhad y troseddwr. Y Barnwr yn benderfynol o wneyd cyf- iawnder yn ddiduedd ac yn efon, a wrthododd gais haerllug y Tywysog, yr hwn o'r herwydd, a wyllt- iodd, ac a geisiodd ruthro at y fainc farnol i wneuthur niweid personol i'r Barnwr am wrthod y cais. Rhwystr- wyd ef, modd bynag. Serch ei fod yn etifedd y goron, ni phretrusodd y Barnwr ei gospi am y dir- myg hwn a daflodd ei ucneMer brenhinol ar weithrediadau llys uchaf cyfraitk Prydain. Ded- frydodd ef i gael ei gar- charu am ddirmygu y llys. Bu Harri yn ddigon doeth i roddi ei gleddyf o'r neill- du, ac i ufuddhau i dded- fryd y Barnwr. Pan glyw- odd ei dad, y brenhin, am yr amgylchiadau, dywed- odd fel dyn call, rhesymol, a diolchgar, "Dedwydd yw y Brenhin a fedd ynad sydd ganddo eofn- dra digon i gario allan y cyfreithiau, a dedwyddach fyth fod ganddo fab yn ddigon ewyllysgar i ymddarostwng i'r lath, gospedigaeth." Pan esgynodd y ——————————————— I Y BARNWR EOFN. f HARRI V. A'R BARNWR CASOOIGtfE, Tywysog Harri i'r orsedd fel Harri V. gadawodd ei hen gyfeillion, diwygiodd ei fuchedd, a derbyniodd y Barnwr Gascoigne i'w ffafr neillduol. Barnwyr tebyg i Gascoigne sydd wedi gosod urddas ar gyf- reithiau Prydain, reithiau Prydain,