Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

01 HC EL we HD 0 LC YN F I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

wraig eu mham i'w gweled er pan gladdwyd Morgan Llwyd; yr oedd yn cadw draw oddiwrth ei mheibion, yn enwedig pan fyddai y ddau yn yr un ystafell, rhag cael ychwaneg o boen i'w mheddwl wrth eu gweled mor anghytun a'u gilydd. Yr oedd hyn yn ei phoeni gymaint nes peri i arwydd- ion henaint ymddangos yn amlycach nag erioed ar ei hwyneb, a sylwai y gwasanaetb- yddion fod ei gwallt wedi gwynu llawer er adeg y gladdedigaeth-a gwyddent hefyd mai nid hiraeth ar ol yr hen wr oedd yr unig achos o hyny, oblegid nis gallai neb fod yn Dolgynfi am awr heb ddod i weled fod rhywbeth pell o'i le rhwng y brodyr. Ar ol gorphen swper, cododd Pyrs ac aeth i fyny i'r llofft. Mewn ystafell yno yr oedd ei fam yn byw ac yn bod yn awr, ac i'r ystafell hono yr aeth yntau. Yr oedd Mrs Llwyd yno ei hunan, yn eistedd wrth fwrdd ar yr hwn yr oedd lamp yn taflu goleuni ar wyneb rhychiog a gwallt gwyn yr hen wraig, ac ar ystafell oedd yn ddigon diaddurn a phlaen, gan belled ag yr oedd dodrefn yn y cwestiwn. Wedi cyfarch ei fam yn garuaidd, dy- wedodd Pyrs, Yr wyf yn myn'd i Gaer bore fory, mam, ac yno mi gaf weled hen gyfaill i nhad, gan fod genyf fusnes pwysig ag ef. Pryd y doi di yn ol, fy machgen i ?" Drenydd, neu'r diwrnod wed'yn y fan jbellaf." Wedi mynyd o ddistawrwydd aeth Pyrs yn mlaen, Yr wyf wedi siarad efo Maggie, ac yr ydym i gael ein priodi dydd Mercher, wythnos i'r nesaf. Y mae hi yn berffaith foddlon i fyn'd efo mi o'r wlad hon, a byddaf fi., felly, yn rhydd yn bur fuan bellach o'r bywyd annedwydd yma sydd i mi yn Dol- gynfi. Y mae'r math yma o fywyd yn waeth na bod mewn caethwasanaeth, ond yr wyf eisoes wedi dechreu tori yn rhydd o'r caethiwed. Echdoe galwodd Harri fi i'w ystafell i lawnodi mortgage ar Dolgynfi, a gwrthodais innau wneyd." Ac wedi'r cwbl yr wyt am fyn'd i ffwrdd i Canada a gadael pobpeth yn ei law." Rhoddodd Pyrs ei law yn dyner ar ysgwydd ei fam, gan ateb, Gwell hyny nag i'r eiddo gael ei gipio fel hyn oddiarnaf bob yn ddarn-gwell hyny na bod yn etifedd mewn enw tra y mae yntau yn cymeryd yr etifeddiaeth. Mae Harri yn siwr o fod yn gwybod pobpeth! y juae wedi taflu hint o hyny amryw weithiau." "Y mae yn bur ddistaw yn nghylch y peth os ydyw yn gwybod," ebai Mrs Llwyd, ac yr wyf yn siwr mai er fy mwyn i y mae felly, hyny yw, os ydyw yn gwybod o gwbl. Er mwyn fy enw da i y mae efe yn ddistaw, ynte, Pyrs ?" Ysgydwodd Pyrs ei ben, Nage, mam. Buasai Harri yn tynu gwarth ar enw da cant o famau pe buasai drwy hyny yn in,edru cyrhaedd ei amcanion ei hun. Na, nid parch i'ch enw da chwi, mam, nac i'w anrhydedd ei hun ychwaith sydd yn cadw Harri mor ddistaw. Y mae bod yn ddistaw am dymhor yrwan yn rhan o'i gynllun, yr wyf yn teimlo yn sicr." Paid cario meddwl mor ddrwg am dy frawd, fy machgen i. Y mae ef yn ddieuog yn ngolwg y byd, wyddost, a dylet tithau faddeu iddo." 'Does genyf ddim i'w faddeu iddo. Hyd yn nod pe na buasai efe yn gwybod dim o'r dirgelwch yma, buaswn er hyny yn myn'd i ffwrdd a gadael pobpeth iddo. Fedrwn i ddim byw yn hwy dan y fath ddirgelwch, wedi cael fy rhwymo gan y llw wnaethum i chwi noson marw fy nhad na fuaswn byth yn yngan yr un gair wrth neb byw bedyddiol yn nghylch y gyfrinach amlygasoch i mi y noson hono parthed fy ngenedigaeth. Fedraf fi ddim aros yma yn hwy, mam bach, wedi cael fy rhwymo felly. Gwell i mi fydd myn'd i ffwrdd yn ddigon pell." Crynai gwefusau yr hen wraig wrth glywed hyn, a disgynodd deigryn o'i llygaid ar y bwrdd o'i blaen. Yr wyf fi am eich gadael yn fuan bellach, Pyrs bach," meddai, mewn llais crynedig. Na, na, chewch chi ddim ein gadael; rhaid i chwi ddod gyda Maggie a minnau i wlad y rhyddid, ac yno daw gwrid yn ol i'ch gwyneb gwelw, mam bach cewch anghofio pob poen yno." Ysgydwodd yr hen wraig ei phen, ac ail- adroddodd yr un geiriau, Byddaf wedi eich gadael yn fuan iawn, machgen i." Ceisiodd Pyrs loni tipyn ar yspryd prudd- glwyfus ei fam, ond y cwbl yn ofer,—daliai yr hen wraig i ddyweyd yr un peth, sef ei bod am eu gadael yn fuan, ac unwaith dywedodd, Yn nghynt nag yr wyt yn tybio, Pyrs." Cododd Pyrs i fyned ymaith, gan ddyweyd, Wel, ffarwel yrwan, mam; byddaf wedi cychwyn am Gaer bore 'fory cyn cael eich gweled. Peidiwch tori eich calon. Ffarwel." Yr oedd yr hen wraig ar ei thraed erbyn hyn, a bwriodd ei hun i freichiau Pyrs, gan dori allan i wylo yn hidl, gan ddyweyd mewn llais toredig, "Hwyrach na chaf dy weled byth eto ar yr hen ddaear yma, machgen i; y mae f'amser i bron wedi dod. Peidiwch siarad fel yna, mam dof yn ol yn mhen tridiau neu bed war diwrnod. Ffarwel yrwan," a cheisiodd Pyrs gael ganddi eistedd, ond gwasgai yr hen wraig yn dynach nag o'r blaen am ei wddf, gan wylo ac ocheneidio fel pe buasai rhywbeth yn dyweyd wrthi mai dyna fyddai y tro olaf am byth iddi gael siarad a'i hanwyl fachgeaa. Yr ydych yn siarad yn union fel pe daswn i yn myn'd i ffwrdd am byth, mam. Peidiwch tori eich calon," ac aeth Pyrs allan ar hyn. PENNOD XVIII. Y DDRYCHIOLAETH YN NOLGYNFI. Er mor gynnar boreu drannoeth y cychwyn- odd Pyrs am y tren i fyn'd i Gaer, yr oedd Maggie yn disgwyl yn nrws Mr Hopkyn ei weled yn pasio, er mwyn canu yn iach a'i chariadlanc ar ei fynediad i ffwrdd o'r ardal am y tymhor maith o bedwar diwrnod- oblegid tymhor maith yw hyd yn nod un diwrnod o absennoldeb i rai claf o gariad. Gyda'r nos yr un diwrnod, dychwelodd Mr Hopcyn o'r Cyfarfod Misol, a chafodd groesaw a gwenau siriol ei ferch fabwys- iedig. Tra wrth y bwrdd te, cofiodd yr hen wr yn sydyn am rywbeth, a gofynodd i Maggie estyn iddo un o'i hen ddyddiaduron, —"y dyddiadur am 1847, ngenethi—dyna fo, rwy'n meddwl, yr isa ond chwech o'r sypyn dyddiaduron yna." Byddai yr hen wr yn cofnodi yn ei ddydd- aduron gryn lawer mwy na'i gyhoeddiadau. Sabbathol. Mewn gair, yr oedd ganddo gofnodion o bobpeth ymddangosai iddo ef yn bwysig yn ei hanes am y deugain mlynedd cyn hyn. Tra yn edrych drwy'r hen ddyddiadur, dywedodd, Cyfarfyddais Harri Llwyd, Dolgynfi, wrth ddod adre yrwan, a gofynodd i mi a oeddwn yn cofio pa bryd y daeth ei dad a'i fam i fyw i'r cyffiniau yma, ac hefyd, os gwyddwn, tua faint yw oedran Pyrs, dy gariad di, ngeneth i." Beth sydd arno fo eisio efo hyny, ysgwn i?" gofynai Maggie, "does arno fo ddim eisieu gwneyd rhyw lawer o ddaioni i Pyrs mi wranta." Dydw i ddim yn gwybod 'beth sydd arno eisieu efo hyn, ond addewais wrtho yr anfonwn gopi o rywbeth sydd genyf yn fy nyddiadur yn nghylch dyfodiad ei dad i'r ardal yma i fyny iddo fo heno—a dyma fo hefyd ar y gair," a darllenodd yr hen wr allan o'i ddyddiadur fel hyn— "Hydref 20fed. Pregethais ddwywaith yn y Waen; cynnulliadau bychain oherwydd y gwlaw trwm. Wrth ymddyddan ag un o'r brodyr ar y ffordd i'r Waen yn y boreu, clywais fod dyn o'r enw Morgan Llwyd newydd brynu Dolgynfi a dod yno i fyw, mai o Ysgotland y daeth yno, ac mai Gwyddeles oedd ei wraig, na fedra hi yr un gair o Gymraeg. Gwelais y teulu dieithr yn y capel yn yr hwyr, ac yr oedd ganddynt blentyn bach ychydig fisoedd oed, rhy ieuanc i allu cerdded. Clywais wed'yn mai Pyrs y gelwid y baban." Dy Byrs di oedd y baban yna, ngeueth i; felly, weldi, mae o yrwan yn gyru ar ei wythfed mlwydd ar hugain oed," ebai yr hen wr gan glirio cwrdd o'r bwrdd i fyn'd ati i wneyd copi o'r cofnodiad uchod o'i ddyddiadur. "Wnei di gymryd hwn i Dolgynfi, heno, Maggie," gofynodd yr hen wr ar ol gorphen ysgrifenu, gan blygu y papyr a'i roddi mewn amlen, a dyro fo i Harri, os gweli di o." Yr oedd ar Maggie eisieu myned i'r ysgol ganu y noson hono am y tro olaf cyn ffarwelio a'r cor oedd, dan arweiniad Tenor- y Marchlyn, yn ymbaratoi gogyfer a rhyw gystadleuaeth neu gyngherdd neu gilydd, ac felly, ni byddai fawr hwy yn myn'd i Dolgynfi. Yr oedd yn nos dywyll pan gychwynodd Maggie am Dolgynfi o'r ysgol ganu, ac yn tebygu i ychwaneg o wlaw. Meddwl am Pyrs yr oedd yr eneth, tra yn cerdded drwy'r tywyllwch ar hyd y ffordd unig a choediog oedd yn arwain at yr hen balasdy-meddwl y buasai yn caru bod wedi cael ei weled yn faban bach, fel y desgrifid ef gan ei hewythr, ac wedi cael cyd-dyfu i fyny ag ef, myn'd i'r ysgol gydag ef ag i'r un class ag ef. lclili hi yr oedd rhywbeth rhyfedd yn y syniad fod ei Phyrs hi-y llanc talgryf wyth ar hugain oed-wedi bod erioed yn grwtyn bach yn gwisgo pais, ac hwyrach yn cael ei gym'ryd allan o'r capel gan ei fam am grio a distyrbio y pregethwr—distyrbio Mr Hopkyn, efallai. Yna rhedodd ei meddwl at ddydd ei phriodas-dim ond ychydig gydag wythnos wedyn na byddai yn cael ei huno hyd angau â'r llanc oedd yn llon'd ei mheddwl a'i chalon ar y mynydau hyn. Tra yn myfyrio fel hyn ac yn cerdded ar hyd I