Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

NATUR DDA YN Y TEULU

3HYSYN YNTE RHOSYN

SPECTOLS MODRYB MARI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SPECTOLS MODRYB MARI Y DYDD o'r blaen, talodd y Parch Jeraboam Jabez Jones, M.A., B.Sc., D.D., &c., ymwel- iad a Modryb Mari, a gofynodd iddi a oedd ganddi Feibl yn y ty, gan fwriadu gwneyd yr angen hono i fyny os nad oedd y gyfrol yn ei meddiant. Er syndod i'r ymwelydd, atebodd Mari braidd yn boethlyd ei thymher :— Ydych chi'n meddwl mai pagan ydw i, Mr Jones ? Oes, nia gen i Feibl, ac yr wyf yn 'i ddtirllen ef yn gyson, hefyd, cofiwch." Yna, gan gyfarch geneth fechan, dywed- odd Mari, Dos i'r dror, Ann, ac estyna'r Beibl i mi, fel y gallai ddangos i Mr Jones nad ydyw i yn bagan." Na, na, wraig dda," ebe Dr Jeraboam Jabez Jones braidd yn ofnus, peidiwch a thrafferthu dim ar eich hun, a maddeuwch i mi am fy hyfdra." Ond nid oedd dim yn tycio, mynai Mari gael dangos fod ganddi Feibl. Yn union, rhoddwyd y llyfr yn ei Haw, ac wrth ei agor gwaeddodd Mari mewn Uawenydd :— Wel, yr argian fawr I ma'n dda gen i ych bod chi wedi galw Mr Jones bach; dyma fi wedi cael fy spectols yno fo, a ma nhw wedi bod ar goll er's tair blynedd I" Prysurodd Dr Jones allan gan fwmian rhywbeth yn nghylch y pechod gwreiddiol a llygredigaeth y natur ddynol.

CYHUDDWR TYNER

EISIEU MYN'D

TAFARNWR GWYBODUS

BOB WYTHNOS.

,0 WYTHNOS I WYTHNOS

TELERAU.