Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

- Y PRYF COPYN A'R GRAIG YSGYTHROG

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PRYF COPYN A'R GRAIG YSGYTHROG AR ddiwrnod ystormus a gwlawog, yn ddiweddar, aethum i gael golwg ar y mor yn ymyl y Graig Ddu, y He dymunol hwnw sydd rhwng Porthmadog a Chriccieth. Er mwyn gocheliad rhag yr ewyn a deflid gan y mor a'r gwynt i fyny at y lie yr oeddwn i yn sefyll arno, aethum y tu ol i ddarn craig tebyg i hyn: Trawst o gareg uwch fy mhen a throell o faintioli fy nau ddwrn odditano ar y ddehau cefn o graig ddeg troedfedd o uchder, yn taflu allan dair troedfedd, ac yn cefnu at y lie y safwn i arno. Yn nghesail y darn hwn, hefo'r trawst uwch fy mhen, y safwn i. Yr oeddwn yn lied ddyogel ar y cyfan oddiwrth wlyban- iaeth, tra y parhai y gwynt i chwythu o'r deheu-orllewin. Tynwyd fy sylw at y twll oedd yn y graig oedd dan y trawst. Yr oedd darnau man o gerig yn ochrau y twll,- darnau ag y gallwn eu tynu ymaith â'm bysedd, tra yr oedd y graig odditanaf ac yn is i lawr yn graig galed a chadarn. Ar draws genau y twll yr oedd pryf copyn wedi gwau ei we. O'r top yr oedd gwe yn hongian, ac yna gwe arall ar draws y twll o ochr i ochr, y gwe o'r top yn ei gysylltu yn y canol, ac yna llinynau i bob cyfeiriad. Yn nghongl chwith y twll yr oedd nyth y pryf copyn. Chwiliais ef yn fanwl, ond methais a gweled y pryf copyn, a methais a gweled unrhyw ysglyfaeth yno. Beth oedd y mater, tybed ? A oedd'y pryf, ar ol gwneyd ei rwyd i ddal pryfaid, wedi methu cyrhaedd ei amcanion ? Y diwrnod o'r blaen, yr oeddwn wedi bod yn gweled pysgotwyr y Borth yn gwneyd rhwydi, yn myned allan i geisio dal pysgod, ac yn dychwelyd heb ddal yr un. Ai yr un peth oedd wedi digwydd i'r pryf copyn hwn ? Synais yn fawr ei weled yn y fath le,-hyny ydyw, gweled ei waith. Efallai ei fod wedi aros yno yn hir, a chan nad oedd yr un ysglyfaeth yn dyfod y ffordd hono, gwell oedd i'r pryf copyn fyned i le gwell a mwy manteisiol. Dyna'r unig reswm a ddeuai i fy meddwl i dros fod y nyth a'r rhwyd wedi eu gadael heb na neb byw na marw ynddynt R. o FADOG.

[No title]

- GOLYGYDP Y LLEUAD GVMREIG…

Advertising

CONQL Y CYHOEDDWR

CELL Y GQLYQYDD