Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

MOLAWD aWYLLT WALIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MOLAWD aWYLLT WALIA. I (Canig i S, A. T. B.) Y Geiriau a'r Gerddoriaeth gan Eos BBADWEN; Muriau mawreddig, gwlad glodforedig, Rhinwedd a chan fyddo'n goron i'w phen; Seinied clogwyni gwlad mor uchelfri, Tra byddo seren yn addurn i'w nen. Llawer cyflafan, galar a chwynfan, Llawer du gwmwl fu'n cuddio dy toawr Gwlad hoff gan engyl, gwlad swn efengyl, Bendith ei nefoedd a lifodd i lawr. Lion fo caniadau hen wlad fy nhadau, Gwlad yr Eistedddfod a gorsedd y bardd Llu'r gwawl a safant, gwlad mawl ei galwant; Nid oes er Eden baradwys mor hardd Wylai'r awelon leddfus alawon, Pan oedd brad creulon ar gynllwyn ir gad, Ond er pob soriant seinir dy foliant, Clod a gogoniant i Gymru fy ngwlad. Y Geiriau mewn llythyrenau Italaidd i'w hailadrodd gan yr Alto, Tenor, a'r Bass.