Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

EIN CYSTADLEUON

[No title]

DYFAIS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYFAIS Os oes rhai o'n darllenwyr wedi dyfeisio rhywbeth newydd a defnyddiol yr hoffent gael breinteb arno, gallant gael pob many lion angenrheidiol i'w cynnorthwyo, drwy ysgrif- enu at Patent," Papur Pawb, Caernarfon. BONEDDWR Wel, beth eto? Yr wyf newydd roddi rhywbeth i chwi y mynyd yma. CARDOTYN: Do, syr, ond am chwareu y ffidil yr oedd hyny; yr wyf fi yn arfer a gwneyd tipyn yn y cymeriad o gardotyn hefyd. Mae'n debyg," meddai cwac wrth deimlo pwls dyn claf oedd yn cymeryd ei gynghor yn erbyn ei ewyllys—"mae'n debyg eich >vbod yn meddwl mai tipyn o hymbyg ydwyf "Wel, yn siwr," meddai y dyn claf yn ddifrifol, ddaru mi 'rioed feddwl fod yn bosibl i neb ddarllen meddwl dyn mor gywir wrth deimlo'i bwls." WI&TSGS Y Sadwrn diweddaf, fel yr oedd Cymro mawr, tal, cymalog a barfog yn ymaflyd yn ei forthwyl, ac yn edrych o'i gwmpas yn dyweyd y drefn, ac yn edrych yn fygythiol ar bawb o'i amgylch, tarawodd un o'r tai uwchaf yn y dref i lawr a'i forthwyl. Ar- werthwr oedd y dyn. Nid oedd Simon Tyclai, wrth biygu i lawr i olchi ei ddwylaw yn y ffos y dydd o'r blaen, yn gwybod fawr am ysgogiadau bwch gafr oedd yn digwydd bod o'r tu ol iddo; Ond wedi iddo fwstro ei hun allan o'r llaid, ac i rywun ofyn iddo sut y digwyddodd y peth, atebodd na wyddai ef, ond fod yn ym- ddangos iddo fod y lan wedi codi i fyny o'r tu ol iddo a rhoddi hergwd iddo i ganol y ffos. Pan welodd Neli fach Negro am y tro cyntaf erioed gofynodd:— Ai plentyn amddifad ydi o mam ?" Wn i ddim fy mhlentyn i, beth oedd yn peri i ti ofyn ?" Gweled ei wyneb a'i ddwylo fo mown mourning. ATHRAW: Bwria di rwan fod genyt ddau ddarn o siwgr candi, a bod dy frawd hynaf 11 yn rhoddi i ti ddau yn ychwaneg; faint fydd genyt felly yn gyfangwbl ? Y BACHGEN BYCHAN (yn ysgwyd ei ben): 'Dydach chi ddim yn i 'nabod o. Nid un felly ydi Tomos ni. fS JOHN SYDNEY JONES: Wel, Catrin, mi rydw i yn tynu ngair yn ol. Wuaiff Lord Penwaggle mo'r tro yn fab-yn-nghyfraith i mi. CATRIN: Tada bach, be' be' ydach chi'n feddwl ? J. S. JONES: Mae Sharper y twrne yn deud i mi na faswn i a dy fam ddim yn perthyn i'r House of Lords wedi'r cwbl. Ma'n well i ni fyn'd yn ol i Awstralia, TYei di, ac mi gei ryv* ddyn yn wr i ti.