Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

DYFAIS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dywedir fod defaid duon Abercwmcleidir yn bwyta gymaint ar gyfartaledd a'r defaid gwynion. rr'¡;t\1$ l'i Y mae undertaker Cwmbwrlwm yn adfer. teisio fel y canlyn yn y Lleuad Gymreig "Paham y mynai dyn fyw yn druenus pan y gallai gael ei gladdu yn gymfforddus am dair punt a chweigain ?" S TOMOS Y mae Plunger Owen wedi priodi genets yn medru chwech o. ieithoedd, fachgen. WIL ELLIS: Dyn a'i heipo, nid yw fy ngwraig i yn gallu siarad ond un iaith, ac y mae hyny yn llawer gormod i mi. -Cit" OFFEIRIAD: Wel, Biddy bach, ac y mae Flanagan wedi bod yn ymladd eto, yr wyf yn gweled. BIDDY MALONE Bigora, eich parchedig- aeth, Flanagan ydi'r dyn na fydd o byth yn dawel ond pan fydd o 'n ymladd. f@ Pan ddywedais i wrth Elen ein bod yn myned i briodi, dywedodd ei bod yn methu a pheidio cenfigenu wrthyf," meddai hi. "Dim rhyfedd, dim rhyfedd," meddai yntau. Ie, yr oedd yn dyweyd y rhoddai hi un- rhyw beth pe buasai yn gallu bod mor hawdd ei phlesio a mi." Glb MEDDYG Y mae yr anhwyldeb dieithr hwn sydd yn eich gwddf yn un o'r pethau rhyfeddaf yn y byd, ac yn sicr o beri dydd- ordeb mawr yn mhlith y meddygon. Y CLAF Gan hyny, doctor, cofiwch chwi yrwan pan fyddwch yn gwneyd i fyny eich costau nad ydwyf fi ddim wedi codi dim arnoch chwi am gael edrych i lawr fy ngwddw. @ Hi: Amser braf o'r nos i chwi ddod adref. onide ? FFE: Amser braf o'r nos i chwi fod yn effro, onide ? Hi: Yr wyf fi wedi cadw fy hun yn effro am y pedair awr hyn i'ch disgwyl chi adref. EFE Yr wyf finnau wedi cadw fy hun yn effro yn y clwb am y pedair awr yma i aros i chwi fyned i gysgu. Dyma i chwi botelaid," meddai'r fferyllydd, o feddyginiaeth a fawr gymer- adwyir mewn achosion o afiechyd fel yr eiddoch chwi. Y mae yn feddyginiaeth freintebol, ac y mae gan y masnachdy lie cymysgir y feddyginiaeth fyd-adnabyddus hon lonaid basgedi anferth o lythyrau cymeradwyaeth. Y mae wedi gwella mil- oedd lie yr oedd pob meddyginiaeth arall wedi methu." '4 'Does genyf fi ddim ffydd mewn llythyrau canmoliaeth o gwbl," meddai y cwsmer. Gadewch i mi gael potelaid o ryw gymysg- edd, os oes genych un, nad oes dim son am ei fod wedi gwella neb erioed." I AGO Wyt ti wedi darllen y llythyr at y golygydd heddyw, Twmi ? TWMI Nag ydw i: fydda i byth yn leicio darllen llythyrau dienw pobl sydd yn hoff o wel'd eu henwau mewn print. i Ile" Gofynwyd i foneddwr oedd newydd ddy- chwelyd o daith drwy'r Cyfandir pa fodd yr oedd yn hoffi adfeilion Pompeii. 'Doeddwn i ddim yn hidio rhyw lawer ynddynt, y mae nhw mor ofnadwy allan o repars." 'Rwyt ti'n edrych yn benisel iawn, Tomos," meddai gwraig y drws nesaf am ba beth y bydd dyn yn meddwl pan fyddo yn meddwl am ddim ?" Meddwl am addewid merch y bydd o," ebai'r carwr siomedig. &rj, Pa bapyrau oddiar fy mwrdd ysgrifenu yr ydych yn eu llosgi yrwan?" gofynai awdwr i'w forwyn weini. O," meddai y forwyn, dim ond y papyr sydd wedi ei ysgrifenu drosto bob modfedd, syr, dydw i ddim wedi cyffwrdd a'r papyr gUn o gwb]. DEINTYDD: A allaf fi gael gweled eich meistres, fy ngeneth i ? YR ENETH: Nas gellwch, syr, y mae'r ddannodd arni. DEINTYDD Sut y gall hyny fod, a minnau wedi dyfod a'i dannedd hi yn fy mhoced ? [rJftlc$ Q;9'W9 Y FERCH FECHAN Dydw i ddim yn leicio'u bod nhw wedi tiwnio yr hen biano. Y FAM Paham, fy ngeneth i ? Y FERCH FECHAN Achos pan fydda i yn chware arno fo yrwan, fedra i ddim rhoi bai y mistakes ar y piano. mm MEISTRES Y TY Sut y mae y gegin mor ddistaw, Mari, pan fydd dy gariad yn cadw cwmni i ti yn oriau'r hwyr ? MARI Y FORWYN: Mi ddeuda i chwi, meistres y mae y creadur druan mor swil hyd yn hyn fel nad ydyw yn gwneyd dim ond bwyta tra y'bydd o yn aros yma. Yr oedd Miss Edwards, geneth ieuanc ddeunaw oed, yn myned i briodi boneddwr un ar bymtheg ar hugain oed. Yr oedd ei mam wedi sylwi ei bod yn edrych mewn isel yspryd er's tro, a gofynodd iddi y rheswm am hyny. O'r anwyl," meddai'r eneth ieuanc, yr oeddwn yn ceisio dyfalu beth oedd bod yn wraig i un oedd cyn hyned ddwywaith a mi." "Y mae hyny yn ddigon gwir, ond nid ydyw ond un ar bymtheg ar hugain." "Dydi o ddim ond un ar bymtheg ar hugain yn awr, fy anwyl fam ond pan fyddaf fi yn dri ugain Wel, beth am hyny ?" Wel, bydd ef y pryd hyny yn gant ac ugam oed," Fy machgen i," meddai hen wr wrth blentyn bychan terfysglyd, pen bychan heb ddim byd o'i fewn sydd genyt ti." "Ac am danoch chwi, syr," meddai'r bachgen, pen mawr heb ddim byd yn tyfu arno fo sydd genych." 1J 'Roedd Roli bach yn myned o dy i dy i chwilio am y gath, pan y dywedodd yr hen Gatsan Puw wrtho nad oedd hi wedi gweled na chath na llygoden yn y gymydogaeth er pan oedd yr harmonium wedi dyfod i'r drws nesaf. @;E6 Y mae cymdeithas o foneddigesau ieuainc yn mhlwyf Llangwyllog wedi dod i'r pender- fyniad mai hir garwriaeth yw y goreu. Y mae sylw a phroliad yn eu dysgu fod rhyw ymollyngiad rhyfeddol mewn anrhegion o bob math, gofal a charedigrwydd o bob rhyw, a sylw serch a rhosynau o bob lliw a llun yn cymeryd lie pan fydd y caru drosodd, a'r bywyd priodasol dreng a sylweddol yn dechreu. t{ Yr wyf wedi galw yma i gael tynu fy Hun, ar gymeradwyaeth cyfaill i mi. A buasai yn well genyf, os na fyddai o ryw wahaniaeth i chwi, pe cawn fy nhynu yn fy nghot newydd o fur Kangaroo a brynais yn Awstralia." 0," meddai'r arlunydd, pobpeth yn iawn. Yr wyf wedi arfer tynu darluniau pob math o anifeiliaid." Y mae rhyw ddirgelwch hynod iawn mewn perthynas i'r yspeiliad beiddgar yna, onid oes," meddai Hywel wrth Robin. Paham ?" meddai Robin, dydw i ddim yn gweled dim dirgelwch yn perthyn iddo fo o gwbl, darfu i'r swyddogion ddal y lladron yr un diwrnod." "Dyna fo," meddai Hywel, "hyny sy'n gosod hynodrwydd ar y digwyddiad." &Jil#l !J Yr oedd Simon Tyclai yn aros y train yn station Brynybwei, lie yr oedd mynwent yn y golwg heb fod yn mhell. Pa fynwent yw hona ?" gofynai Simon. Yna," meddai rhywun oedd yn sefyll yn ei ymyl, y mae nhw yn claddu y teithwyr fydd yn marw yma wrth ddisgwyl am y tren." Agorodd Simon ei ddau lygad yn synedig, gan gerdded yn ol ac yn mlaen yn anes- mwyth. &&<§ £ .<$& Unwaith, pan oeddwn mewn perygl o gael fy lladd gan lew," meddai hen deithiwr Affricanaidd, gwnaethum brawf ar y cynghor o eistedd i lawr ac edrych yn myw ei lygaid, am nad oedd genyf arfau tan." Wel, meddai ei gydymaith, a fuoch chwi yn llwyddiannus ?" "Yn berffaith felly; ni chynnygiodd y llew gyffwrdd a mi o gwbl." Rhyfedd iawn Pa fodd y gallwch roddi cyfrif am hyny?" Wel, byddaf yn meddwl ambell dro mai o achos fy mod wedi eistedd ar gangen uchel iawn ar y goeden."