Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ARDALYDD MON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARDALYDD MON. GANWYD yr Ardalydd presennol yn 1835, ac efe ydyw y ped- werydd banvn yn dwyn y teitl urdd- asol. Y cyntaf oedd Iarll Uxbridge, yr hwn oedd yr ail yn arwain y byddin- oedd Prydeinig ar Faes Waterloo, a'r hwn ar ol hyn a ddyrchafwyd yn Ar- dalydd, a dewisodd gael ei adnabod wrth y teitl Marquis of Anglesey, gan iddo etifeddu llawer o eiddo yn yr Hen Ynys trwy briodas rhai o'i deuluoedd. Ar ol yr Ardalydd, ychydig a fu ymweliadau ei ddau olynydd a, Mon, er fod ganddynt un o'r palasau eangaf a harddaf yn y sir, sef Plas Newydd, ar lan y Fenai. Olynu ei frawd ddarfu i Arglwydd Henry, yr Ardalydd presennol, yn yr etifeddiaeth a'r teitl, ac os na roddodd y brawd hwn ei droed ar dir Mon, y mae Ardalydd ein dyddiau ni yn ymhoffi cartrefu yn Plas Newydd, er fod ganddo dy ardderchog a elwid Beaudesert Park, Rugeley. Y mae yn is-raglaw ac ustus heddwch dros siroedd Stafford a Mon. Cymer ddyddordeb anghy- ffredin yn yr amgylchiadau o fewn y cylch- oedd agosbaol i'w gartref Cymreig. Pan oedd y Royal Naval Artillery Volunteers mewn bod, ymgymerodd a'r brif lywydd- iaeth dros y cwmniau a fodolai o Lerpwl i Gaernarfon. Wedi i'r cwmniau hyn gael eu dileu, penodwyd yr ardalydd yn gadfridog anrhydeddus i Wirfoddolwyr y Royal Welch Fusiliers yn siroedd Fflint ac Arfon. Efe ydyw Commodore y Royal Welsh Regatta Club, a chymer ddyddordeb arbenig mewn pethau morwrol. Er mai Tori ydyw, eto meddiennir ef gan yspryd rhydd ac eang, fel yr arddengys ei waitb yn ymgymeryd qg agor bazaar i Wesleyaid Cymreig tref Caernarfon.

ARGLWYDD TREDEGAR.

ARGLWYDD KENSINGTON.

IARLL POWIS.

IARLL DENBIGH.

[No title]