Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ARDALYDD MON.

ARGLWYDD TREDEGAR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARGLWYDD TREDEGAR. Y MAE pobpeth yn arwyddo fod y gwr urddasol hwn yn hanu o waedoliaeth Gymreig, a dywedir ei fod yn ddisgynydd o Ifor Hael,1 y gwr cymeradwy hwnw a fu mor ddefnyddiol fel noddydd i Dafydd ap Gwilym yn nyddiau adfyd y bardd annarbodus. Ei enw cynwyn ydyw Godfrey (Jnaries Morgan, ac efe ydyw ail Farwn Tredegar, wedi yn 1875 olynu ei dad, yr hwn a gym 3rodd arno y teitl gwir Gymreig pan ddyrchafwyd ef i Dy'r Arglwyddi. Ymunodd y Barwn presennol a'r fyddin yn 1850, bu trwy holl ryfel y Crimea, ac yr oedd yn bresennol yn mrwydrau Alma, Balaclava, Inkermann, a gwarchaead Sebas- topol. Derbyniodd y fedal a'r claspiau Crimeaidd, urdd y Medjedie, a'r fedal Dyrcaidd. Y mae yn ustus heddwch dros dair o siroedd ac is-raglaw dros ddwy; bu yn uchel-sirydd, ac yn aelod Seneddol dros swydd Frycheiniog 1858-75. Ceidw i fyny draddodiad y teulu trwy ymhoffi mewn symudiadau Cymreig. Yr oedd efe yn un o is lywyddion yr Eisteddfod Genedlaethol yn Mhontypridd, a thraddododd anerchiad wladgarol ar yr amgylchiad.

ARGLWYDD KENSINGTON.

IARLL POWIS.

IARLL DENBIGH.

[No title]