Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ARDALYDD MON.

ARGLWYDD TREDEGAR.

ARGLWYDD KENSINGTON.

IARLL POWIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

IARLL POWIS. YN y fiwyddyn 1862 y ganwyd y pendefig hwn, ac nid oes ond rhyw ddwy fiynedd neu dair or pan y rhoddodd i fyny y broff eswriaeth fil- wrol i gymeryd arno deitl ac etifeddiaeth ei ewythr o Gastell Powis, un o'r ysgol- heigion penaf yn mysg mawrion ein gwlad ac un a gy- merai ddyddordeb arbenig mewn materion Cymreig, fel y bu ei nodded i'n heisteddfodau, i'n llenyddiaeth, addysg, a cholegau ein gwlad yn engreiphtiau. Tipyn yn anhawdd i ddyn cymhariaethol ieuanc ddilyn gwr mor enwog a chymeradwy yn y fath sefyllfa uchel ac urddasol. Modd bynag, da genym ddeall fod yr Iarll eisoes wedi gwneyd llwyr gyfeill- ion o'i denantiaid a phobl amgylchoedd Castell Powis a Thrallwm, lie y triga ef a'i briod yn benaf. Yn wir, fel prawf o hyn, cymerodd bloddest frwd le yn yr ardal y dydd o'r blaen pan anwyd etifedd i'r pendefig. Efe ydyw y trydydd Iarll, a mab i'r diweddar Anrhydeddus Percy Egerton Herbert, brawd yr ymadawedig Iarll, yr hwn na fu yn briod. Da genym ddeall ddarfod i'r larll newydd ymroddi i ddysgu Cymraeg, a thraddododd anerchiad yn yr iaith hono, y dydd o'r blaen, yn Llan- gedwyn. Eled rhagddo i ymgynefino a, iaith ei henafiaid, y rhai oeddynt Bowysiaid diledryw, a bydded mor enwog yn y byd llenyddol Cymreig a Saesneg ag oedd ei ewythr mewn lluaws o ieithoedd byw a meirw.

IARLL DENBIGH.

[No title]