Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

ARDALYDD MON.

ARGLWYDD TREDEGAR.

ARGLWYDD KENSINGTON.

IARLL POWIS.

IARLL DENBIGH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

IARLL DENBIGH. YN ddiweddar yr ol- ynodd yntau i'r teitl a'r eiddo a berthyn- ant i'w ddiweddar dad, yr hwn oedd y seithfed Iarll, ac felly y. presennol ydyw yr wythfed. Nid oes ond tua blwyddyn pan fu farw y tad. Enw cynwynol y mab ydoedd Rudolph Robert Basil Aloysius Augustine, ond adnabyddid ef wrth y teitl Viscount Fielding. Addysgwyd ef yn y Royal Military Academy, ac yr oedd yn is-gapten yn y Royal Artillery. Perthyna rhai hanesion rhamantus i'w dad, y rhai a ddeil berthynas hyd yn hyn a'r mab. Wedi ei ddwyn i fyny yn Brotestant, trodd y tad at y Pabyddion, a chymaint oedd ei sel dros ei grefydd newydd fel y gwariodd filoedd ar filoedd o bunnau i godi capel, mynachdy, a lleiandy yn Pantasaph, ger Treffynnon, ac y mae wedi gwaddoli y lleoedd hyny mor ehelaeth fel y mae yn y fan un o'r sefydl- iadau Pabyddol cryfaf a mwyaf llwydd- iannus yn y wlad. Wrth gwrs, cafodd yr larll presennol ei ddwyn i fyny yn y grefydd Babyddol, o'r hon, yn ol pob ymddangosiad, y mae yn aelod ymroddgar a ifyddlon, canys cawn ef a'r teulu, ar ol marwolaeth y tad, yn cefnogi yr eglwysi Pabyddol i raddau eang trwy eu hanrhegu a ffenestri coffa i'r diweddar Iarll, heblaw llu o gofgolofnau i'r unrhyw amcan.

[No title]