Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Y BODDIAD YN ABERAFON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BODDIAD YN ABERAFON. BUDDUGOL.] Yn Aberafon byw rwyfau-wanant Wyneb llyfn y tonau, Y bad a'r llwyth bywydau Gerdda i faes y gwyrdd fan. Angen dig ar fwng y don—ddaw i'w gwrdd Ac hyrddia'r bad hylon, Yna egyr safn eigion I draflyncu y llu lion! Mal o ddirgeloedd ami i ddewr galon 'E lifa aethus ddolefau meithion Yn galonrwygol—clyw glanau'r eigion Don o alar ar danau awelon. Aros di, chwareus don-gwel, effeithiau Y digri' chwareu yw dagrau chwerwon. Gwelweh ffrydiau galar-yn llwyr hulio Llawer aelwyd hawddgar; Ow mae gan lu ryw gu gar Dan wyneb y don anwar. Ar ael y dwr Rahel dirion-welir Yn wylo ei chalon, [arswyd Mae Rhondda'n Rama'r awrhon—gan Trueni brofwyd draw'n Aberafon.
TANCHWA GLOFA Y PARC, TONDU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TANCHWA GLOFA Y PARC, TONDU. Y wawrddydd wen, fel arfer, sy'n ysgubo Y nos i ffwrdd, a phobpeth sydd yn deffro Yn mhelydr byw ei gwedd Y Cread' mawr Sy'n llawn o fywyd newydd oil yn awr. Olwynion mawrion masnach byd sy'n dechreu Myn'd ar eu cylchdro ac fe glywir seiniau Y boreugodwyr wrth fyn'd at eu gwaith Yn beichio yr awelon ar eu taith. Yn mysg y miloedd boreugodwyr hyny Sy'n myn'd yn hyf i ymladd 'Brwydr bywyd' Mae glowyr dewr Tondu ac O mor bybyr, Mor lion y maent, fel pe bai engyl cysur A blaen eu hedyn gwynion wedi'u cyffwrdd— Yn mlaen yn liawen ant i ganol dadwrdd Peiriannau glofa'r Pare, ac yno gwelir Hwy'n disgyn i'r dyfnderau erch mor ddifyr, Mor eon, mor naturiol ag yw'r mawr Sy'n myn'd at ei swydd o eistedd lawr. Dilynaf hwy yn mlaen, mor rhwydd, mor wrol Plyg-gerddant dros ffyrdd geirwon, an- nymunol, Hyd at y Talcen Glo,' ac yno'n noethion A gwyliadwrus gweithiant megis dewrion. Mae ambell un yn canu wrth ei waith, Ac ambell un yn adrodd stori ffraeth Wrth ei gydweithiwr, ac fe welir draw Rhyw naw neu ddeg yn nghyd ar fwrdd o faw Yn bwyta eu tameidiau. Ond 1 Beth ? Ust! Pa beth yw'r dieithr dwrf sydd ar bob clust Yn tori'n drwm ? Ofnadwy dwrf Ai tan- ehwa yw 2 11 O 1 gyfyng awr 0, galed awr 0 Dduw, Pa le 'nai ffoi ? 1 0 ddifrifolaf dynghed! Ai nid oes modd i'r glowyr gael ymwared ? Olygfa erch, lesmeiriol! Y mae'r lofa Yn ysgwyd fel daeargryn gan y danchwa!! Y preiff golofnau fu yn dal i fyny Y nenfwd gadarn gawsant oil eu chwytbu Fel us o flaen y gwynt, ac a I 'r taranau A grea'r nen wrth syrthio 'n fawrion ddarnau Nes cau'r holl ffyrdd o'r bron. Ond O 1 Yn awr Pa le mae'r glowyr druain ? A oes gwawr 0 obaith hoff i dori ar eu hanes ? Na, na, eu hanes hwy fydd mwy ar lechres Blin farwolaethau.! Mae'n banner dydd, ac O! o gylch y lofa Fe welir blin olygfa arall, dodda Y galon fwyaf gadarn I Mae y lie Fel Glyn Wylofain I Gwragedd waeddant. Ble Mae Mhriod hoff am hanwyl blant ? O! Dduw: Dwg hwy i'r lan, i'r lan o'r tan yn fyw I 1 ni yn awr Yn awr O wyllti mawr o boenus ddrych i edrych iddo'n awr Gwragedd yn rhuthro'n wallgof ar bob llaw, A'n hocheneidiau dwys i'r bryniau draw Yn myned ar adenydd gwyllt awelon, A'n briw galonau 'n toddi'n ddafnau mawr- ion Ar hyd eu gruddiau gwelwon.! Dyma yw Eu llefau oil—"A oes rhai'n fyw I Yn fyw ? I Mae teyrn y dydd mewn mor o waed yn suddo I'w orllewinol fedd, a'r dydd sy'n cilio Er rhoddi lie i'r nos, ei hedyn duon Sydd yn mantellu'r Greadigaeth weithion. Drwy'r gwyll hyd at hen lofa'r Pare Tondu Y cerdda cannoedd. Ymgynnulla'r llu a gylch y pwll gan ofyn "A oes gobaith ?" A ddaeth ymwared i ryw un o'r oddaith ?" 0 flin ddisgwyliad !—pawb a'u bron yn brudd Nos i laweroedd yma oedd y dydd- Nos ddu anobaith—duon gymyl gofid Sydd yn mantellu ffurfafenau 'u bywyd Ond ar ymylau'r cymyl duon hyn Ymsaetha peledr o oleuni gwyn. Pa beth yw'r cyffro gwallgof acw welir ? Pa beth yw'r newydd oslef lawen glywir 0 enau'r dorf-yn disgyn ar eu clyw ?— a I diolch diolch y mae rhai yn fyw! 0 fendigedig newydd- "Mae rhai yn fyw," Mae'n llawn o bob llawenydd— Mae rhai yn fyvV." Blin wragedd orfoleddant Plan-t bychain lawenychant,' Gan obaith hwy ddychlamant Yn swn y frawddeg glywant Mae rhai yn fyw." Ond pwy sydd fyw ? ofynant Ond 0 i hyn hwy fethant Gael ateb plaen ddiffuant— Pwy sydd fyw?" Drwy hunan-aberth ambell un dewrgalon Daeth rhai yn fyw i'r lan o boeth afaelion Y danchwa erch! Ac o'r llawenydd sydd Yn gymysgedig ag wylofain prudd Yn gwau drwy'r dorf-rhai am y marw'n wylo, Ac ereill am y byw yn llawenddawnsio. Olygfa drist I O! dorealonus ffaith, Mi af o'i gwydd, oherwydd nid yw iaith Ond cyfrwng gwan i allu rhoi desgrifiad Llawn a phriodol o'r fath flin amgylchiad. OCHENAID,
BOB WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BOB WYTHNOS. CYSTADLEUABTH Y POST CARD.-Papitr Pawb yn rhad drwy'r post am chwarter am yr hanesyn mwyaf difyr. BARDDONIAETH.—Am y darn byr goreu, mewn unrhyw fesur ar ddigwyddiad—heb fod yn wleidyddpl-fyddo wedi tynu sylw'r wlad ar yr adeg yr anfonir.-Pavur Pawb am chwe' mis. STORI FER GYFFROUS (dwy golofn o hyd) -Herald Cyrrvraeg a Papur l'awb yn rhad drwy'r post am flwyddyn. CYFYNGEDIG I BLANT YSGOL.-Cynnygir Hanner Coron yn wythnosol am ateb pos rhifyddol. Os bydd mwy nag un cywir, y cyntaf i anfon a'r goreu ei lawysgrif ga'r wobr. Pos RHIFYDDOL (Rhif 8).—Pe byddai i John roddi i Edward 25p, byddai gan y ddau symiau eyfartal o arian; pe byddai i Edward roddi i John 22p, byddai arian John ddwy- waith gymaint ag arian Edward: Pa faint o arian sydd gan y naill a'r Hall ohonynt mewn gwirionedd.
0 WYTHNOS I WYTHNOS
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
0 WYTHNOS I WYTHNOS Cynnygir hefyd wobrwyon fel y canlyn Medi 30. Hyfrydwch Garddwriaeth (tua thair colofn)—Llyfr darlun- iadol ysblenydd ar dyfu rhos- ynau, gwerth 35s. Hydref 7. Camgymeriadau Sais di-Gym- raeg yn Nghymru-7s 6c. 14. Chwedlau ffres am Glerigwyr a Phregethwyr Cymru-7s 6c. 21. Can y Melinydd-7s 6c. 28. Chwedlau am esboniadau rhy lythyrenol. Dau esboniad Cymreig.
■,TELERAU.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
TELERAU. 1. Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eiddo Papur Pawb. 2. Attelir y wobr oni bydd teilyngdod. Ni ddychwelir y cyfansoddiadau anfudd- ugol; a bydd hawl gan Papur Pawb i'w cyhoeddi trwy dalu swm a benodir gan y Golygydd. 3. Y cyfansoddiadau i gael eu hanfon i Papur Pawb, Caernarfon, fel ag i gyr. haedd ar y dydd a grybwyllir uchod, gyferbyn a phob testyn. 4. Ysgrifener mewn inc du, ar bapyr gwyn, ar un ochr i'r ddalen yn unig. 5. Dyfarniad Golygydd Papur Pawb i fod yn derfynol. Gwneir y dyfarniadau yn hysbys, os yn ddichonadwy, yn mhen pythefnos ar ol derbyn y cyfansoddiadau. 6. Pob ymgeisydd i nodi ei enw priodol, a'i drigfod ar y ddalen gyntaf; hefyd, i ddatgan ei fod yn cydsynio a'r telerau, a bod ei waith yn wreiddiol, neu ynte yn efelychiad o ryw waith, mewn iaith arall, heb fod yn ddarostvngedip i Ddeddfau Hawl-ysgrif. °