Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
- CYDWYBODOL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYDWYBODOL YCHYDIG amser yn ol yr oedd hen wreigan yn codi tocyn y trydydd dosparth i drafaelio gyda'r tren o G-n i F-r. Modd bynag aeth i gerbyd y dosparth blaenaf, a gwelwyd hi yn dod o'r cyfryw gan un o swyddogion y rheilffordd, yr hwn a ofynodd iddi ba fath dicet oedd ganddi ? Third-class, syr," meddai hithau. Yna paham yr oeddych yn trafaela mewn cerbyd.fi,rst- class?" meddai'r swyddog. Cerdd oddyna, y scowndrel," ebe'r hen wraig; paid meddwl y cei di ngeyd i fel yna. Onid eis i at yr ingian, a chyfrif un, dau, tri; ac yna aethum i'r trydydd cerbyd."
TRAED MAWR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TRAED MAWR ROEDD Miss Floppers wedi dyfod i dreulio ychydig wythnosau yn Llandudno. Yr oedd ganddi y traed mwyaf a welwyd ar draeth yr ymdrochle enwog hwnw. Un boreu, fel yr oedd yn rhodio gyda glan y mor, a'i morwyn gyda hi, ac wedi anturio ychydig yn nes i'r lan nag y dylasai ar ddis- tyll trai, suddodd yn y tywod hyd ei mig- yrnau, ac wrth geisio ymryddhau, glynodd un o'i hesgidiau yn y tywod. Digwyddodd ar y funud hono fod badwr ger y lan yn rhwyfo ei gwch, a gofynodd y foneddiges iddo ddyfod i'r lan, a chwilio am ei hesgid. Glaniodd yntau ar unwaith, chwiliodd am yr esgid a daeth o hyd iddi; ac wrth edrych ar ei maentioli anferthol, yr oedd yn edrych mor synedig a phe buasai wedi dyfod o hyd i un o ystyllod arch Noah. Gofynodd i'r foneddiges a'i hono oedd ei hesgid. Ie meddai y foneddiges, "dynahi." "Yn wir, ma'm," meddai'r badwr, yr oeddwn i'n meddwl ar y dechreu mai cryd plentyn bach oedd o."
YR HYN A ALLAI EF EL WNEYD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR HYN A ALLAI EF EL WNEYD GWRAIG Y TY Nac oes, ddyn anwyl, ddim peiriannau astronomyddol i'w hadgyweirio yma. BROCKWEL (y crwydryn) Dim heb fod yn gweithio yn foddhaol yn y gweithdy fferyllawl ? G.: 'Does genom ni ddim byd o'r fath. B. Dim magic lantern neu deleplione yn pallu gweithio ? G. Nac oes, diolch i chwi. B.: Eisio i neb roi amcangyfrif i'r geiniog beth fyddai'r gost i fyned am dro o gwmpas y byd, madam ? G.: 'Does yma neb yn breuddwydio am y fath beth. B.: Dim eisieu cynllun hollol newydd o ddyrysfa fachdrofaol Forafaidd o'r tu cefn i'r ty ? G.: Nac oes, beth bynag ydi hwnw. B.; Dim eisieu cynllun o ffordd gerbydres wedi ei borderu a. blodau, a llewod cerig yn ymddolenu drwy'r lawnt heb feddwl am y gost, yn nghyda ffynnonydd o ddyfroedd peraroglaidd yn ffrydio allan ac yn chwareu mewn chwech o fanau, a physgod aur yn nofio mewn cawgiau marmor ? } G. Nac oes. B. Y mae yn ddrwg genyf, ma'm, ond dyna'r ffordd yr ydw i yn enill fy mywol- iaeth, ac y mae hi'n ddigon trwblus ar ddyn sydd yn foddlon i weithio, ac yn methu cael l dim byd o fewn cylch ei gelfyddydau ei hun. G.: Oes dim byd arall a allech chwi wneyd ? G. (gyda pharodrwydd): Pe basech chi yn digwydd gofyn i mi a allwn i fwyta platiad o wyau a chig moch, ma'm, fy atebiad fyddai fy mod yn meddwl y gallwn ei wneyd. Wyau a chig moch, os gwelwch yn dda, a chwpanaid o goffi. Mae hi'n edrych yn debyg iawn i wlaw, onid ydyw ?
ENBYDRWYDD OEIRIAU MAWR CLASUROL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ENBYDRWYDD OEIRIAU MAWR CLASUROL YN Waen Cae'rcodwm y noson o'r blaen, yr oedd Abel-meholah Jacobs o Grugybabell yn traddodi ei ddarlith werthfawr ar wreidd- eiriau y Gocosaeg, ac yr oeddym yn sylwi fod sillau cyntaf ambell air yn distewi yn y pellder cyn i'r sill olaf ein cyrhaedd. Wedi traddodi yn rymus am beth amser, bu cythrwfl mawr tua'r man lie bydd Betsan Tyclai yn arfer eistedd. Dwr iddi," meddai un, gwynt iddi," meddai y Hall, ac aed a hi allan heb oedi, a gyrwyd am Dr Sawbones. "Yroedd yn amlwg," meddai ef fod un o'r gwreiddeiriau wedi glynu yn ei gwddf, ac yr oedd yn rhaid ei agor. Cyrchwyd brandi, a dechreuodd Betsan disian rhywbeth tebyg i swn gramadega pennod o ansoddeiriau. Ac yn mhen banner awr dadebrodd. Y mae Simon, gwr Betsan, wedi pender. fynu anfon bill Dr Sawbones i Mr Abel- meholah Jacobs.
--... CLODFORWYFTCYFLOGEDIG
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CLODFORWYFTCYFLOGEDIG ER efallai nad oes yn Lloegr na Chymru glodforwyr proffesedig, eto y mae rhai chwareudai yn cymeryd cryn lawer o dra- fferth i sicrhau bagad o ystellwyr y conglau, a rhai eraill sydd yn hongian o amgylch i'w hanregu a thicedi neu ryw bethau eraill gan ddatganwyr. Y mae y dynion hyn yn galla gwneyd eu hunain yn ddefnyddiol mewn amrywiol ffyrdd, i gynnorthwyo consurwyr a mesmer- wyr a phroffeswyr hud a lledrith, ac yn y blaen, ond pan na fyddant yn rhwym felly gwnant yrhyn allant i gynhyrfu cymeradwy- aeth ac encore i'r rhai sydd yn ymddwyn yn fwyaf haelfrydig tuag atynt. Y mae rhai doganwyr yn ei gwneyd yn rheol i ymweled a rhyw ddosparth neillduol, lie y gwant eu hunain yn amlwg drwy an- rhegu pawb o'u cwmpas. Y mae rhai eraill yn gwario rhan fawr o'u cyflogau drwy ddosparthu tocynau ar eu pererindodau dyddiol, i ddynion ieuanc yn benaf, er mwyn eael derbyniad brwdfrydig ar y llwyfan yn y nos. Y mae cantorion eraill yn myned oddi amgylch i ddysgu eu byrdwnau i'r werinos, ac yn rhoddi iddynt docynau rhad ac arian i gael cwrw, a chanir chorus can newydd y noson cyntaf fel pe mai'r beroriaetli fydd yn eu pendroni. Gwneir defnydd o'r dosparth hwn pan fyddo datganydd newydd i ymddangos.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mewn cyfarfod diwygiadol yn America, allan o gant o ddychweledigion, yr oedd llawn ddwy ran o dair yn feibion; a'r rheswm a rydd y merched am hyn ydyw, fod eu rhyw hwy eisoes yn angelesau.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
TAFFIG WREIDDIOL E VERTON (NOBLETT'S). YN CAEL EI WNEYD YN 21, VILLAGE- STREET, EVERTON, LIVERPOOL. Lie yr oedd y Darganfyddwr Gwreiddiol o Everton Taffi yn trigiannu, a'r hwn a agorodd y masnachdy yn 1790, yn lie yr oedd yn gwneyd ei Thaffi, a'r hwn a bwroesid gan bob dosparth o bobl, o'i Mawrhydi i lawr, ac a sefydlodd iddo ei hun enw adnabyddus dros yr lioll fyd. TAFFI EVERTON Is., 2s., a 5s. y BOCS Gellir eu cael gan unrhyw Confectioner, neu anfoner ef (wedi talu y cludiad) o'r Wneuthurfa, 21, Village- Street, Everton, Liverpool, ar dderbyniad Is. 6c.; 2s. 4t,c; neu 5s. Hc. The' 'Herald' Steam Printing Works, HIGH ST., CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes, Tickets, Dance Cards, Legal Forms, Memorandums, Note Paper. Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Catalogues, Sermons, Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancy, Accuracy, Neatness, Despatch. BOOKBINDING IN ALL STYLES AT THE LOWEST RATES — Note the Address:- 'HERALD' STEAM PRINTING WORKS HIGH STREET, CARNARVON