Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

- CYDWYBODOL

TRAED MAWR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TRAED MAWR ROEDD Miss Floppers wedi dyfod i dreulio ychydig wythnosau yn Llandudno. Yr oedd ganddi y traed mwyaf a welwyd ar draeth yr ymdrochle enwog hwnw. Un boreu, fel yr oedd yn rhodio gyda glan y mor, a'i morwyn gyda hi, ac wedi anturio ychydig yn nes i'r lan nag y dylasai ar ddis- tyll trai, suddodd yn y tywod hyd ei mig- yrnau, ac wrth geisio ymryddhau, glynodd un o'i hesgidiau yn y tywod. Digwyddodd ar y funud hono fod badwr ger y lan yn rhwyfo ei gwch, a gofynodd y foneddiges iddo ddyfod i'r lan, a chwilio am ei hesgid. Glaniodd yntau ar unwaith, chwiliodd am yr esgid a daeth o hyd iddi; ac wrth edrych ar ei maentioli anferthol, yr oedd yn edrych mor synedig a phe buasai wedi dyfod o hyd i un o ystyllod arch Noah. Gofynodd i'r foneddiges a'i hono oedd ei hesgid. Ie meddai y foneddiges, "dynahi." "Yn wir, ma'm," meddai'r badwr, yr oeddwn i'n meddwl ar y dechreu mai cryd plentyn bach oedd o."

YR HYN A ALLAI EF EL WNEYD

ENBYDRWYDD OEIRIAU MAWR CLASUROL

--... CLODFORWYFTCYFLOGEDIG

[No title]

Advertising