Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

- CYDWYBODOL

TRAED MAWR

YR HYN A ALLAI EF EL WNEYD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR HYN A ALLAI EF EL WNEYD GWRAIG Y TY Nac oes, ddyn anwyl, ddim peiriannau astronomyddol i'w hadgyweirio yma. BROCKWEL (y crwydryn) Dim heb fod yn gweithio yn foddhaol yn y gweithdy fferyllawl ? G.: 'Does genom ni ddim byd o'r fath. B. Dim magic lantern neu deleplione yn pallu gweithio ? G. Nac oes, diolch i chwi. B.: Eisio i neb roi amcangyfrif i'r geiniog beth fyddai'r gost i fyned am dro o gwmpas y byd, madam ? G.: 'Does yma neb yn breuddwydio am y fath beth. B.: Dim eisieu cynllun hollol newydd o ddyrysfa fachdrofaol Forafaidd o'r tu cefn i'r ty ? G.: Nac oes, beth bynag ydi hwnw. B.; Dim eisieu cynllun o ffordd gerbydres wedi ei borderu a. blodau, a llewod cerig yn ymddolenu drwy'r lawnt heb feddwl am y gost, yn nghyda ffynnonydd o ddyfroedd peraroglaidd yn ffrydio allan ac yn chwareu mewn chwech o fanau, a physgod aur yn nofio mewn cawgiau marmor ? } G. Nac oes. B. Y mae yn ddrwg genyf, ma'm, ond dyna'r ffordd yr ydw i yn enill fy mywol- iaeth, ac y mae hi'n ddigon trwblus ar ddyn sydd yn foddlon i weithio, ac yn methu cael l dim byd o fewn cylch ei gelfyddydau ei hun. G.: Oes dim byd arall a allech chwi wneyd ? G. (gyda pharodrwydd): Pe basech chi yn digwydd gofyn i mi a allwn i fwyta platiad o wyau a chig moch, ma'm, fy atebiad fyddai fy mod yn meddwl y gallwn ei wneyd. Wyau a chig moch, os gwelwch yn dda, a chwpanaid o goffi. Mae hi'n edrych yn debyg iawn i wlaw, onid ydyw ?

ENBYDRWYDD OEIRIAU MAWR CLASUROL

--... CLODFORWYFTCYFLOGEDIG

[No title]

Advertising