Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

---EIN CYSTADLEUON

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

a brynais genych mor ddiweddar yma wedi tori. DODREFNWR: Wel ma'm, mae'n debyg fod rhywun wedi bod yn eistedd arnynt I Dywed carcharor ei fod ef wedi ei anfon i'r carchar am fod yn anonest, a'i fod wedi cael ei gadw yno i dori pasteboard i'w roddi yn ngwadnau esgidiau rhwng darnau o ledr gonest. JJ :{ Yn ddiweddar, mewn Ysgol Sul yn Tany- grisiau, Meirion, methai athraw yn glir a chael gan un o'i ddysgyblion fedru prononcio geiriau. Yr oedd yn medru y wyddor yn berfifaith. Yn y wers daethant ar draws y gair I. meddw." Rwan, John," ebe'r athraw, beth ydyw y gair yna ?" Ar hyn dyma John yn ei spelio, ond aeth yn niwl arno wybod beth ydoedd. "WeI," ebe'r atbraw yn ddefosiynol, gallaf dy dynu o dy dd'ryswch fel hyn, gyda chymhariaeth fechan. Meddylia di rwan, John, dai ti yn gweled dyn mewn diod yr ochr arall i'r afon yna, beth ddywedat." O," ebe John, dacw chi hen foy chwil." Mae hyny yn ddigon gwir," ebe'r athraw ond y mae yna air arall, John (gan ddisgwyl, wrth gwrs, iddo ddyweyd meddw). O," ebe John, daow chi hen foy chwil- dris yr ochr arall i'r afon." Ar hyn gwylltiodd yr athraw yn crwin, a bu raid gadael John fel yr oedd. Ond nawn Sadwrn cafodd John oleuni arno. Gwelodd ei athraw, nid yn chwildris tu draw i'r afon, ond yn chwildris ar ei hyd yn nglianol yr afon. Dylanwad Syr John Barleycorn,onide? G TOMOS Claddu yr hen Wmffra, d ar mr, ac y mae yr hen Wrnffra wedi marw ynte o'r diwedd I RoBiN: Wn i ddim byd am ei farw fo, gweled ddarfu i mi yn y papur ei fod o wedi ei gladdu. (j Mae Twm Dimarian yn cael llawer iawn o drafferth i gael deupen y llinyn yn ngliyd. Yr oedd un o'i echwynwyr yn bur dacr wrtho, pan y dywedodd: Alia i dalu dim i chwi'r mis yma." Dyna fel y dywedsoch y mis diweddaf." "We], yr wyf wedi cadw fy ngair, ouid ydwyf?" $ ) Rhoddodd Proffeswr o Edinburgh hysbys- len allan ar ddrws y brifysgol y byddai, ar awr benodol, yn cyfarfod a'r classes (dos- parthiadau). Darfu i rai o'r bechgyn di- reidus grafu y lythyren gyntaf i ffwrdd, fel ag i wneyd yr hysbysiady byddai y gwr da yn cyfarfod a'r lasses (merched). Gwelodd y Proffeswr y trie, a chrafodd yntau y lythyren gyntaf drachefn allan, fel ag i ddarllen y byddai ef yn cyfarfod a'i asses (asynod). ¡ Nad yw John Whimley Jones yn credu yn y cetyn cwta. Nad ydvw vchwaith yn credu yn y dyn a'r baich drain." Dengys y darlun canlynol.wir hanes y dyn yn y lleuad yn ol damcaniaeth J. W. J.:—