Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-...,.... ATHRONIAETH Y TEITHIWR…

HELBUL GYDA MWMI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELBUL GYDA MWMI YN ystod ei arhosiad yn Basra, yr Aipht, prynodd boneddwr Seisnig un o'r mwmis oedd yn cael eu dangos yn un o'r Pyramid- ion fel gweddillion un o'r hen dywysogion gynt. Gan fod y bocs oedd yn ei gludo yn rhy fawr i'r cerbyd, ac wedi cyrhaeddyd Auxerre, aufonodd ef gyda'r stage coach. Archwiliwyd y bocs yn ol yr arferiad wrth byrth Paris. Agorwyd y bocs gan y swydd- ogion doethion, ac wrth wel'd corph wedi duo drosto ni phetruswyd mwyach, nad corph wedi cael ei bobi mewn pobty ydoedd. Yr oedd yr hen rwymlieiniau oedd o'i amgylch yn ffafriol i'r dyfarniad hwnw, gan y tybient hwy mai crys wedi ei banner loagi oedd ac wedi cynnal trengholiad gofalus, anfonwyd y llofruddedig i'r dead house, i aros nes y deuai rhywun i'w hawlio. Yn mhen yehydig oriau, gwnaeth ei berchenog ei ymddangosiad, ac i hawlio ei eiddo, yr hyn y tybiai ef oedd yn cael ei attal yn y swyddfa. Ar ei ymddangosiad cyntaf yr oedd gwyr doethion Gotham yn edrycli arno gyda golwg cymysg o syndod a dychryn; ac wrth ei weled yn colli ei amynedd, un o'r swyddwyr, callach na'r gweddill ohonynt, a nesaodd ato, ac a sibdodd yn ei glust y byddai yn well iddo fod yn ddistaw, dianc am ei fywyd, os nag oedd arno hiraeth am y dienyddle. Heb wybod pa beth i feddwl o anerchiad mor annisgwyliadwy, trodd y boneddwr ymaith yn hanner gwallgof, gan ddigofaiut a siomedigaeth, ac aeth ar unwaith i chwilio am raglaw yr heddgeidwaid. Wedi llawer o drafferth a myned o lys i lys am dri diwrnod, o'r diwedd cafodd ganiatad gan yr ynadon difrifol seremoniol, i gymeryd ymaith y tywysog neu y dywysoges Aiphtajdd, yr hwn, neu yr hon oedd wedi bod yn gor- wedd yn dawel yn y cwsg difreuddwyd mewn pyramid am dros ddwy fil a hanner o flynyddau, ac a gafodd ddiangfa mor gyfyng rhag cael claddedigaeth Clistion wcdi'r cwbl. Cetyn yw'n oes, mcdd Catwg;

[No title]

-.1.- ,,.....,;,""-1 ,Y CLIO.