Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

MORWYN Y MELINYDD ---

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MORWYN Y MELINYDD R foreu ddydd Sul, flynyddau pell yn 01, yr oedd melinydd y felin hon a'i holl deulu wedi myned i wrando gwasanaeth yr offeren yn yr eglwys oedd yn gysylltiedig a'r hen Fonachlog. Yr oedd y felin—yr hon hefyd oedd yn breswylfa iddo-wedi ei gadael o dan ofal morwyn o'r enw Margaret, geneth ddewr oedd wedi byw yno am flynyddoedd. Yr oedd hefyd blentyn bychan rhy ieuanc i fyn'd i'r eglwys wedi ei adael o dan ei gofal. Pan oedd yr eneth yn brysur yn paratoi y ciniaw, pwy a ddaeth i mewn ond hen gariad iddi o'r enw Rhodri. Creadur segur ac ysgeler oedd Rhodri, ac yr oedd y melinydd wedi ei rybuddio amryw droion i beidio dyfod yn agos at ei dy, a'r hwn yr oedd Margred yn ei garu yn fwy oherwyddnad oedd neb arall yn edrych yn ffafriol arno. Yr oedd yn dda ganddi ei weled, a dywedodd hyny wrtho, a rhoes iddo rywbeth i'w fwyta, a siaradodd gydag ef yn ddifyr tra yr oedd yn gwneyd cyfiawn- der a'r danteithion. Fel yr oedd efe yn bwyta, gadawodd i'w gyllell syrthio ar y lla wr. Cwyd y gyllell yna i fyny, ngeneth i," e, meddai ef, mewn dull chwareus wrth yr eneth ewyllysgar. Plygodd hithau i lawr i godi'r gyllell. Fel yr oedd hi'n codi i fyny, fodd bynag, gafaelodd y dihiryn bradwrus yn ei ?;wddf, a chan ei wasgu yn ffyrnig, planu ei ysedd yn ei gwegil rhag iddi waeddi allan, tynodd ddagr allan o dan labed ei got, Yrwan, eneth," meddai, yn mha le y mae arian dy feistr ? Y mae yn rhaid i. mi gael y rhai hyny neu dy fywyd; cymer dithau dy ddewis." Erfyniodd hithau arno droi ymaith y bygythiad erchyll; "ond arian dy feistr neu dy fywyd," oedd ei unig atebiad. C, Wel, wel, Rhodri," meddai hithau, yn ymostyngol, yr hyn sydd i fod a raid fod: ond os rhaid i chwi gael yr arian, rhaid i mi fyned ymaith gyda chwi. Fydd yma ddim lie i mi ar ol hyn. Ond gollyngwch eich gafael o ngwddw i,—peidiwch a gwasgu mor ofnadwy-alla i ddim symud,—yr ydych yn fy ngwasgu mor ffyrnig. Heblaw hyny, yr ydych yn colli amser ac os rhaid ei wneyd o gwbl, rhaid ei wneyd ar uawaith, oher- wydd bydd y teulu yma gyda hyn." Llac- iodd yr anfadyn ei afael a gollyngodd hi. Dewch," meddai hi, mewn mynyd !— dim oedi. Y mae yr arian yn ystafell wely fy meistr." Arweiniodd y ffordd i ystafell wely ei meistr, a dangosodd y gist lie yr oedd yr 0 arian yn cael eu cadw. Hwdiwch," meddai hi, gan estyn iddo fwyell, gellwch ei agor & hon mewn mynyd, ac at finnau i'm hystafell fy hun i roi rhyw well gwisg am danaf ac i gymeryd rhywbeth gogyfer a'r ffoedigaeth." CIY Dos, eneth," meddai ef, paid bod yn hir." Aeth ymaith ar y gair. Agorodd ef y gist ar unwaith, a dechreu- gid chwilio i'w chynnwysiad. Tra yr oedd ef yn brysur wrth y gwaith o chwilio'r gist, aeth yr eneth ddewr ar flaenau ei thraed mor ddistawed a llygoden drwy y cyntedd, a chyrhaeddodd ddrws yr ystafell heb yn wybod iddo ef. Gwaith hanner eiliad i'r eneth oedd rhoddi tro yn yr hen agoriad fawr, a'i gloi i mewn yn yr ystafell. Wedi hyny, rhuthrodd yn mlaen drwy ddrws nesaf y felin, a rhoddodd waedd o ddychryn. Rhed am dy fywyd," meddai wrth y bachgen bychan. Rhed at dy dad! Rhed am dy fywyd 1 Dywed wrtho y cawn ein llofruddio bob un ohonom os na ddaw yn ol ar unwaith. Rhed! rhed I" Ufuddhaodd y bachgen bychan ar un- waith, a rhedodd cyn gynted ag y gallai ei goesau bychan ei gario ar hyd y ffordd drwy yr hon y disgwyliai y dychwelUi ei rieni o'r eglwys. Eisteddodd Margaret ar fainc gareg wrth y felin i geisio esmwythau ei chyffro. Clywodd chwiban fain o ffenestr reselog yr ystafell yn mha un yr oedd wedi cloi yr adyn melldigedig. "Robin! Robin," floeddiai allan, "dal y plentyn yna, a thyred yma. Yr ydwyf fi wedi fy nghloi yma. Tyred yma ar unwaith, tyred a'r plentyn yn ol, a lladd yr eneth." Meddyliodd Margared ynddi ei hun mai twyll oedd y waedd hono, ond pan welai y plentyn yn myned trwy le agored yn y maes nesaf-lle yr oedd hen sianel ffos melin, gwelai lofrudd arall yn neidio i fyny, ac yn dal y plentyn yn ei freichiau, ac yn prysuro tua'r felin, yn ol cyfarwyddiadau ei gydymaith. Mewn moment, gwelodd ei pherygl. Ciliodd yn ei hoi i'r felin, rhoes glo dwbl a bollt ar y ddor, ac yna arhosodd a chymerodd ei sefyllfa wrth y ffenestr uchaf. Prin yr oedd wedi cael allan i ddyogelu ei hun oddi- mewn nad oedd yr anfadyn o'r tuallan yn dal y plentyn mewn un llaw a chyllell fawr finiog yn y llall, ac yn dyfod at y drws dan dyngu a rhegu, a chicio y drws yn y modd mwyaf ffyrnig. Y felldith arnat," meddai, "agor y drws, neu mi holltaf ef yn ysgyrion am dy ben." Gwna ynte, os gelli di," meddai'r eneth. Tor wddw'r plentyn yna," meddai'r carcharor, o'r ffenestr gerllaw; "daw hyny & hi i'w phwyll." A wyt ti'n myn'd i agor y drws yma ?" gofynai y dyhiryn oddiallan mi ddarniaf fi y plentyn yma yn ddarnau man a nghyllell, ac mi rof y felin ar dan ar dy ben 1. di." "Mi roddaf finnau fy ymddiried yn Nuw," •meddai'r eneth. "Ni ddaw yr un o dy draed di i mewn yma tra y bydd gen i fywyd i dy rwystro di." Dododd y llofrudd y plentyn i lawr ar y gwelltglas, ac aeth i chwilio am goed tan, ac a ddaeth o hyd i'r unig fynedfa i'r adeilad. Yr oedd yno adwy anferth yn y mur i fyned at yr olwyn fawr a pheirianwaith y felin, ac yr oedd y lle heb gael ei sicrhau o gwbl, gan nad oedd preswylwyr diniwed y lie erioed wedi breuddwydio y byddai i neb geisio mynediad i mewn trwy le mor beryglus. Ond yr oedd y llofrudd yn gobeithio gwneyd ei ffordd i mewn drwy yr agen hon. 0 Ni wyddai yr eneth ddim am hyn. Yr oedd ei meddwl hi yn brysur gyda mil a mwy o fyfyrdodau. Yn sydyn meddyliodd am gynllun. "Y Sabbath yw hi heddyw," meddai wrthi ei hun, Dydi'r felin byth yn myn'd ar y Sul. Beth pe bawn yn ei rhoi i fyn'd yrwan. Gellir ei gweled o bell. A phwy a wyr na fydd i fy meistr neu rai o'r cymydog- ion, wrth weled y felin yn myn'd, frysio yma i weled beth yw y mater. "Dyma feddwl hapus," meddai; "Duw a'i hanfonodd i mi." Ar unwaith dyma hi'n myn'd ac yn rhoi'r peiriant i symud. Cyfodai awel fywiog ar unwaith i lanw hwyliau'r felin. Chwyrnellai breichiau enfawr yr olwyn wynt gyda chyflymdra ofnadwy—ac yr oedd yr olwyn fawr yn troi yn araf ar ei hechel, yr olwynion llai yn troi yn grilliau, ac yn gruddfan wrth gychwyn, a'r holl felin yn myn'd. Ar y fynyd hon yr oedd Robin, yr hur- lofrudd, wedi llwyddo i wthio ei hun i mewn drwy y rhwyg yn y mur, ac wedi cael ei hun yn ddyogel o fewn i'r drum fawr.. Yr oedd ei fraw yn annesgrifiadwy pan welodd ei hun yn dechreu cael ei chwyldroi o gwmpas o fewn i'r olwyn, Yr oedd ei ysgrechfeydd yn ddychrynllyd, a'i rhegfeydd yn arswydus i'w clywed. Prysurodd Margaret i'r lie, a gwelodd ef yn cael ei ddal fel ymlusgiad yn ei fagl ei hun. Ond prin y rhaid i ni grybwyll na rydd- hawyd ef. Gwyddai Margaret fod ei garchaX chwyldroadol yn fwy o fraw nac o niwed iddo. Yn y cyfamser, yr oedd yr olwyn yn troi ac yn troi., a'r gwr ffyrnig o'i mewn yn gorfod troi gyda hi yn ddidor.. Bytheirio melldithion a myn'd o hyd o fewn i'r olwyo ddiflino, nes o'r diwedd y teimlai fod ei synwyr yn myn'd ac anymwybyddiaeth yn disgyn arno, fel na allai na gweled na chlywed, na dim. Yn fuan wedi hyny clywid curo uchel wrth y drws, a phrysurodd Margaret yno. Ei meistr a'r teulu oedd yno, ac amryw gymydogion gyda hwy. Yr oedd peth mor anghyffredin a melio wynt yn chwyrnellu yn ei llawn hwyliau aX daydd Sul wedi tynu sylw pawb, ac yf oeddynt yn prysuro o'r eglwys i gael gwybod yr achos. Mewn ychydig fynydau dywedodd Mar- garet yr holl hanes. Attaliwyd peiriannau y felin ar unwaithi a llusgwyd yr adyn allan o'r olwyn fawr. Dygwyd y llofrudd arall allan o'i gar char.. Rhwymwyd y ddau, ac anfonwyd hwy i'r\ fwrdeisdref gyfagos, a chyn bo hir yr oedd y dienyddwr yn cyflawni ei waith arnynt. Cyn bo hir wedi hyny daeth Margaret yu, I briodferch. Y priodfab oodd mab y meJin-i ydd, yr hwn oedd wedi bod yn ei charu an. i amser maith gyda serch angerddol. J Buont fyw yn ddedwydd gyda'u gilydd a lawer o flynyddoedd, a buoifb feirw mew, oedran teg, gan adael teulu lluosog a llwydd-1 iannus ar eu hoi. I Hyd awr olaf ei hoes byddai Margaret yn synu wrth son am ei pherygl a'i gwaredi aethryfeddol. '1 (