Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

DIRGELWCH DOLGYNFI neu Pwy…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIRGELWCH DOLGYNFI neu Pwy oedd yr Etifedd ? PENNOD XXI. BETH YW HYN? ilk DIWEDD y bennod o'r blaen, gadawsom Pyrs new yd d ddychwelyd gartref lil'in 0 Oaer a cbael fod A nid yn unig ei frawd Harri wedi myned p /rav ymaith na wyddai \J%n JML neb i ba le, ond ei ^<1 h 1%/ fam hefyd wedi k. A diflanu yn rhyfedd beb ddyweyd yr un gair o'i • bwriad wrth undyn byw, JMAh^ heblaw gadael y llythyr r WA pr cyfeiriedig ato ef ar ei fwrdd. Nid rhyfedd fod ei law yn UUW/V crynu pan yn agor y llythyr. Yr oedd arno ofn fod ei fam 7mpV^ wedi gwneyd diwedd ar ei JL/w^^ heinioes, gan ddewis hyny yn f/jfflL hy trach na chymeryd ei phoeni A* yn bwy gan yr belynt rhwng y brodyr ei mheibion; ofnai wedy'n ei bod wedi myn'd i w ™ rywle i fyw o Dolgynfi, ac na ddeuai byth yn ol ar ol blino ar y ffrae ddi- baid rhyngddynt hwy, neu yn hytrach rhwng Harri ag ef. Ond sut bynag, caffai wybod y gwaethaf yn awr wedi agor y llythyr. Darllenodd ef, ac yr oedd fel y canlyn:— At Pyrs Llwyd. Fy anwyl fab, yr oeddwn wedi gobeithio gallu aros yn Nol- gynfi o'r hyn lleiaf nes cael dy weled di a Maggie yn wr ac yn wraig, ac yna myn'd oddiyma am byth, gan nas gallwn feddwl am fyw yn hwy ar drugaredd Harri. Ond mae pethau wedi peri i mi newid fy meddwl, ac yr wyf yn myn'd oddiyma yn awr cyn dy briodas. Yr wyt wedi clywed, mae'n siwr genyf, un ai dy dad neu fi yn dywedyd ryw dro mai yn y grefydd Babaidd y dyawyd fi i fyny, ac mai troi yn Brotestant Ymneillduol wnaethum gyda dy dad. Yr oeddwn yn onest yn hyny, ond nis gellais ymwrthod a phrif ddaliadau crefydd, ac yr oeddwn bob amser yn cwbl gredu ynddynt. Gan hyny, paid a rhyfeddu fy mod yn awr, gan fod pethau wedi myn'd mor ddigysur i mi ar fy aelwyd fy hun a'th gartref dithau, wedi penderfynu myned i fynwes fy hen eglwys fy hun i derfynu fy nyddiau mewn tawelwch yn mhell o gyrhaedd swn a phoen y byd. Yr wyf yn ysgrifenu hwn i ti gael gwybod fy mod wedi ymadael o Dolgynfi am byth a myned i leiandy i dreulio y gweddill o fy oes, lIe nas gall creulondeb na chaledrwydd mab anufudd fy nghyffwrdd, ac o hyn allan, Pyrs anwyl, rhaid i ti ddysgu dy hun i arfer meddwl am dy fam fel wedi marw, oblegyd unwaith yr at i leiandy, byddaf wedi marw i'r byd a'i drafferthion. Allan o gariad atat ti yr wyf yn mynd; paid ymboeni yn fy nghylch. Os byth y bydd i'r byd edliw enw dy fam i ti, cofia ei bod yn fam i ti o hyd, ac ddarfod iddi dy garu a charu dy les hyd y foment olaf. Ac yn awr, fy anwyl blentyn, ffarwel; hwyrach na chei di byth wybod y dydd na'r awr y caiff dy fam ei galw adref o fyd o amser i'r byd tragwyddol, ond os yn bosibl, bydd i mi wylio drostat o fyd yr ysprydoedd gyda chariad mam, a chawn ein dau gydgyfarfod yno ar ddedwyddach glan yn ei amser da Ef uwch pob poen a thrallod." Edrychodd Pyrs ar y llythyr yn hir ar ol gorphen ei ddarllen, fel pe yn methu ei ddeall. Yr oedd pob teimlad fel wedi ei adael; ni wlychwyd ei rudd gan yr un deigryn, ni ddaeth yr un ochenaid o'i fynwes na'r un gruddfaniad i esmwytho ei galon or- lwythog. Nid oedd ei fam erioed wedi dyweyd wrtho ond ychydig iawn o hanes ei bywyd cyn priodi ei dad; gwyddai fod ei dad a hithau wedi dod o hyd i'w gilydd yn rhywle yn Ysgotland, a gwyddaimai Pabyddes'selog oedd ei fam cyn priodi, ond ni ddychmygodd erioed y buasai unrhyw amgylchiadau yn cyfodi i beri iddi droi yn ol at Eglwys Rufain, ac yn enwedig fyned fyw i leiandy. Ond yn awr, wele hyny wedi digwydd, ae yntau wedi colli ei fam, oblegid i bob pwrpas ymarferol, bydd pawb a ymneillduo i leiandy yn farw i'r byd o hyny allan. Cerddodd o'r ystafell allan, o'r ty, gan ddyweya ar ei ffordd allan am i'r gwasanaethyddion beidio disgwyl ei fam yn ol mwyach, ei bod wedi myned oddiyno i fyw. Ni fu ystafelloedd Dolgynfi erioed yn ymddangos mor weigion a digysur iddo ag yr oeddynt yn awr, ac yr oedd yn rhwyr ganddo gael myned ymaith i rywle o'r fangre. Cerddodd ymaith yn gyflym i gyfeiriad ty yr hen weinidog. Nid oedd yn y gymydogaeth bellach neb arall yn malio dim ynddo, neb y gallai efe ymddiried ynddynt, na neb i wrandaw gyda chydym- deimlad ar ei gwyn ond yr oedd yn nhy y gweinidog un galon dyner yn barod i roddi ei chydymdeimlad iddo, a diolchai i Dduw am dani. Yr oedd yr awel yn oer, ond oer- ach fyth oedd calon Pyrs taflai y lleuad ei hadlewyrchiad ar y ddaear, ond yr oedd pobpeth yn dywyll iddo ef y noson hono. Pan gyrhaeddodd dy y gweinidog yr oedd y nos wedi rhedeg yn mhell, ac yr oedd yr hen wr ar ei ffordd i fyny y grisiau a Maggie yn diffodd tan y gegin pan glywsant guro wrth y drws. Pan aeth Maggie i agor gwelai Pyrs yn sefyll yno a'i wyneb mor wyn a'r galchen, ac edrychiad rhyfedd yn ei lygaid, ond yr oedd yn berffaith hunan-feddiannol, a siaradai yn dawel a digryn. Dywedodd beth oedd wedi digwydd, a darllenodd lythyr ei fam. Yna eisteddodd heb ddyweyd yr un gair am enyd. Ychydig iawn ddywedodd Maggie, a theimlai yr hen weinidog hefyd nas gallai amledd geiriau leddfu dim ar ofid Pyrs ar y foment hoao. Pe buasai ei fam wedi marw buasai pethau yn Wahanol, ond beth allasent ddyweyd yn ngwyneb amgylchiad fel hwn ? Yr oedd yr hen wraig er yn fyw eto yn farw. O'r diwedd, dywedodd Pyrs wrth Mr Hopcyn bobpeth oedd wedi ddyweyd yn gynnarach ar y nos wrth Maggie yn nghylch ei fwriad i fyned ymaith i Canada yn ddioed wedi'r briodas, ac y mae'r rhwymyn olaf oedd yn fy nal i wrth Dolgynfi wedi ei dori yn awr," meddai, er fy mod wedi bwriadu gwneyd fy ngoreu i berswadio fy mam i ddod gyda Maggie a finnau dros y dwfr, ond yr oedd arnaf ofn o hyd na ddeuai hi ddim. Yr oeddwn wedi prynu tocyn iddi i'r ager- long, ond dyma hi wedi myn'd o'n gafael am byth yn awr. Buasai yn un cysur i mi pe buasai mam wedi dyweyd wrthyf yn ei llythyr yn mha le y mae y lleiandy y bwriadai fyned iddo i dreulio y gweddill o'i hoes ond, fel yr ydych wedi clywed, nid yw wedi dyweyd dim am hyny." Yr oedd yr hen wr wedi ei gyffroi yn fawr, ond un o'r dynion diniweitiaf yn y byd oedd ef, ac nid oedd dim o'r elfen hunangar yn ei galon; felly, derbyniodd y newydd am ym- adawiad agoshaol Maggie gyda thawelwch, a'r cwbl ddywedodd mewn atebiad oedd, Bendith Duw fo gyda chwi, fy mhlant, lie bynag yr, eloch." Rhoddodd Maggie ei breichiau am wddf yr hen wr, a chusanodd ei wyneb rhychlyd oedd yn awr yn llaith gan y dagraudreiglent hyd-ddo wrth glywed fod ei anwyl Maggie i'w adael yn unig cyn pen yr wythnos i fyned dros y cefnfor filoedd o filldiroedd oddiwrtho. Bendith Duw fo gyda chwi" oedd y cwbl ddywedodd, er fod ei hen galon garedig a thyner yn gwaedu. Cododd Pyrs i fyned ymaith, ac aeth Maggie gydag ef i'r drws. "Yr ydych yn garedig iawn yn gadael pobpeth i'ch brawd," meddai wrtho. Wnawn ni ddim siarad am hyny yn awr," ebai yntau. Onid oes rhywbeth rhyngoch eich dau V gofynodd yr eneth. "Cewch wybod y cwbl rywbryd eto, fy ngeneth i," atebai Pyrs. Daeth bygythiad rhyfedd Harri i feddwl Maggie y foment hono, a phetrusai pa un a. ddylai ddyweyd am hyny wrth Pyrs ai peidio. Yr oedd ar fedr dyweyd y cwbl wrtho, ond cofiodd fod ganddo ddigon o bethau ar ei feddwl i'w boeni eisoes, ac ym- attaliodd. Teimlai mai creulondeb fyddai iddi son am y peth wrtho yr adeg hono, Felly gadawodd iddo fyned adref heb ddyweyd dim wrtho yn nghylch bygythiad Harri i'w gwahanu ar ol eu priodas. PENNOD XXII. Y NOS 0 FLAEN Y BRIODAS. Dydd Mawrth, y diwrnod o flaen priodas Pyrs a Maggie, yr oedd holl dafodau chwedleugar Cwm Caledffrwd yn myned full speed o foreu hyd nos, ac nid oedd gan- ddynt ond dau destyn i'w hymddyddanion- y briodas agoshaol, ac, wrth gwrs, y streic oedd i ddechreu y diwrnod dilynol. Oni bae am yr helynt gweithfaol, buasai y briodas ynddi ei hun yn llawn ddigon o destyn ganddynt, ond yr oedd y digwyddiad arall gan ei fod yn dod fel hyn ar drawsi pobpeth, a chan fod a wnelo hwnw a bara a cbaws pawb o breswylwyr Cwm Caledffrwd, heblaw llawer cwm arall-yn taflu pob testyn llai i'r cysgodion. Ag eithrio ambell ymgom fer yn nghylch y briodas a helyntion rhyfedd teulu Dolgynfi, nid oedd dim i'w glywed ar hyd y Cwm ond son am y streic, na dim yn cael ei drafod yno ond beth wnai y chwarelwyr y boreu dilynol pan gynnygid iddynt un ai eu bargeinion neu eu hundeb- oblegid yr oedd yn berffaith wybyddus erbyn hyn mai dyna y cwestiwn syml roddid