Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y TY A'R TEULU

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TY A'R TEULU I f .I,, LLUNDAIN, Medi 10, 1893. NWYL GYFNITHER, Yr oedd yn dda genym glywed oddiwrthych, a chael tipyn o hanes yr hen wlad. "Feldyfroedd oerion i'r enaid sychedig," meddai'r gwr doeth, yw newyddion da o wlad bell." Y Mae Peris a minnau yn deheu am ddyfodiad yr Herald Cymraeg a phapyrau ereill bob wythnos er mwyn cael gweled beth sy'n myn'd yn mlaen yn Nghymru, ac yn enwedig yn y pentref bach a chwmwd Bodhyfryd. Byddaf yn rhyfeddu at Gymraesau y ddinas yma sydd heb deimlo dyddordeb yn hanes eu hen gym'dogaeth. Y mae yma gymydoges o Gymraes yn agos i mi yma, yr hon, pan ofynir iddi, A glywsoch chwi yr hanes o'r fan a'r fan yn Nghymru ?" Na chlywais i, does gin i ddim amser i ddarllen y papyrau a phethau felly, yr wyf yn rhy brysur," fydd ei hateb parod bob amser. Byddaf yn meddwl fod rhai gwragedd yn ystyried mai rhinwedd ynddynt ydyw ymddangos yn brysur bob amser er mwyn ceisio osgoi y cymeriad gwrthgyferbyniol. "Dim amser i fyn'd allan am awyr iach, boreu, prydnawn, a nos yn brysur,—rhy brysur i edrych nac i feddwl am ddim, ac os caf gipolwg ar lyfr, ar ambell brydnawn Sul y bydd hyny, a byddaf mor flinderus nes y byddaf yn myn'd i gysgu uwch ei ben." Dyna glywir yn fynych gan y wraig drafferthus; ac os bydd i ni edrych yn amheus, gan ryfeddu o ba le y gallai yr holl drafferth fod wedi tarddu, dywed:— Ha, wyddoch chi ddim byd am dani hi. Y mae genych chwi forwyn dda i neyd y gwaith, a minnau heb yr un ac yn llawn trafferth. Y mae yn ddigon hawdd dyweyd y dylech wneyd hyn neu'r peth arall, ond o ba le y mae yr amser i ddyfod ? Rhaid i rywun wneyd dilladau a'u trwsio, ac y mae llawer o waith glanbau mewn ty fel hwn, onide chwi fyddai y gyntaf oil i draddodi darlith ar lanweithdra." Gwyddwn am amryw wragedd deallus mewn pethau cyffredin, ac yn berffaith an- wybodus o'r hyn sydd yn myned yn mlaen o'r tuallan i'w cylch eu hunain oherwydd eu bod bob amser yn rhy brysur." Y fath gamgymeriad Pa sawl cartref a dywyllir ac a yspeilir o'i dawelwch melus gan y geiriau rhy brysur I" Y mae y swn fIwdanus sydd yn y geiriau wedi yspeilio llawer gwraig ieuanc o'r swynion personol a berthynent iddi cyn priodi, ac yn yspeilio y rhai sydd yn byw o dan yr un gronglwyd a hi o'r gymdeithas felus hono a ddylasent gael ynddi hi, ac yn dwyn y fam ei hunan yn ami i fedd anamserol. Cyfaddefa pawb fod rhyw gamgymeriad yn rhywle, ond pa fodd i ddwyn pethau i drefn ? dyna'r cwestiwn. Y mae yn haws dweyd fod y byd a'i wyneb yn isaf, na'i droi i'w le. Pa le mae'r gan sydd yn elfen mor cffeithiol—mor fendithiol fel moddion i sirioli yr aelwyd, a gloewi y gymdeithas, a gwneyd i lawer aelwyd fod fel nefoedd ar y ddaear ? 0, rhy brysur, dim amser i ganu yma, gormod o waith golchi a smwddio'r dillad yma, gwnio, trwsio, a glanhau, a mil o bethau na wyr neb am danynt ond y sawl sy'n gorfod eu gwneyd." Tra y rhaid i ni gydnabod fod dyled- swyddau y deuluyddes yn lluosog, yr ydym yn gorfod dweyd fod llawer un yn ym- drafferthu foreu a hwyr, tra y mae ereill, gyda mwy o waith, yn gorphen yn gynar yn y prydnawn. Y dirgelwch ydyw, diffyg trefn. Gwneir y negesau o un i un, y naill ar ol y Hall ac ar adegau anghyfleus. Wrth wneyd negesau y teulu, mor ami y gellid lladd dau dderyn ar un ergyd." Ac wrth godi yn brydlon yn y boreu, byddai yn haws trefnu oriau y dydd, fel y bydd y cadfridog yn trefnu maes y frwydr; felly, ni raid treulio amser yn ofer. Heblaw hyny, y mae llawer o bethau hollol afreidiol yn cael eu gwneyd mewn llawer teulu. Paham y rhaid smwddio dillad fydd wedi bod yn y mangle ? Paham y rhaid i ddillad haf, yn ffedogau ac yn goleri, gael eu gwneyd mor llafurfawr nes y mae yn rhaid wrth oriau o amser i'w smwddio ? Nid ydyw gwir brydferthwch mewn ffurf nac arddull yn gofyn am dano. Ffasiwn yn unig sydd yn galw am dano. Paham y rhaid gwastraffu cymaint o amser mewn cy- frodeddu plethwaith diderfyn i fyny ac i lawr i odreuon y wisg ? Paham y rhaid prynu gwisgoedd sydd yn gofyn am y fath drafferth ddiddiwedd i'w cadw yn lan ? Gwell ydyw taflu o'r neilldu am byth yr holl bethau llafurfawr ac afreidiol mewn bwydydd a dilladau na disgwyl i'r deulu- yddess fod yn beiriant llafurus dros nos a dydd. Pan fydd pob gorchwyl yn cael ei wneyd yn ei amser mewn trefn, bydd gan wraig y ty awr a hanner neu ddwy awr iddi ei hun bob dydd i gasglu nerth i fyned yn mlaen. Ac fel y bydd y peiriant yn myned yn well wedi rhoddi olew ar ei echelau, felly ninnau wedi awr o'r seibiant sydd yn ddyledus i ni a wnawn y gwaith dan ganu. Gyda chofion caredig atoch oil yn Glan Banon. Eich ffyddlon gyfnither BRONWEN.

[No title]