Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

PA FODD I OSGOl CLEFYD Y MOR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PA FODD I OSGOl CLEFYD Y MOR YN myd y darganfyddiadau y mae Dante McWermod yn byw; a'r cynllun i osgoi clefyd y m6r sydd wedi cael mwyaf o'i sylw yn ddiweddar. Ac er mwyn rhoddi prawf personol ar ei gynllnn newydd, sef cysgu ar hyd y fordaith, aeth ar fwrdd agerlong oedd ar gychwyn o Gaergybi i Dublin. Erbyn iddo gyrhaedd yr agerlong yr oedd yn saith o'r gloch yn y prydnawn. Wedi datgan ei obeithion o lwyddiant y cynllun i'r capton, dymunodd noswaith dda i bawb, ac aeth i'w wely, ac yn mhen ychydig fynydau yr oedd yn cysgu yn drwm. Cysgodd yn dawel nes oedd hi yn saith o'r gloch y boreu, heb ddim arwyddion o'r saldra i aflonyddu ar ei heddwch. Cyfododd i fyny fel cawr i redeg gyrfa, ac yr oedd gwen foddhaus yn chwareu ar ei wyneb am fod y cynllun wedi troi allan mor llwyddiannus. Y fath fendith a fyddai y darganfyddiad i'r rhai oedd yn ofni anturio i fordaith rhag ofn clefyd y mor. 0 hyny allan yr oedd cyfnod newydd ar wawrio, ac yr oedd yn bryderus am gael datguddio'r gyfrinach i gapteniaid y North Wall. Wedi boreufwyd, aeth ar y bwrdd, a chwarddodd ar y capten, a dywedodd wrtho fod ei gynllun wedi troi allan yn llwyddiant perffaith. Theimlais i ddim oddiwrth y fordaith," meddai, "ond cysgais yn dawel drwy'r nos." Gwenodd y capten Paham yr ydych yn gwenu ?" meddai yntau. Oherwydd," meddai'r capten, yr oeddym yn rhwym wrth y doc drwy'r nos, heb symud troedfedd. Yr oedd rhywbeth y mater ar y peiriannau, a gorfu arnom aros- glwyddo' y teithwyr i gyd i long arall, a chan nad oedd neb yn disgwyl i ddyn fyned i'w wely mor gynnar, ni feddyliodd neb am danoch chwi. Y mae y teithwyr ereill ar ben eu taith er's oriau meithion bellach."

BRENHIN ADAR Y TO

WIL BOL HAUL

Advertising