Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

EIN CYSTADLEUON

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"Mi glywsoch, mae'n debyg gen i, fod Miss Philpot wedi cynnrychioli liygad y ffynnon yn anrhydeddus yn y ddawns y noson o'r blaen yr oeddwn i yn mcddwl fod y cymeriad hwnw yn briodol iawn iddi." Beth barodd i chwi feddwl hyny?" Wel, merch i laethwr ydyw." CERIDWEN Oh, sylwch mor fawreddog y ttiae'r mor heddyw Rhyfedd ac ofnadwy, onide? Mi fyddaf i'n hoffi clywed y tonau yn rhuo. Y GWDDFWCH Felly fkmau, Ceri, Peid. tWch gwneyd twrw t Dyma godiad eto yn y farchnad esgidiau," meddai'r dyn ieuanc, pan welodd droed yr hen wr yn dyrchafu am yr ail gic, pan oedd y cyntaf wedi ei hebrwng dros risiau'r drws. Gofynodd boneddiges i forwr beth oedd yr achos ei fod yn galw ei long yn hi ? O," meddai mab Nefydd Naf Neifion, yn ddigon plaen a diseremoni, "oheiwydd fod ei rigging hi yli costio cymaint." mm YMWELYDD: Beth sydd yn dyfod o Mrs Jones ? Welais i ddim tebyg iddi er amser ciniaw ac y mae hi yrwan yn dri o'r gloch. MR JONES 0, y mae hi i fynu'r grisiau'r yna yn ceisio dod o hyd i rywbeth oedd hi wedi ei gadw mor ofalus fel y gallai ddod o hyd iddo pan fyddai angen am dano. 'Q@1WtW Yr amser y mae dyn yn dod i ddeall am y tro cyntaf leied a wyr am faterion teuluaidd ydyw pan y mae ei wraig yn gofyn iddo gadw'i lygaid ar y baban, a gwel'd nafyddo'r llaeth sydd yn y sospan yn berwi drosodd tra y bydd hi yn myn'd am dro i wel'd ei mam. Ar amser adeiladu capel newydd Bethel bu yno gryn anhawsder cin gael cerig adeiladu. Gosodwyd y gorchwyl o chwilio am y meini ar Shon Ifan, blaenor yn yr eglwys. Ar ddiwedd cwrdd gweddi yn Bethel, un noson, rhoddodi Shon yr emyn canlynol allan i'w ganu (cofier nad oedd Shon fawr o ddarllenwr, ac mai o'r cof y byddai yn arfer eu rhoi allan) :— Am gerig adeiladu, 0, f'enaid chwilia'n ddwys." Ni wnaed un sylw o gamgymeriad Shon, ond canwyd hwy ar y geiriau arferol, gan y gwyddid fod achos y cerig yn pwyso'n drwm ar ei feddwi. GEMYDD Wel, sut yr ydach chi'n leicio'r awrlais a'r gloch alarwm ? CWSMER: Rhagorol iawn, odidogedig- aethusadwy las, yrwan. GEMYDD Paham felly? 'Doeddach chi ddim yn ei leicio fo ar y dechra ? CWSMER: Nac oeddwn yr amser hono; ond y mae o wedi tori yrwan. 1* Dywedir fod rhywun wedi dyfeisio math o rwymyn hardd iawn ffasiwn newydd i dynhau y wisg am wasg y boneddigesau. Ond y mae yn amheus iawn genym a ydyw yn rhagori ar y rhwymyn hen ffasiwn hwnw sydd ag ysgwydd yn un pen iddo a garddwrn yn y pen arall. \W'CWlZ%' MABEL Oes dim ofn Snap arno chi ? F'EWYTHR JOHN Na, chai o ddim llawer o gig arnaf i. II MABEL: Ond esgyrn y mae o'n leicio oreu.