Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

AT EIN COHEBWYR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT EIN COHEBWYR RHEILFFORDD I BEN Y WYDDFA!—Na, na, gadawer y Wyddfa fel y mae, i fod yn dasg deilwng i'r rhai sy'n ddigon gwrol i'w dringo. Bernir fod y rheilffyrdd eisoes wedi gwneyd llawer niwed yn y cyfeiriad hwn. Y mae cerdded yn ymarferiad fendithiol, ac yn orchwyl hyfryd i'r cyhyrau. Gadawer i'r Wyddfa ddarllen ei phennod ddyddorol ei hun hyd bellderoedd eithaf rhedweliau mor- ddwydydd y rhai a sychedant am ei golyg- feydd rhamantus a'i hawyr adfywiol. Beth a ddaw o gymalau yr oes nesaf, y mae yn anhawdd gwybod; end fe fydd i esgeuluso ymarferiad iachus yn sicr o wneyd y genedl yn wanach a'r oes yn fyrach. Tra y mae y llafurwr yn cael digonedd, a gormod yn ami, o ymarfer corphorol, y mae y dosparth proffeswrol ac eisteddol yn cael llawer rhy facli i allu dadblygu eu nerth corphorol, a'r canlyniad naturiol o hyny ydyw diffrwythder, marweidd-dra, syrthni, a chysgadrwydd afiach. Y mae yn effeithio ar gylchrediad y gwaed, ac yn arwain i eiddilwch a gwendid. Dylai pob dyn ag y mae ei alwedigaeth yn galw arno arwain bywyd eisteddol wneyd pob ymdrech a phenderfyniad i fynu yr ym- arferiad hwnw ag y mae ei iechyd corphorol yn galw am dano. Byddai yn well i yspryd yr oes wneyd rheilffordd i'r lleuad o lawer nag i ben y Wyddfa, ac efallai y byddai yn llawn cyn hawdded ei gwneyd. CERDDOR CYMREIG.—Yr oedd y crwth yn nesaf mewn gradd i'r delyn Gymreig. Yr oedd iddo chwech o dannau, sef-y cras- dant, ei fyrdon, byrdon y llofr-dant, y llofr- dant, y cywair-dant, a'i fyrdon. Yr oedd yn meddu mwy o gwmpas na'r violin, a def- nyddid ef yn fynych fel math o gyfeiliant tenoraidd i'r delyn. Cyffyrddid a'i dannau yn fynych gyda'r fawd, a gwasanaethai y nodau hyny hefyd fel cyfeiliant i'r alaw a gyffyrddid a'r bwa. Yr oedd gan y Cymry hefyd grwth tri-thant, yr hwn oedd yn gwas- anaethu fel eu hen bass-viol; ond nid oedd chwareuwyr yr offeryn hwn yn cael eu hystyried mor deilwng fel cerddorion a chwareuwyr y crwth chwe'.thant a'r delyn, oherwydd nad oedd yn gofyn cymaint o fedr i'w chwareu. Yr offerynau ereill oeddynt y pibgorn, ac a elwid felly am fod ei ddau ben wedi eu gwneyd o gorn. Yr oedd yn nod- edig am felusder ei beroriaeth, rhywbeth rhwng y chwibanogl a'r clarinet. Yr oedd bugeiliaid ynys Mon yn arfer ei chwareu wrth fugeilio defaid er mwyn difyru oriau diniwed bywyd bugeiliol. Yn nesaf ato y daw y tabwrdd, yr hwn a arferid i gyfeilio offerynau ereill yn amser rhyfel neu wyliau cyhoeddus a chyngherddau. Yr offeryn arall oedd y corn buelin (bugle horn) a, gelwid ef weithiau yn gorn hirlas, corn cyweithas, neu gorn y teulu, a chorn y cychwyn, neu orymdeithiol. Gwneid ef o gorn y bual gwyllt, anifail cyffredin yn Nghymru yn yr hen amser. Arferid yr offeryn hwn hefyd fel alarwm i gyhoeddi rhyfel, yn gystal ag i galonogi y cwn yn yr helfa. Y mae GRUFFYDD Jos wedi cael allan mai lleidr y gelwir yr hwn a ladratao gyw iar neu rywbeth felly; ond os bydd i ddyn ladrata talaeth gelwir ef yn llywodraethwr. Y mae yn dyweyd yn mhellach fod yn haws cael mil o filwyr nag un cadflaenor. ZABULON DAFYDD.—Dywedir mai y fferm fwyaf yn Lloegr ydyw yr hon a rentir gan Mr Joseph William Ward, Withcall, ger Louth, swydd Lincoln. Y mae yn cynnwys dwy fil a thri ugain a chwech o aceri o dir ar, pedwar cant a deg ar hugain o aceri o dir porfa, tua thri ugain acer o blanhigfeydd, ac yn gwneyd y cyfanrif o aceri yn ddwy fit pum' cant a phymtheg a deugain. Y mae pymtheg ar hugain o fwthynod ar y fferm, a gardd yn perthyn i bob un ohonynt, a'r gweithwyr ar y fferm sydd yn byw ynddynt. Y mae'r da byw ar y fferm yn cynnwys tair mil o ddefaid, tri chant a deg ar hugain o anifeiliaid corniog; dros bedwar ugain o geffylau, a dau gant o foch. CWMDWYTHWCH.—Byddai yn werth i chwi gofio hefyd fod y fasnach mewn wyau rhwng Canada a'r wlad hon wedi cynnyddu yn fawr. Yn ystod y flwyddyn 1890, ni ddaeth ond tair mil a chwe' chant o ddwsinau o wyau i'r wlad hon oddiyno. Y flwyddyn ddiweddaf cyrhaeddodd dros bedair miliwn o ddwsinau ohonynt ein marchnadoedd nit Y mae y farchnad mewn caws hefyd wedi cynnyddu tua dwy filiwn ar hugain o bwysau; a'r ymenyn dros bedair miliwn o bwysau. UN HOFF o DDARLLEN.—Y mwyaf o'r holl fwlturiaid a ddarganfyddwyd hyd yn hyn ydyw Condor yr Andes. Y mae yn mesur dros bymtheg troedfedd o flaen un aden i'r llall. Pan y byddo yn ehedeg yn agos i'r ddaear, gall gario plentyn deg oed gydag ef i'w nyth ac nid ydyw yn beth anghyffredin eu gweled yn ymosod ar fuwch, ac yn ei difa gyda'r rhwyddineb mwyaf. NEDI JONEs.-Oes, y mae rhai o hen ddy- lebau y ddeunawfed ganrif eto ar gael. Dyma un o'r rhai rhyfeddaf a welsom ni. Y mae y copi gwreiddiol yn cael ei gadw yn ofalus yn Chapter Room Eglwys Gadeiriol Winchester: Scriwio trwyn y diafol a rhoi corn s. d. ar ei ben o 3 6 Eto, gliwiocryn lawer o'igynffono 2 3 & 9

Advertising