Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y PARCH D. OLIVER EDWARDS,…

R. 0. HUGHES (ELFYN),

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

R. 0. HUGHES (ELFYN), WELE ddarlun o fardd athrylithgar a lienor Cymreig pur adnabyddus. Brodor yw o Lanrwst. Yr oedd ei dad yn fab i'r diweddar Barch Robert Hughes (T.C.), Conwy, a llanwai amryw swyddau cyhoeddus. Der- byniodd Elfyn ei addysg yn Ysgol Frytan- aidd Llanrwst. Bu farw ei dad yn 1873, a'i fam yn 1890. Gwasanaethodd Mr R. O. Hughes ei brentisiaeth yn ariandy y Mri Pugh, Jones & Co. Bu yno chwe' blynedd. Bu yn meddwl myn'd i bregethu, ond daeth rhyw rwystr ar ei ffordd, ac aeth i wasan- aeth y Mri Kirby ac Endean, cyhoeddwyr, Llundain. Yn 1883, priododd Elizabeth, merch y diweddar Mr Joseph Roberts trafaeliwr dros y Mri Hughes a'i Fab- Gwrecsam. Yn 1885, yr oedd mewn cysyllt- iad a'r Givalia, fel is-olygydd, hyd 1888, pryd y symudodd i Flaenau Ffestiniog i olygu y Rhedegydd. Yn ddiweddar, ym- ddiswyddodd, a phenodwyd ef yn geidwad y llyfrfa gyhoeddus. Yn mhlith ei gyfansodd- iadau buddugol ceir y rhai canlynol:- Rhiangerdd (Eisteddfod Gadeiriol Llan- rwst, 1878); Cadair y Llechwedd, 1880, am bryddest; Cadair Eisteddfod Powys, 1885, am awdl ar Drugaredd; Cadair Eistedd- 1 -01 fod Meirion, 1886, am awdl ar "Brydferth- ion Natur; Cadair Llangefni, 1888, am bryddest ar 'Foddlonrwydd;" Cadair y Llechwedd, 1889, am awdl ar Gyfarfydd- iad Owain Glyndwr a Syr Lawrence Berk- rolles;" Eisteddfod Genedlaethol Aber. honddu, 1889, am gywydd ar "Laniad y Ffrancod yn Abergwaen; Cadair y Gor. dofigion, West Kirkby, 1890, am awdl ar y Goleudy Eisteddfod Genedlaethol Ban. gor, 1890, am gywydd ar yr "Anffyddiwr." serosa

[No title]