Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

DEDDFAU ANHYSBYS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DEDDFAU ANHYSBYS DYRY Mr Lecky, yr hanesydd, yr esiamplau canlynol o'r deddfau anhysbys rhyfedd a fodolaat. Yn 1761, cawn i foneddiges yn Westminster gael ei phrofi er mwyn cael ganddi dalu 20p, o dan gyfraith Elizabeth, am nad oedd wedi rhoddi ei phresennoldeb mewn unrhyw le o addoliad awdurdodedig am fis yn flaenorol, ond rhyddhawyd hi gan y rheithwyr oherwydd gwaeledd ei hiechyd. Yn 1772, dirwywyd ficer i lOp, a'i gurad i 5p, am nad oeddynt wedi darllen yn yr eglwys hen gyfraith yn erbyn tyngu a rhegi. Ymddengys fod y ficer wedi troi y curad ymaith, a darfu i feibion yr olaf, ar ol dar- ganfod fod cyfraith o'r fath yn bodoli, ddod a'r mater gerbron er mwyn dial ar y ficer, ond ni feddylient eu bod hefyd yn dwyn eu tad i helbul. Yn 1814, y gwnaed i ffwrdd a'r ddeddf oedd yn bod er amser Siarl yr II., yn gofyn fod y marw yn cael ei gladdu mewn gwlanen, ac yn dirwyo y clerigwr 5p, os na wnai hysbysu y wardeniaid os gwyddai am rywun na chydymffurfiai a'r gyfraith.

GWRTHBWYSO HACRWCH

CHWAREU'R CRWTH I DDOFI BLEIDDIAIP

TENNYSON A'R YSGADAN

[No title]

Advertising