Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

PEIRIANT ARGRAPHU YR "HERALD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PEIRIANT ARGRAPHU YR "HERALD CYMRAEG" hanes gwareiddiad, dichon nad oes pb @| yr un ddyfais wedi bod o gymaint ISiLSiyl 0 ies i'r byd a'r argraphwasg. Dywedai un o arwyr aunibyniaeth America Gwell genyf fuasai byw mewn gwlad yn meddu newyddiaduron heb lywodraeth nag mewn un yn meddu llywodraeth heb newyddiaduron." Mae cywir hanes am ddyfeisiad y wasg cl wedi ymgolli yn y niwl. Priodolir y ddyfais yn gyffredin i Johann Gutenberg, o Mainz, yn 0 feydd argraphu gan bawb a garant y tywyH- wch. Gwnaed eyfraith unwaith i attal chwaneg nag ugain o argraphwyr i gario yn mlaen eu gwaith yn Mhrydain. Araf iawn y bu'r wasg yn teithio i Gymru. Mae'n debyg mai yn Modedern, pentref bychan yn Mon, y gosodwyd y wasg gyntaf i fyny yn Nghymru. Yno yr argraphwyd Agoriadau Datguddiad gan Thomas Williams, o Daly- bont, yn 1760. Cyn hyny, argrephid llyfrau Cymraeg yn Lloegr; ac yn enwedig yn Yn 1812, dyfeisiwyd gan Koenig beiriant yn yr hwn y symudid y llythyrenau yn ol ac yn mlaen o dan rolyn haiarn, ar wyneb yr hwn y mae darn o frethyn a dodir y ddalen rhwng y rholyn a'r llythyrenau, y rhai a gant yn gyntaf eu gordduo ag inc. Yn 1855, dyfeisiwyd y Wharfedale Machine," darlun o'r hon a welir isod. A'r peiriant hwn yr argrephir yr Herald Cymraeg, a'r nifer lluosocaf, hwyrach, o bapurau wyth- nosol o'r cyffelyb faintioli. Gall hwn Germani. I Johann Faust, ei gefnogydd; a Peter Scheffer, ei was, y mae llawer o glod hefyd yn ddyledus. Tua 1437 y gwnaed y darganfyddiad. Yn 1474, gosododd William Caxton ei wasg i fyny yn Abbaty West- minster. Par araf y gwnaed gwelliantau pwysig. Yn wir, hyd y ganrif bresennol, arhosodd y ddyfais heb ymddadblygu. Gosodai llywodraethau gormesol Ewrop hualau trymion ar goesau argraphwyr—ao hyd heddyw edryehir yn gilwgus ar swydd- Llundain, Caer, yr Amwythig, a Bryste. Yn 1622 yr argraphwyd y newyddiadur cyntaf yli y wlad hon, sef Certain News of the Present Week. Yn 1785 y cychwynwyd Times Llundain. Parheir i ddefnyddio y "wasg" hen ffasiwn i argraphu niferi bychan o lyfrau, ac hefyd pan y bydd cywreinrwydd a phrydferthwch arbenig yn ofynol. Ond mewn amgylch- iadau cyffredin, defnyddir peiriannau yn cael eu gyru gan ager neu nwy. argraphu tua 2000 o gopiau yr awr. Yn 1865, dyfeisiwyd peiriannau cyflym iawn at wasanaeth paparau dyddiol. Gellir ag un o'r mathau diweddaraf o'r peiriannau hyn argraphu un lien barhaol, tua phum' milldir o hyd. Gwlychir y lien yn gyntaf, tynir hi oddiar rolyn i'r peiriant, a throir hi allan wedi ei hargraphu ar y ddwy ochr, ei thori yn bapurau o'r un hyd, wedi eu plygu dair neu bedair gwaith, a'u rhifo yn ddwsinau, yn ol cyflymder o 8,000 o bapurau yr awr.