Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

HUNANCOFIANT HOGYN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr hyn fu llawer ohonom. PENNOD XXVII. GORMOD 0 GLOD, OND DIM BACO WRACH nad ydach chi ddim yn cofio diwadd y bennod ddweutha o fy hanas i — nid y bennod ddweutha un o'r holl gwbwl ydw i'n feddwl, er nad ydi hono ddim yn bell, achos fedra i ddim dal i ddeud f'hanas o hyd drw mod i yn myn'd i wth o oudran 'rwan 'rydw i yn tynu tia'r un ar ddeg yma bellach, yn reit siwr. Deg oed o'n i pan ddechris ar fy stori os ydach chi'n cofio, ond el 'rydach chi'n gwbod, 'rydw i wedi bod drw gymint o erledigeutha, llongddrylliada, a marwol- eutha er yr amsar hono fel y mae nhw i gyd efo'u gilydd wedi gadel eu marc arna i, a wedi fy ngneud i yn hen cin f'amsar. Fedra i ddim para i fod yn ddeg oed o hyd am byth, wyddoch. Mae hen ferchaid yn medru aros yn yr un oed o hyd, rwsut ne gilydd. 'Rol iddyn nhw basio deg ar hugien, a heb hudo neb i'w priodi, mae nhw yn medru sticio wrth y deg ar higien yna am byth- wed'yn—tydyn nhw byth yn myn'd yn ddim hynach. Ond 'rydw i yn fwy gonast na hen ferchaid, a hen lancia hefyd ran hyny; 'rydw i'n barod i gyfadde mod i yn myn'd yn hen, a felly rhaid i mi roid fy lie i rei 'fengach i gadw gogoniant y genedl i fyny. Mae un peth neillduol arbenigol (geiria'r stiwdants ydi 'rheina, wn i ddim bedi hystyr nhw yn iawn, 'blaw bod nhw yn eiria mawr ac yn edrach yn grand wedi 'sgrifenu nhw) -ond mae un peth sy'n f'adgofio fi'n fwy na dim mod i yn myn'd yn hen. Peth difrifol ydi myn'd yn hen peth difrifol ydi gwel'd i'r hen bobol fuo yn dwyn pwys a gwres y dydd yn ymladd brwydrau c'ledion dros eu hiawnderau, yn diodda o achos hyny, ac yn myn'd yn mlaen i fatlio brwydr ar ol brwydr —peth difrifol ydi gwel'd rheini yn myn'd yn rhy hen, yn gorfod cilio o'r ffrynt, a rhei 'fengach na nhw yn dwad yn mlaen i hawlio'r holl glod am y cwbwl iddyn nhw eu hunen a nhwtha heb neyd dim 'blaw cil- gwthio'r hen bobol odd'ar y ffordd. Ond mae pawb sy'n myn'd i oed yn dallt hyny oddiwrth arwyddion. Ddaw henaint ddim ei hunan, ebra modryb-mae rhw arwyddion yn dwad o'i flaen o i adgofio'r bobol eu bod nhw n myn'd i oed, ac y dyla nhw bellach ddechra meddwl am rwbeth 'blaw politics a streics a'r ffreuo tragwyddol efo'u gilydd. Felly fina. 'Rydw i wedi cael f'adgofio miawn dull pur d'rawiadol mod i yn myn'd yn hynach na hogyn deg oed; a dyna be sy wedi dwad a'r ffaith bwysig yna adra at fy nghalon i ydi'r ffaith mod i wedi dysgu cnoi baco. Mi sylweddolis yn sydyn 'rhw dd'wrnod mod i yn gamstar ar y job hono 'rwan, ac mi arweiniodd hyny fi i feddwl lot o betha difrifol erill. Mae drychfeddylia barddonol fel'na yn arwain rhwun rwsut i'r felancoli, a wedi bod yn pendroni efo'r ffaith am dipyn mi ddois i'r penderfyniad unfrydol mod i yn myn'd yn hen, achos 'toes 'run hogyn byth yn dysgu cnoi baco nes y bo fo wedi dysgu smocio, ac, wrth gwrs, mae'r ganghen hono o wybodaeth yn cym'ryd cryn dipyn o'i amsar ar y dechra. Felly pan welwch chi hogyn wedi dysgu cnoi yn reit dda, ac yn medru poeri yn syth at y nod heb slapdashio sig baco am ben pobpeth fydd yn digwydd bod yn yr un plwy a fo, gellwch fod yn sicir fod yr hogyn hwnw yn hynach nag y buo fo. Felly, mae'r ffaith fod y llongwrs yn rhoid gair o ganmoliaeth uchel i mi am fy medrusrwydd fel cnowr baco a'r dalent ddiamheuol 'rydw i'n arddangos wrth boeri yn profi i mi tuhwnt i amheuaeth mod i yn decbra myn'd yn hen-miawn gair, mod i dest a bod yn llanc ifanc yn lie yn hogyn deg oed o hyd. Ond 'rwan, wedi'r rhagymadrodd mawr yma, mae'n rhaid i mi ofyn i chi beidio meddwl mod i yn myn'd i stopio deud fy hanas ar unweth. Dim perig!! Achos o hyn i't diwadd y mae'r petha mwya dychrynllyd o'r cwbwl i gyd yn myn'd i gael eu deud. Rhaid i chi ddodi cwyr crydd am ben eich gwalltia o hyn nes bydda i wedi gorffan, ne mi fydd y'ch gwalltia chi'n sefyll i fyny yn syth fel blew gafr ar drana, a mi f'asech yn myn'd yn wallgo ulw gin ofn onibai eich bod chi'n gwbod mai fi ydw i. 'Rwan, ynta, i ail ddechra'r bennod yma yn y dechra, miawn dull respectabl. Os ydach chi'n cofio, y peth dweutha ddeudis wrthach chi yr wsnos ddweutha oedd fod Bob a fina wedi bod yn planio efo'n gilydd sut i roid gore i fusnes y peirats yma a throi yn lladron pen ffordd fel Die Turpin, a'n bod ni wedi myn'd i gysgu ar ganol planio, ac na ddaru ni ddim deffro o gwbwl nes 'roedd y bora wedi cerddad yn mhell, y capten hwnw a'i wraig a'i hogen, a rhai o griw y llong, wedi myn'd o'r ynys i Bwllheli. Y peth eynta welson ni wedi deffro oedd cwch mawr o Bwllheli yn dwad i'r ynys i nol y gweddill ohonan ni. 'Roedd o yn dwad. dan lawn hwylia, a fflagia yn ffleio o bob man iddo fel tasa rhw Ysgol Sal yn dwad am bicnic yno fo. Os na choeliwch chi'r gweddill o'r hanes gofynweh i'r Maer—" Y Maer "—'toes dim ond un maer yn perthyn i Bwllheli yn y ganrif yma. Mae yno down cownsil, ond tydi rheini yn neb, achos y ewbwl mae nhw'n neyd ydi cynnyg, eilio, a. phasio eu bod nhw i neyd fel ar fel, a wed'yn gadael llonydd i bobpeth i'w crogi fel 'roeddan nhw o'r blaen. 'Toes neb ond Y Maer yn gyfrifol am betha yn Mhwllheli; y fo fedar ddeud wrthach chi ydi'r gweddil o'r bennod yma yn wir ai peidio. Pan ddaeth y cwch i'r ynys dyma'r gweddill o'r criw ddaru Bob a fina achub y noson gynt yn rhedag i lawr at y lan ac yn dechra holi'r dynion oedd yno fo. Mae'r capten wedi deud yr holl hanas," ebra'r dyn oedd wrth lyw y ewch, "mae o wedi adrodd hanas gwroldeb rhyfeddol y ddau hogyn yna, a mae'r dre i gid yn ferw gwyllt trwyddi am gael rhoid derbyniad iawn i'r ddau wron bach sy wedi achub ugien o fywyda neithiwr, -pan na fasa neb arall yn y byd yma yn medru rhoid help llaw iddyn nhw. Mae holl bobol y dre wedi dwad i lawr i'r lan, a'r brass band a'r cwbwl hefo nhw yn barod i roi croesawiad i'r ddau. P'le mae nhw ? Diawst i, Bob," ebrwn wrth fy lifftenant, tyr'd i ni roid slip iddyn nhw rwsut. 'Tydw i ddim yn leicio rhw hen lol felna. Gad i ni ymguddio yn rhwle nes bydd y rhein wedi myn'd." Dim iws I 'Roedd dynion y criw wedi'n spotio ni a wedi gafel yn Bob a fina s'n cario ni ar eu 'sgwydda i lawr i'r cwch. Howld on, lads," ebrwn wrthyn nhw pan oedd y cwch ar fin cychwn o'r ynys efo ni i gid ar y bwrdd, ydach chi'n siwr fod y samon wedi cael ei fyta o'r tunia rheini i gid ? Achos mae modryb wedi nysgu fi bob amsar i beidio wastio dim bwyd." 'Ron i yn reit ffond o samon miawn tunia, os ydack chi'n dallt, ac 'roedd arna i eisio rhwbeth i'w neyd ar y ffordd i Bwllheli, 'tasa dim ond crafu gweulod y tunia. Ond gwrthod myn'd i chwilio am y tunia samon ddaru pawb, a chawn ina ddim myn'd chwaithj felly off A ni heb 'ehwaneg o lol. 'Roedd y m6r wedi tawelu, y gwynt wedi gostegu, yr haul yn twnu yn gynhes ac yn fflasio ar y m'-n-dona nes brifo fy llygaid i; 'roedd yr awal mor dynar a iach nes 'roedd hi'n myn'd drw bob gwythian a chymal i mi, a gneyd i mi deimlo fel 'tasa arna i eisio neidio dros ben town hall Pwllheli dest iawn -er na fasa fawr o gamp gneyd hyny chwaith i rwun miawn iechyd eyffredin. 'Roedd swell marwaidd yn rhedeg i'r lan o'r m6r 'rol storom y noson gynt, a'r eweh, er mor fawr a llawn oedd o, yn cael ei godi yn ara deg ar gefn y tona a'i ollwng wed'yn i lawr i'r pant rhyngyn nhw, nes 'ron i rhwng