Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ADFERTEISIO PELENAU

FFRAETHINEB Y DEON SWIFT

Advertising

HUNANCOFIANT HOGYN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhaid i mi gael ei hogen o yn gariad, ne mi lladdaf o yn gelan gegoer yn y fan cin dwad allan." 'Roedd Bob yn cydwel'd a fi, ond fod arno ofn i'w fodryb ddwad o hyd iddo a'i hel adra i.'w wely yn lie cael dwad allan i'r wlad efo'r ivcorriors oedd yn myn'd i ddychryn pobol Lleyn y noson hono. 'Rol hyn aeth Bob a fi i edrach am ei chums, ac i hel criw o hogiau at eu gilydd, a 'sbonio iddyn nhw be oedd yn myn'd i gym'ryd lie y noson hono. "A 'rwan," ebrwn wrthynt—'roedd yno gryn ddeg ne ddeuddag ohonan ni i gid miawn hen shed yn stryd y moch-" 'rydach chi'n dallt y plan on't ydach chi; 'rydach chi gid yn gwel'd mor neis fydd cael llu mawr arfog i 'mosod ar bobol Lleyn 'run fath a'r Rhufeinied rheini fuo yn y wlad yma ys talwm, tia adag y diwigiad. Mi fydd yna helynt hyd y ffyrdd yna allan yn y wlad heno gewch chi wel'd. Ond 'rydach chi'n gwel'd pa mor berig ydi'r busnas hefyd, hwrach mae cael ein saethu neiff rhei ohonan ni; ond 'toes arna i ddim ofn gwynebu'r gelyn. Ddowch chi, lads, efo Bob a fina? 'Roedd pawb yn barod, a wedi dallt hyny mi egluris iddyn nhw mai fi oedd y capten i fod, a Bob yn nesa ata i, a bod yn rhaid iddyn nhw neyd pob peth yn inion fel baswn i yn deud, a phe tasa rhw berig yn dwad aton ni, mi ddangosis y bydda raid iddyn nhw adel i mi gael dengid oddar y ffordd yn gynta, achos ma fi oedd y capten. "Felly mae nhw'n gneyd efo'r sowldiwrs," ebrwn wrthynt, "achos mae'r dyn fydd yn ben boss ar y sowldiwrs bob amsar yn sefyll o'r neilldu yn ddigon pell o berig, efo umbarelo wrth ei ben i gadw'r bwledi draw." Cin i'r hogia fyn'd adra i nol te-hwrach y te ola gaen nhw am byth yn eu cartrefi cin troi allan i faes y frwydr—'roeddan ni wedi gneyd cytundab i gyfarfod gida'r nos dipin bach allan o'r dre', ac 'roedd pob un o'r hogia i ddwad a ffyn ne bastyna efo nhw, a brechdan miawn papur, a'r gweddill o ddefnyddia rhyfal, achos mae hi yn myn'd i fod yn noson fawr yn ein hanas ni a hanas anibynieth ein gwlad heno," ebrwn wrthynt. Rhaid i ni ffeitio hyd anga, bois, a choncro'r gelyn ne adel ein cyrff yn gelanedda meirw hyd ffyrdd Lleyn yn fwyd i'r moch." (I'w barhau.) Ni dderbynir adfilwyr i'r fyddin Chineaidd onid allant neidio ffos dwy lath o led. Mae deddf y tlodion yn Awstria yn rhoddi hawl i bob dyn tri ugain oed i flwydd-dal cyfartal i drydedd ran ei cnillion dyddiol pan yn gweithio.