Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

AWQRYMIADAU MEDDYCOL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AWQRYMIADAU MEDDYCOL Y mae pryder a gofal ac anesmwythder meddwl yn y dyddiau hyn yn achosi llawer o anhwylusderau ac afiechyd parhaol, ac yn aIwain yn uniongyrchol i wendid gieuog a llesgedd. Profir yn hawdd fod mewn gwlad lie byddo llawer o gamblo ac anturio, a rhag- olygon, a thyrfaoedd o ddynion yn byw mewn amheuaeth ac ofn, fod clefydau y galon a'r ymenydd, gwallgofrwydd, a hunan- laddiadau yn rhwym o amlhau. Y mae pryder yn achosi llawer un i chwilio am noddfa dros amser byr yn nghwmni ac o dan hudoliaeth alcohol, er mwyn boddi y gofid am fynyd awr. Yn erbyn y drygau hyn o gyrhaedd gallu meddygol, ac os mynem fod yn bobl iach, dylem feithrin tawelwch meddwl. Dylai pawb sydd yn ddarostyng- edig i'r anhwylderau crybwylledig ochel pob peth a ddichon beri pryder. TRAED OERION wedi hyny sydd yn achosi llawer anghysur ac afiechyd. Ni ddylai y sawl sydd yn cael ei boeni gan draed oerion wisgo elastic boots, am eu bod yn pwyso ar y migyrnau ac yn attal cylchrediad y gwaed. Gwaherddir gardyson hefyd am yr un rheswm. Hyd yn nod os ydyw y gardyson yn ddigon tyn i ddal yr hosanau i fyny y maent yn ymyraeth a gweithrediad y jlestri gwaed. Bydd y traed yn gynhesach os gwisgir socasau byrion heb goesau iddynt. ANWYD YN TBOI YN GLEFYD.—Clywir hyny yn ami, ac y mae yn berffaith wir y gall anwyd trwm achosi arwyddion felly. Eto, nis gall clefydau gwirioneddol, megis typhus, typhoid, a'r scarlet fever, &c., gyfodi heb i'r gwenwyn penodol gael ei drosglwyddo i'r gwaed. Eto y mae rhywiaint o wir yn yr hen syniad; ond gall dyn cryf ei gyfan- soddiad daflu ymaith y gwenwyn o'i gyfan- soddiad os yn rhydd oddiwrth anwyd, gan fod mwy o berygl i'r clefyd dori allan yn ddifrifol pan fyddo dyn o dan anwyd eisoes. Gan hyny, y mae cymeryd anwyd i'w fawr ochelyd mewn hinsoddau afiach pan fydd elefydau heintus o gwmpas. PBSWCH, ANWYD, A CHAETHIWED YN Y FREST.- Y mae yr anhwylderau hyn yn fynych yn terfynu mewn darfodedigaeth ysgyfeiniol yn yr ieuanc os esgeulusir hwy, ac mewn caethdra a diffyg anadl i rai mewn oed. Gan hyny, y mae y dywediad, 'tydi o ddim ond tipyn o anwyd," yn ddywediad ffol. Achosir yr anhwylderau hyn gan gerbynt o awyr oer pan fyddo'r corph yn dwymn neu yn chwysu. Y mae gadael y traed i barhau yn wlyb hefyd yn eu hachosi. Boss dim perygl i ieehyd, yn cael ei achosi drwy wlychu y traed, os parheir i gerdded o gwmpas, ond y mae eistedd i lawr heb dynu esgidiau gwlybion yn niweidiol iawn. Teimlir y ffroenau yn myned yn dyn ac yn gaeth, caethiwed a diffyg anadl, a phoen trymllyd yn y pen. Cyn bo hir, teimlir cryndod oer, a'r pwls yn curo yn gyflymach nag arferol. Yna y mae crygni a pheswch yn dilyn, gyda phoen a chaethiwed yn y frest. Dylai y rhai sydd yn dueddol i gael anwyd gofio fod hyny yn brawf o wendid difrifol. Dylent gymeryd yn helaeth o ym- arfer corphorol yn yr awyr agored, a rhyw- beth i gryfhau y cyfansoddiad. Y mae gwisg wlanen yn nesaf i'r croen yn wasan- aethgar i ochelyd oerfel disymwth, nid llai felly mewn hinsoddau cynhes nag mewn gwledydd oerion. YMFUDIAETH.-Dylai y sawl a ymadawant a'r wlad hon gymeryd dan ystyriaeth y gwahaniaeth hinsawdd a'i ganlyniadau. Os i New Zealand a Cholumbia Brydeinig y bwriedir myned, 'does dim eisieu rhagochel- iadau neillduol, a gellir dyweyd yr un peth am Tasmania. Yn Awstralia a Deheudir Affrica, nid yn unig y mae y dymheredd ar gyfartaledd yn uwch, ond hefyd gyfnodau o wres angerddol. Gellir dyweyd hyny i raddau pell am Canada a'r Unol Daleithau, hyd yn nod yn y parthau hyny y mae y dymheredd ar gyfartaledd yn is nag yn Lloegr a Chymru. Mewn pob gwlad sydd a'i hinsawdd yn gynhes felly, ac yn nhym. horau haf yr hinsoddau eithafol, y mae gwlybyron meddwol yn fwy peryglus nag yn y wlad hon. Gan hyny, yn Awstralia ac Affrica, yn ystod y tymhor haf yn Canada a'r Unol Daleithau, dylid eu gochel yn llwyr, a dylai gwin a gwlybyroedd brag gael eu cymeryd, os eu cymeryd o gwbl, yn y modd mwyaf cymedrol. Y mae sefyll allan o dan belydrau tanllyd yr haul tua chanol dydd i'w ochelyd hyd y bo bosibl. Dylai swm yr ymborth gymerir fod rywfaint yn llai nag yn Nghymru a Lloegr, ac o natur llai cynhyrfiol (stimulating). CYFFYRIAU.-Y mae llawer o bobl nad ydynt byth yn foddlon heb gymeryd dognau o gyffyriau yn mhob salwch ac anhwylder, ac yn fynych yn achosi niweidiau difrifol drwy gymeryd cyffuriau anghyfaddas. Yr anhwyldeb mwyaf cyffredin sydd yn peri anesmwythder meddyliol, heb fod yn saldra gwirioneddol, ydyw tewychiad neu folrwym- edd. Y mae yn wir ei bod o bwys ffurfio arferiad gyson gyda golwg ar yr ymysgar- oedd, oherwydd y mae y corph yn dueddol anymwybodol o ail-adrodd yr ymarferiadau cyson hyny sydd yn tarddu o'r ewyllys; ac y mae llon'd twmbler o ddwfr oer yn y boreu, ac arfer bwyta bara brown, gydag ymarferiad cymedrol, yn ddigonol. Ceisir gwneyd newidiad yn arddull yr hetiau a wisgir, ac eto glynu wrth hetinu UoKgwrs" y maa'r genethod ieuainc. Yr ymgais a wneir yn awr ydyw dwyn yn ol i'r ffasiwn het cherry ripe," megis yr un yn y darlun uchod, yr hon a drefnir gyda lace yn lie muslin. Ar hwn y mae rhwymyn a bow o felfet gwyrdd, gyda swp o cherries, megis pe yn barod i'w bwyta, ac felly yn rhoddi gorpheniad destlus i'r benwisg. Gwelir fod y gwallt wedi ei drefnu yn fodrwyog uwch y talcen, a rhed i lawr yn isel ar y war. -,¡ _r Yn nghyngherdd coffa Haydn Parry druan sylwyd ar rai gwisgoedd hynod ddestlus, o ba rai y mae yr uchod yn un. Arddengys y modd y gall satin, satin cyfrodeddig, a lace gael eu huno. Gyda ffrynt rhydd o liw y daffodil ceir cot laes o'r un defnydd ac arlliw. Taenir blodau ar hyd y frest ac i lawr at y godreu, tra y gorphenir y llewisllydain gyda lace tonog o lwydliw ysgafn. Gwisg arall ydyw un den am y canol, tra y mae trefniad o flodau yn tueddu at wneyd gardd fechan o'r dilledyn sydd o satin glas.