Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

EXCELSIOR I

Y WLAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y WLAD. Pleserau diderfyn wel rhai yn y dre', A gyru tuag yno wna gogledd a de; Ond gweder a fyner, can' mwy o fwynhad I mi sydd yn nghadw yn nghanol y wlad Edmygaf y wlad, Molianaf y wlad, Gwaith dyn yw y ddinas ond Duw wnaeth y wlad. I mi rhowch gymdeithas henafol y bryn, Eistedda fel brenhin ar orsedd y glyn; A'm cyfyd fel tad ar ei ysgwydd dal, gref, I ddangos i'm fawredd oes-oesol y nef Edmygaf y wlad, &c. I mi rhowch y dyffryn, a'r afon, a'r coed, Ddewisodd tawelwch yn drigfan erioed; Lie caf dan bob gofid a chlwyf esmwythad, Lie llonir fy yspryd gan dirion fwynhad Edmygaf y wlad, &c. I mi boed y blodau—ser gloewon y llawr— A'r adar gyhoeddant ddyfodiad y wawr Lie caf yr ehedydd yn 'siampl i fyw- Ei nyth ar y ddaear a'i gan gyda Duw; Edmygaf y wlad, &c. Y wlad os am weled y sanctaidd a'r hardd Y wlad a gais llygad arlunydd a bardd Y wlad os am uthredd arddunol y graig, Neu'r fantell symudliw a wisga yr aig; Edmygaf y wlad, &c. Y wlad os am gipdrem ar fro'r ochor draw, A gwrando y sibrwd oddiyno a ddaw, A meddwl am bethau o fythol barhad, Mae'n Sabbath tragwyddol yn nghanol y wlad; Edmygaf y wlad, &c. Daw'r adeg pan redaf gwys bywyd i'r pen, Llaw angau yn dyner a gyfyd y lien Rhydd cofio un Uecyn i'm bruddaidd fodd- had, Y man lie mae'r ywen yn nghanol y wlad; Edmygaf y wlad, Molianaf y wlad, Gwaith dyn yw y ddinas ond Duw wnaeth y wlad. W. LLEWELYN WILLIAMS. Abertawe.

[No title]

PUMMED RESTR 0 WOBRWYON

GWOBRAU MISOL.

TELERAU.