Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

PETH SIWR YDI 0

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PETH SIWR YDI 0 Os mynwch hvyddo yn v byd hwn, rhaid i chwi fod yn ddyfal ac yn ddiwyd, a chadw eich hun i symud yn wastadol fel y dyn yna sy'n myned o ddrws i ddrws i werthu berw'r dwr, peth siwr ydi o. Er hyny, er i ni wneyd ein goreu glas, chwedl y Meirionwysion, yr ydym bob amser yn cael ein hemio rhwng ddoe ac yfory, peth siwr ydi o. Ac heblaw hyny, er fod ein cymydogion yn dyweyd nad erys na llanw na thrai mwy nag agerlong a photel o soda-water, eto gweddus i ni fod bob amser ar ein gwyliad- wriaeth, a chymeryd mantais amserol a phrydlon o bob cyfleusdra, peth siwr ydi o. Y mae canwr drwg ar lwyfan cyhoeddus yn llai diesgus na'r mul; oherwydd gwnai y mul aderyn hardd, oni buasai ei fod wedi cael yr anwyd, peth siwr ydi o. Y mae traed mawr a breichiau hirion wedi bod bob amser yn fwy o ddefnydd yn y. gors, nag o addurn yn y ddawns, peth siwr ydi o. Mae'n ddigon gwir fod yr hen Gryffudd Jos yn rhoi cynghor da heb ofyn cwestiynau. Os ydyw ef yn taflu toes i'r ieir, bwytaent ef, heb ofyn i'r ceiliogwydd ei grasu iddynt, peth siwr ydi o. 'Does un rhithyn o wirionedd mewn dwy ran o dair o'r celwyddau sydd yn cael eu taenu ar led y wlad y dyddiau hyn, peth siwi ydi o. A oes gan un ohonom ddigon o wroldeb i wynebu y'dyn yr ydym yn ei ddyled ar yr heol, a dyweyd wrtho yn wyneb agored: Anwyl gyfaill, cymerwch gydun o'm gwallt i gofio am danaf, a chedwch ef, er mwyn yr hen gydnabyddiaeth, nes y bydd i ffawd fy nghynnysgaeddu a digon o'r metel gloew hwnw i'eh talu yn ol eich haeddiant ?" Nac oes, peth siwr ydi o. A oes un o ddarllenwyr "Papur Pawb" na wel reswm yn nghynghorion yr hen Gryff- udd, pan y dywed — "Cedwch allan o ddyled, trwy fod yn gall ac yn synnil; cedwch o afael y gyfraith, trwy yrnddwyn yn onest y naill tuagat y llall; cedwch o afael tlodi, drwy fod yn sobr ac yn ddiwyd; a chedwch o afaelion haiarnaidd serch, drwy briodi," nac oes, peth siwr ydi o. Y mae "nhw'n deyd" fod amser da yn dyfod, ond cofiwch mai Nhw" sy'n deyd an mai "Nhw ydy' nhw" bob amser. Mae Nhw yn clywed, yn gweled, ac yn gwybod pethau na feiddiai neb arall eu clywed, eu gweled, a'u gwybod. Y mae yr amser da yn dvfod" bob amser, er pan oedd Eden yn berllan afalau. Ond os nad ydyw wedi cy- meryd yn ei ben orphwyso ar v ffordd, mae o'n sicr o ddal i ddwad nes y bydd o wedi eyrhaedd yma, peth siwr ydi o. Y mae yr hen Gryffudd Jos yn dyweyd fod dwy ffordd i flingo cath, a dwy ffordd i cnill serch; dwy ffordd i wisgo crys main, a dwy ffordd i ddyweyd stori yn gystal ag i weini elusen banner dwsin o ffyrdd i fyned i lawr i drybini, a dim ond un ffordd i gadw allan ohono. Mae hyny'n ddigon gwir, peth siwr ydi o.

PA BRYD?

CALON AM GALON

Advertising