Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
CHWAREU'R BOBL ALLAN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CHWAREU'R BOBL ALLAN Y mae organydd enwog o'r Almaen yn arfer ymweled a Llangrediniol bob deohreu haf. Dydd Sul diweddaf, aeth i'r eglwys yno gyda cliyfaill iddo o'r ardal, ag sydd yn aelod o'r cor. Aeth yn sibrwd yn mhlith y cantorion, ac yr oeddynt yn awyddus am gael ei glywed yn chwareu. Sibrydodd y cantwr yn nghlust yr hen Andrew y byddai raid iddo adael i'r gwr dyeithr chwareu y voluntary yr arferir ei chwareu pan fyddo'r gynnulleidfa yn myned allan, neu chwareu y bobl allan, fel y dywedir. Trodd yr hen Andrew ei drwyn yn ysgornllyd wrth glywed hyny; ondy mae y cymhelliad yn dyfod yn rhy gryf, nes y mae o'r diwedd yn caniatau, a'1' boneddwr dyeithr yn eistedd i lawr wrth yr organ. Yr oedd y gynnulleidfa wedi cyfodi ifyned allan, ac wedi myned hanner y ffordd tua'r drws. Ond clywch! Pa swn newydd yw hwnyna? Yr oedd rhyw gemciau newydd yn dyfod o'r organ. Yr oedd rhyw gordiau na chlywyd mohonynt o'r blaen yn crynu'r awyr. Arhosodd y gynnulleidfa yn synedig i wrando, gan edrych ar eu gilydd yn syn. edig. Yr oedd hyd yn nod yr hen ficer wedi aros ar y grisiau hanner y ffordd i lawr o'v pwlpud, wedi ei swyno. Gwelodd yr hen Andrew sub yr oedd pethau yn bod. Yr oedd y gynnulleidfa fel pe wedi ymgaregu, ac yn methu symad tua'r drws. "Pw," meddai, "dyna beth sy'n dwad o ymyraeth! Fedrwch ohwi ddim chwareu'r 1" N allan Gadewch i mi ddangos i chwi sut y mae gwneyd." A chyda gwth ddi- seremoni i'r boneddwr dyeithr, eisteddodd i lawr, a chwareuodd un o'i hen bethau eihun. Aeth y bobl allan yn benisel; ac wedi gwagu'r eglwys, cyfododd yr hen Andrew i fyny yn fuddugoliaethus, ac aeth allan ar eu holau.
PARADWYS l?mOG
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PARADWYS l?mOG Dylai Alexandria fod yn baradwys i'r dyn diog Cyhoeddir cylchlythyr gan awdur- dodau'r portliladd hwn yn galw sylw at y I gwyliau a gedwir yn Alexandria. Y mae'r boblogaeth yn bur gymysglyd, ac nid yw gwyliau r gwahanol ddosparthiadau yn ateb yn dda i'w gilydd. Y mae yno 50 o Suliau Oristionogol, 52 o Sabbathau Iuddewig, 52 o ddyddiau o orphwysfa gan y Mahometan iaid, pedwar dydd Calan, dau Nadolig, ao amryw o ddyddiau ympryd gan Iuddewon a Mahometaniaid. 0 gwbl y mae 173 0 ddiwrnodiau'r flwyddyn yn ddyddiau gwyl, a chan fod yn ddealledig nad oes gweithio i fod arydyddiau hyn mae y ilalurwyr yn cael tua hanner eu blwyddyn yn wyliau. j
HYNODION A NODWEDDION AELOOAU…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYNODION A NODWEDDION AELOOAU SENEODOL Y mae rhai o nodweddion ac arferioli ein haelodau Seneddol mor ddigrifol ag ydynt o amrywiol. Er engraipht, un o hoff arferion yr Hen Ddyn ydyw crafu y tu ol i'w ben a gewin ei fawd. Gwna hyn ganwaith mewn noswaith ac ymddengys fel pe yn cael mesur helaeth o gysur oddiwrth yr arferiad. Os na bydd yn bwriadu siarad, bydd yn cau ei lygaid, ac yn lled orwedd ar y fainc. Ond nid ydyw yn cysgu, er hyny; oherwydd yn awr ac eilwaith neidia i fyny yn sydyn. i ddatgajn ei gymeradwyaeth neu ei wrth- wynebiad i'r hyn a siaredir. Y mae Mr Gladstone yn hwyrdrwm iawn ei glyw; ond y mae yn ffaith hynod na bydd yn rhoddi ei law wrth ei glust i wrandaw ar neb yn siarad ond Mr Chamberlain a Mr Jesse Collings. Y gwr sydd yn gwisgo y gwynebpryd mwyaf hirllaes yn y Ty ydyw Syr N. Kay- Shuttleworth. Y mae ei ymddangosiad mor awgrymiadol o angladd fel yr adnabyddir ef i nifer fawr o'i gymmrodyr yn St. Stephan fel Marchawg y gwyneb prudd." Bydd Mr Goschen, pan yn siarad, yn crafu ei fynwes yn enbyd a'i ddwv law. Y mae Syr William Harcourt yn ami yn Siarad mewn dull ffug-ostyngedig, sydd yn mhell o fod yn cydfyned a'i faintioli a'i ym- arweddiad mewn bywyd preifat. Y mae Syr "William yn un o'r Seneddwyr trymaf yn yr holi dy; ac er ei fod yn ddisgynydd o fren- hinoedd Uinach y Plantagenet, efe sydd yn gwiego y frockcoat fwyaf shabby yn y Senedd. Y mae Syr Charles Russell yn anarferol o hoff o snuff, a clieidw drysawr y Ty swm lielaeth o'r trewlwch er hwylusdod i'r ael- odau. Y mae Mr Iveir Hardie o hyd yn gwisgo ei gap brethyn, ac y mae hefyd yn berchen cadwen oriawr arian dros hanner llath o hyd. Mr William O'Brien ydyw y siaradwr mwyaf gwichlyd yn y Ty; ac y mae attal dyweyd trwm ar Mr David Plunket a Syr Richard Temple. Mr Sidney Herbert ydyw y tecaf ei bryd a'r hawddgaraf o'r Seneddwyr; ac y mae Dr Tanner yn cael y cymeriad o fod yn gwisgo yn well na'r un o'i gydseneddwyr. Y mae yn wybyddus fod Mr Labouchere yn hynod hoff o ysmygu cigarettes. Yn yr ystafell ysmocio, fe geir gweled yr aelod dros Northampton yn wastadol yn ysmygu y pethau hyn, os na bydd rhywbeth o bwys yn myned yn mlaen yn y Ty, gan chwythu y tnwg allan drwy ei drwyn.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMRAE& (A sefydlwyd yn 1854, ac a hclaethwyd yn 1859, 1865 1878, 1887, 1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GORElJ o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF EI GYLCHREDIAD. 64 o GOLOFSTAL- HIRION. BOB DYDJ) MAWJJIH CEINIOG, Yn Eisiau: Dosparthwyr h. Golisbwyr lie nad oes rhai eisoes. Cyhoeaawr-DANIEL REES, Carnarvon. CARNARVON AND DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Friday, 2d. Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lead- ing paper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is "the leading Liberal organ for North Wales." w"iThM leadin§ Liberal paper in North Wales. —Liverpool Evening Express. Publisher-DANIEL RBES, Carnarvon. The 'Herald' Steam Printing Works, HIGH STREET, CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Programmes, Placards. Tickets, Dance Cards. Legal Forms, Memorandums, Note Paper. Club Cards, Club Rules, n Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Pamphlets, Quarry Bales. Cata ogues, Sermons. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancy, Accuracy, Neatness, Despatch Note the Address:- 'HERALD STEAM PRINTING WORKS, HIGH STREET, CARNARVON.