Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

EIN CYSTADLEUON

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMHOLYDD: Faint ydyw oed Miss meddwch chwi ? Ei WRAIG: 0, y mae yn ddigon hen i bobl ddechreu dyweyd ei bod yn edrych yn ieuano. PRIODFAB (newydd ddyfod allan o'r gwas- anaeth priodasol): Wel, yr ydw i'n falch fod pobpeth droaodd. GWR PRIOD Pobpeth drosodd ? Y nef- oedd fawr drugarog, ddyn! Dydach ddim ond braidd newydd ddechreu eto. Wi Y CURAD: Yrwan, dyna ddigon o glebran. Oes rhaid i mi.ddeud wrtho chi drwy'r dydd ? HOGEN Sosr: Pe buasem ni yn gwybod sut i'ch stopio chi, syr, mi wnapw. UN HEB EI RADDIO Yr ydw i yn dyweyd wrthoch chi'n onest na fydda i ddim yn alluog i dalu am y siwt ddillad yma dan y flwyddyn nesaf. Pryd y bydd hi'n barod ? TEILIWR Y^flwyddyn nesaf, syr. Y mae Isabela Jones yn myn'd i drafaelio o dan ffugenw yr wythnos 1 nesaf." Wel, i be 'di hyny da?" "Wyddost ti ddim 'i bod hi'n myn'd i briodi, ac yn myn'd i ffordd am ei mis m&l?' Yr oedd Arthur bach wedi bod yn yr eglwys. Sut yr oeddat ti'n leicio'r bregeth, Arthur ? "0, yn o lew," meddai y bychan; "yr oedd ei dechreu hi yn dda iawn, ac felly yr oedd ei diwedd hi, ond yr oedd yna ormod o'r canol yni hi i fod yn bregeth dda." Gofynwyd i eneth fechan bump oed, gwallt yr hon sydd yn fflamgoch, gan ei thaid, am -gudyn bychan o'i gwallt i'w ddodi yn ei bwrs i'w ddwyn adref er mwyn ei ddangos i'w nain. Nhaid," meddai'r fechan, "fuasai well i chi beidio, mae o'n siwr o losgi twll drwy eich pwrs chi cyn y cyrhaeddwch chi adref." "Mae John Thomas yn, dyweyd fod arnoch 5p iddo," meddai cyfreithiwr wrth un o'i gwsmeriaid oedd wedi galw gydag ef. 11 Oes, oes," oedd yr atebiad, "abuaswn wedi talu er's talm, onibai fod arn&f ofn brifo ei deimladau." Beth ydych yn f eddwl 2 [ Yr oedd arnaf ofn y buasai yn tybio fy inod yn meddwl fod arno angen arian," JOHNNY: Mam, dydi bodiau fy nhraed ddim mor galed a lledr, a ydynt ? Y FAM: Nag ydynt. JOHNNY: Wel, ynte, pa'm mae'n nhw'n gwisgo eu huu drwy fy esgidiau? @@j Fy nhacl," medclai baeboen, 11 a ydych yn byfu o hyd ? "Nag ydw, Frank," meddai, "beth wnaeth i ti feddwl hyny ? "O! gwel'd eich pan yn dod drwy eich gwallt." Y CLBRC Mi fu yma foneddiges yn gofyn 0 am dano chi, syr, pan 'roeddech chi allan." -1 Y MASNACHWR Sut un oedd hi ? Y CLERC: Byr a gwallt du, a dafaden ar ei thrwyn. Y MASNACHWR: 0, nid boneddiges oedd pO\lo. Fy ngwraig i ydoedd hi.