Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

MAE SON AM DANYNT

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MAE SON AM DANYNT DUO SAXE-COBURG. RHYW daro yn chwithig y mae'r ffaith fod un o Dywysogion Prydain Fawr, a mab i'n Brenhines, yn dwyn y teitl uchod, ac eto nid ydyw y peth i'w synu ato pan ystyrir y gymysgfa a gymer le yn nghwrs amser oherwydd priodasau, marwolaethau, a chyf-, newidiadau yn safleoedd teuluaidd gwahanol deyrn Ewrop. Priododd ei Mawrhydi gyda'r Tywysog Francis Albert Augusta Charles Emanuel (Albert Dda), yr hwn ydoedd ail fab y Due Saxe-Coburg a Gotha. Y brawd hynaf ar ol y tad a deyrnasodd ar y Dalaeth Germanaidd Saxe-Coburg, a chan iddo farw yn ddiblant, i ran ein Tywysog Cydweddog ni y syrthiasai yr urddas o deyrnasu ar y Dalaeth hono pe bua,sai yn fyw. Yn naturiol, i fab hynaf y Tywysog Albert y disgynasai yr urddas nesaf, ond oherwydd y rhagolwg mai efe fydd Brenhin Prydain, ymddiosgodd o'i hawliau a'i freiniau, a syrthiodd y swydd uchel i'w frawd, sef y Tywysog Alfred Alexander William Ernest Albert, ail fab y Frenhines. Fe'i crewyd ef yn Dduc Edinburgh yn 1866, a deil y teitlau o E.G., K.T., P.C., K.P., G.O.SJ., G.C.M.G., LL.D. Ganwyd ef yn 1844, Priododd yn 1874 gyda'r Uchel Dduges Marie Alexandrovina, unig ferch Alexander II. o Rwsia, a chwaer Emprwr presennol y wlad hono. Addysgwyd Due Edinburgh yn Mhrifysgolion Edinburgh a Bonn. Y mae yn Iarll Ulster, Iarll Kent, Tywysog Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a'r Iwerddon. Ymunodd a'r llynges yn 1858; gwnaed ef yn is-gapten yn 1863, yn gapten yn 1866, yn is-lyngesydd yn 1878, yn Llyngesydd Arolygol yr Ad-forfilwyr yn 1879, yn Feistr y Trinity House, ac yn Brif Lyngesydd Llynges Mor y Canoldir yn 1886. Penododd Ymherawdwr Germani ef yn gadfridog un o'r catrodau Germanaidd. Felly fe welir ei fod wedi ei drwytho yn wr o ryfel ar for a thir. Tra yn dal y swydd o Lyngesydd Arolygol yr Ad-forfilwyr talodd ymweliad ag amryw borthladdoedd ar arfor- dir Cymru. 0 ddeg i ddeuddeng mlynedd yn ol galwodd yn Nghaergybi i arolygu y llyngeslong a ddigwyddai fod yn gwarchod y porthladd yn y He, a chymerodd fantais o'r amgylchiad i ymweled a thref Caernarfon i arolygu y Naval Reserve yn y He hwnw, a gwneyd archwiliad ar y Gaerfa a godwyd Dros yr Aber ac i'w hagor. Yr oedd hwnw yn ddydd mawr yn yr hew drel. Cafodd y gwr urddasol dderbyniad croesawgar. Mr G. R. Rees a ddigwyddai fod yn faer ar yr adeg, a chyfarfyddodd ef a'r cynghor trefol, yn nghyda phrif bobl y dref a'r amgylch- oedd, y Due gyferbyn a'r Royal Hotel, lie y cyflwynwyd anerchiad i'w Uchelder Bren- hinol. Wedi hyny aeth y Tywysog i weled y Gaerfa Dros yr Aber, a bu yn cael ymborth yn Llety y Barnwyr yn Castle-street. Teithiodd y Due y rhan fwyaf o'r byd. Yn 1868, y flwyddyn yr ymwelodd Tywysog Cymru o'r blaen a Chaernarfon, yr oedd y Tywysog Alfred ar ymweliad ag Awstralia. Yn y lie hwnw digwyddodd rbywun wneyd cais ar fywyd ei Uchelder Brenhinol, a chyr- haeddodd y newydd i'r wlad yn union ar y diwrnod yr oedd Tywysog Cymru i ddyfod i Gaernarfon. Ofnid yn fawr ar ol y fath ddarpariadau ar gyfer ei dderbyn i'r dref y buasai yr helynt a gyfarfyddodd ei frawd yn attal iddo ddyfod, ond gyda'r prydlondeb, y sirioldeb, a'r hunanaberth hwnw sydd mor nodweddiadol o Etifedd y Goron, cyrhaedd- odd Tywysog Cymru i'r dref y mae ei hanes mor gysylltiol a'r eiddo yntau. Daeth Due Edinburgh allan yn ddianaf o'r helbul yn Awstralia, a bu yn teithio llawer ar ol hyn. Bu farw ei ewythr, Due Saxe-Coburg a Gotha Awst 22ain y flwyddyn ddiweddaf, a dilynwyd ef yn y Dduciaeth gan Due Edin- burgh, yr hwn a gymerodd arno y teitl o Due Saxe-Coburg, wrthyr hyn yr adnabyddir ef bellach. Bu i un o'i ferched briodi y flwyddyn ddiweddaf gyda Thywysog Coronog Roumania. Cwynir yn ami mai enwogi eu hunain yn benaf yn nghyfeiriad rhyfel ac nid heddwch y mae aelodau teuluoedd brenhinol. Ond gellir dyweyd am blant ei Mawrhydi a'u plant hwythau eu bod wedi etifeddu llawer o rinweddau eu tad, Albert Dda, trwy ym. hyddysgu ac ymddifyru yn'y gwyddonau a'r celfyddydau cain, a'u bod yn hoff o noddi llenyddiaeth a cherddoriaeth. Am Duo Saxe-Coburg y mae yn enwog fel dadgeiniad ymarferol ar gerdd tant, a'i hoff offeryn ydyw y crwth. Ymddangosodd ami i dro mewn cyngherddau cyhoeddus yn chwareu y violin, pan fyddai angen poblogi cynnull- iad a chael elw at amcanion neu sefydliadau elusenol. Er fod ei Uchelder Brenbinol i raddau wedi ymestroneiddio o'n gwlad trwy ei oruchwyliaeth newydd fel Teyrn German- aidd, eto ystyrir ef yn esiampl dda o Dywysog Lloegr, a'r hon wlad y parra i dalu ami ymweliad. Gobeithir y bydd i'r ffaith iddi ddisgyn i ran un o dywysogion Prydain Fawr i fod yn deyrn ar un o dalaethau Germani droi allan i fod yn gynnorthwy at barhau a sefydlu heddwch Ewrop, canys diwrnod du fydd hwnw pan welir mab y Frenhines Victoria yn ymgyngreirio gyda llu o dywysogion o dan un ymherawdwr i sarnu gwledydd dan garnau y March Coch.