Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

PARCH OWEN DAVIES, CAERNARFON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PARCH OWEN DAVIES, CAERNARFON. ihNWYD Mr Davies yn 1840, mewn amaeth- dy a elwir Cae Plan, ger Pwllheli. Bedydd- wyr oedd ei rieni, aelodau o'r eglwys yn Mhwllheli. Gan eu bod yn glyd eu ham- gylchiadau, ac mai Mr Davies oedd eu hunig blentyn, rhoddasant iddo ysgolion da. Dygasant ef i fyny yn draper. Dechreuodd bregethu yn 1859, yn Llanelwy, lie yr oedd yn gwasanaethu yn y fasnach hono, ac y fiaae wedi myned yn mlaen gyda'r gwaith da hwn o nerth i nerth, nes y mae erbyn heddyw yn un o brif bregethwyr Cymru, ac yn addurn i'w enwad. Derbyniodd ei addysg athrofaol yn Ngholeg Llangollen o dan y diweddar Dr Prichard, a'r diweddar Dr Hugh Jones. Yr eglwys gyntaf y bu efe yn weinidog iddi oedd Eglwys Tre- ffynnon yn 1865. Ond ni bu yno yn hir derbyniodd alwad unfrydol oddiwrth Eglwys Llangollen i fod yn weinidog yno yn lie Dr Prichard. Gwesgid arno yn gyffredinol gan eglwysi y cyfundeb i dderbyn yr alwad 8,13a eu bod yn ystyried ei bod o'r pwys b:J.wyaf i gael' un yno yn weinidog a ellid edrycharno fel patrwm fel bugail a phre- gethwr gan yr efrydwyr ieuainc. Bu yn gweinidogaethu yno yn llwyddiannus am tua deng mlynedd, pan y llwyddwyd i'w gael yn 01 i'w sir enedigol i lenwi y lie oedd wedi 12aYned yn wag yn Caersalem, Caernarfon, trwy farwolaeth Cynddelw, ac yma y mae Wedi bod byth wedi hyny yn bur gymer- adwy gan ei eglwys ei hun a holl eglwysi y Bedyddwyr yn y sir, y rhai edrychant i fyny ato fel eu hesgob. Y mae hefyd yn barchus a chymeradwy iawn gan ei frodyr o enwadau ereill. Y mae yn awdwr amryw lyfrau gwertbfawr, megis Cofiant y Dr Prichard," Darlithoedd ar yr Actau," ac ereill. Efe yw golygydd y Greal. Bydd galwadau ami am ei wasan- aeth i gadw y "cyrddan mawr." Rhwng pobpeth, y mae ganddo lawer iawn o waith; ond y mae yn bur drefnus a diwyd gydag ef, ac a drwyddo yn effeithiol a didrwst.' Y mae yn bregethwr rhagorol, yn wr o gynghor, a phenderfynolrwydd di-droi-yn-ol. Cymer bwyll a hamdden i ffurfio ei farn, ond wedi ei ffurfio, ofer yw ceisio ei symud. Yn nghanol y ddadl fwyaf boethlyd bydd Mr Davies yn hollol dawel a hunanfeddiannol, ac yn gyffredin bydd yn cario ei farn i fuddugoliaeth.

\ TROt Y BYRDDAU

? HANESYN AM HANDEL

GWERTH HEN ARIAN

[No title]

Advertising